Archives
2251 canlyniadau
Mae'r ffordd y mae pobl yn gweithio wedi newid yn sylweddol ers y pandemig ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu i gadw'r manteision cadarnhaol a brofir gan lawer ac annog mwy o fusnesau i fabwysiadu'r dull newydd hwn o weithio. Mewn strategaeth a gyhoeddwyd heddiw (25 Mawrth 2022), mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau i weithio gyda busnesau, undebau llafur a rhanddeiliaid allweddol i helpu...
Ymunwch ag Wythnos Technoleg Ariannol y DU rhwng 4 Ebrill a 8 Ebrill 2022, a fydd yn arddangos arloesedd mewn gwasanaethau ariannol ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Wythnos Technoleg Ariannol y DU yn dychwelyd fel cysyniad hybrid newydd sbon, a gallwch ddisgwyl pum diwrnod o gynnwys o safon byd gan rai o’r enwau mwyaf ym myd cyllid, llywodraeth a thechnoleg. Bydd sylfaenwyr technoleg ariannol, cyn-weithwyr banc, technolegwyr, entrepreneuriaid, buddsoddwyr, rheoleiddwyr, llunwyr polisi, gwleidyddion, academyddion a’r...
Bydd Banc Lloegr yn tynnu statws arian cyfreithlon yr £20 a’r £50 papur ar ôl 30 Medi 2022, ac yn annog unrhyw un sy’n meddu arnynt i’w gwario neu eu hadneuo yn eu banc neu Swyddfa’r Post. Wrth iddyn nhw gael eu dychwelyd i Fanc Lloegr, maen nhw’n cael eu disodli gan bapur £20 polymer gyda darlun o J.M.W. Turner, a phapur £50 polymer gyda darlun o Alan Turing. Ar ôl 30 Medi 2022, y...
O ddydd Llun 28 Mawrth 2022, ni fydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mwyach yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er y byddant yn parhau i gael eu hargymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus. Bydd y gofyniad i hunanynysu hefyd yn symud i fod yn ganllawiau. Bydd taliad hunanynysu o £500 i gefnogi pobl yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin. Fodd bynnag, bydd dau amddiffyniad cyfreithiol allweddol yn parhau...
Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn fenter unigryw i greu rhwydwaith cenedlaethol o goetiroedd a choedwigoedd sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Bydd yn: ymestyn hyd a lled Cymru, gan ei gwneud yn hygyrch i bawb bod yn fenter gymunedol go iawn gyda choetiroedd newydd yn cael eu plannu gan gymunedau, ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru creu ardaloedd newydd o goetiroedd yn ogystal ag adfer a chynnal coetiroedd unigryw ac anadferadwy Cymru gwarchod natur a mynd i'r afael...
Sefydliad ieuenctid gwirfoddol yw Urdd Gobaith Cymru gyda 55,000 a mwy o aelodau rhwng 8 a 25 oed, sy'n darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru i'w helpu i wneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymunedau. Sir Ddinbych yw cartref Eisteddfod yr Urdd eleni rhwng 30 Mai a 4 Mehefin 2022. Mae 500 o gystadlaethau ar gael i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd. Mae'r...
Eich eiddo deallusol yw un o’ch asedau busnes pwysicaf ac mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol am helpu busnesau ledled y DU i ddiogelu a manteisio i’r eithaf ar eu heiddo deallusol nhw. Bydd gan bron bob buses ryw fath o eiddo deallusol, ac mae’n bwysig gwybod sut y gallwch ei ddiogelu i sicrhau nad oes unrhyw un arall yn eich copïo. Mae eiddo deallusol yn rhywbeth rydych chi’n ei greu gan ddefnyddio’ch meddwl - er enghraifft...
Cyflwynodd y Canghellor Ddatganiad Cyllideb Gwanwyn heddiw (23 Mawrth 2022) sy'n cynnwys: trothwyon talu Yswiriant Gwladol yn codi i £12,570 o fis Gorffennaf 2022 y dreth tanwydd ar gyfer petrol a disel yn cael ei thorri 5c y litr torri cyfradd sylfaenol treth incwm 1c yn y bunt yn 2024 cynnyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol toriad i'r cyfradd tapr Credyd Cynhwysol Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan: GOV.UK (www.gov.uk) Spring Statement 2022: documents - GOV.UK...
Eisiau gwybod sut bydd ymuno â’r Chwyldro Ail-lenwi o fudd i’ch busnes? Gwyliwch y ffilm fer hon i wybod mwy: Mae cael eich cynnwys ar yr ap Ail-lenwi yn eich cysylltu â miloedd o ddefnyddwyr yr ap yng Nghymru sy’n chwilio am lefydd lle gallant ail-lenwi eu poteli dŵr yn rhad ac am ddim. Rhowch eich tap ar y map a manteisio ar fwy o sylw, cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’ch busnes, a chyfle...
Ers dros 50 mlynedd, roedd talwyr ardrethi a oedd yn meddiannu mwy nag un uned o eiddo mewn adeilad a rennir gyda busnesau a sefydliadau eraill yn cael eu hasesu ar gyfer ardrethi annomestig (NDR) yn seiliedig ar y rhagosodiad canlynol: Lle'r oedd eu hunedau eiddo yn gyffiniol (yn cyffwrdd), roeddent yn cael un bil ardrethi. Lle'r oedd yr unedau o eiddo'n cael eu gwahanu gan fusnes arall neu arwynebedd mewn cyd-ddefnydd, roeddent yn cael...
Pagination
- Previous page
- Page 225
- Next page