Archives
2231 canlyniadau
Mae’r sioe fwyaf i fusnesau newydd yn y flwyddyn newydd yn ôl! P'un a ydych chi'n ddarpar entrepreneur neu'n entrepreneur presennol, mae'n rhaid i chi fynychu’r StartUp Show. Mae'n gyfle i chi nid yn unig ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am ddechrau busnes ond hefyd i gysylltu â chynghorwyr ac arbenigwyr busnes a fydd yn helpu i fynd â'ch menter i'r lefel nesaf. Cynhelir y digwyddiad ar 28 Ionawr 2023 yng Ngholeg...
Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn gweithio gyda'r Centre for Connected and Autonomous Vehicles (CCAV) i fuddsoddi hyd at £16 miliwn mewn prosiectau arloesi. Nod y gystadleuaeth hon yw targedu cyfleoedd cerbydau hunanyrru masnachol cynnar a chefnogi cadwyn gyflenwi'r DU i dyfu a llenwi bylchau technoleg sy'n angenrheidiol ar gyfer eu defnyddio. Bydd y prosiectau hyn yn datblygu technolegau, cynhyrchion a gwasanaethau Symudedd Cysylltiedig ac Awtomataidd (CAM) yn gynigion...
Wrth i'r gaeaf gydio, gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gadw pobl mor gyfforddus â phosibl wrth weithio yn yr oerfel. Mae'r canllawiau wedi cael eu hadnewyddu er mwyn ei gwneud hi'n haws canfod a deall cyngor ar sut i ddiogelu gweithwyr mewn tymereddau isel ac uchel. Mae Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu tymheredd rhesymol dan...
Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cyhoeddi eu cyfres o ddigwyddiadau rhithwir byd-eang, a gynhelir rhwng 10 a 24 Ionawr 2023. Bydd digwyddiad rhithwir Accelerate to Net Zero: Europe yn cael ei gynnal ar 11 Ionawr 2023. Bydd y rheiny sy'n mynychu yn dysgu mwy am yr heriau busnes a'r cyfleoedd ar eu llwybr i gyrraedd allyriadau Sero Net. Cewch glywed gan arweinwyr hinsawdd yn Ewrop ar sut i gynyddu cyflymder a graddfa gweithredu ar yr hinsawdd...
Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i ddeddfu yn erbyn rhestr drylwyr o blastigau untro, wrth i'r Senedd gymeradwyo deddfwriaeth i wahardd gwerthu cynhyrchion tafladwy, diangen i ddefnyddwyr. Mae'r gyfraith newydd yn gam allweddol i leihau llif gwastraff plastig niweidiol i amgylchedd Cymru, ac mae'n cael ei chyflwyno ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Gan ddod i rym yn nhymor yr hydref 2023, bydd yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol orfodi'r drosedd...
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ei ymgyrch ‘ Help for Households’. Nod yr ymgyrch yw helpu pobl drwy gostau byw y gaeaf hwn. Mae rhai o'r pynciau’n cynnwys: Pecynnau band eang a ffôn rhatach - tariffau cymdeithasol a phecynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cheaper broadband and phone packages - Ofcom Gostyngiadau...
Mae'r Comisiwn Geo-ofodol wedi lansio Galwad am Dystiolaeth fel rhan o waith i adnewyddu Strategaeth Geo-ofodol y DU, yn unol ar ymrwymiad yn y cyhoeddiad 2020. Ei nod yw casglu barn rhanddeiliaid ar yr hyn sydd wedi newid ers 2020 a pha ddatblygiadau, heriau a chyfleoedd fydd yn effeithio fwyaf ar yr ecosystem dros y blynyddoedd i ddod. Bydd yr alwad am Dystiolaeth yn cau am 11:45pm ddydd Llun 12 Rhagfyr 2022. Dyma gyfle delfrydol...
Mae'r ffordd y mae'n rhaid i sefydliadau'r DU, sy'n gyfrifol am becynnu, gyflawni eu cyfrifoldebau ailgylchu yn newid. Os yw'r Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) newydd ar gyfer pecynnu yn effeithio arnoch chi (gan gynnwys diwygiadau i'r system Nodyn Ailgylchu Pecynnu (PRN), mae angen i chi ddechrau casglu'r data pecynnu cywir o 1 Ionawr 2023. Ni fydd yn orfodol casglu eich data pecynnu tan fis Mawrth 2023, a bydd angen i chi ddechrau rhoi gwybod am...
Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod cynllun cyllido gwerth £3 miliwn i gefnogi'r sectorau pysgodfeydd, morol a dyframaethu bellach ar agor ar gyfer mynegi diddordeb. Mae'r cyllid ar gael dros ddwy flynedd ac yn disodli Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop flaenorol. Nod Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yw cefnogi cynhyrchwyr bwyd môr, cymunedau arfordirol a'r amgylchedd forol i ffynnu, drwy fuddsoddi'n strategol er budd y sector yn y tymor hir. Yn y rownd...
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Ddoe (5 Rhagfyr 2022), cyhoeddodd Llywodraeth y DU gymeradwyo pedwar cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghymru, i ddisodli cyllid yr UE yr oedd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud penderfyniadau yn ei gylch ac a oedd yn destun gwaith craffu gan y Senedd. Mae hyn yn golygu, gyda llai na phedwar mis yn weddill yn y flwyddyn ariannol hon, y gall dyraniadau cyllid ar...
Pagination
- Previous page
- Page 223
- Next page