Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Mae Siambrau Cymru wedi agor ceisiadau ar gyfer Gwobrau Busnes Cymru 2024, gan roi cyfle i BBaChau ledled y wlad gystadlu am wobrau mwyaf nodedig Cymru. Y cyfan mae'n rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad arall o Gymru ei wneud yw ateb pedwar cwestiwn am beth rydych chi'n ei wneud a pham rydych chi'n haeddu ennill wrth i chi roi cynnig yn y ffordd sy'n gweithio orau i'ch busnes. Gallwch gystadlu drwy gyflwyno fideo...
Manylion consesiynau arlwyo Eisteddfod Rhondda Cynon Taf. Mae'r cyfleoedd canlynol ar gael drwy dendr ar gyfer Eisteddfod 2024: Pentref Bwyd (nifer cyfyngedig o unedau arlwyo symudol) Cynigion manwerthu eraill ar hyd y Maes Platiad amgen (ardal fwyd awyr-agored o dan y coed) Hufen ia Arlwyo a siop y maes carafanau Maes B Ffreutur criw'r Maes Dyddiad cau: 12pm 9 Chwefror 2024. I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Consesiynau arlwyo Eisteddfod 2024 |...
Gwobrau Great Taste y Guild of Fine Food yw’r cynllun achredu mwyaf eang a dibynadwy yn y byd ar gyfer bwyd a diod. Mae cael panel o dros 500 o arbenigwyr i brofi eich bwyd neu ddiod yn ffordd gyflym o gael adborth gonest, syml a diduedd gan gogyddion, prynwyr, ysgrifenwyr ym maes bwyd, a manwerthwyr. P’un a yw’ch cynnyrch yn derbyn gwobr 1, 2 neu 3 seren, mae sêr Great Taste yn sêl bendith...
Mae Wythnos Lleoliadau Annibynnol, a gynhelir rhwng 29 Ionawr a 4 Chwefror 2024, yn wythnos flynyddol o ddathlu lleoliadau annibynnol yn y Deyrnas Unedig (DU) ar gyfer cynnal digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol, a’r bobl sy’n berchen arnynt, yn eu rhedeg ac yn gweithio ynddynt. Mae dros 200 o leoliadau annibynnol yn cymryd rhan yn y dathliad blynyddol ac mae’r nifer yn cynyddu bob blwyddyn. Ym mhob rhan o’r DU, ceir lleoliad annibynnol gerllaw sy’n barod...
A allech chi elwa o arweiniad ar-lein a mentora un-i-un ar eich taith ddigidol gydag arbenigwyr gwyddor data a deallusrwydd artiffisial (AI)? Bwriedir y rhaglen hyfforddiant, Darganfod Trawsnewid Digidol, i fusnesau neu sefydliadau o unrhyw faint ym meysydd amaeth, y diwydiannau creadigol, adeiladu neu drafnidiaeth, a’i nod fydd helpu eich busnes i archwilio technolegau digidol, AI a thechnolegau wedi’u gyrru gan ddata. Bydd y gyfres hon ar lefel ragarweiniol yn eich helpu i fynd i’r...
Cyfle i chi ddweud eich dweud am ddyfodol cymorth i ffermwyr, wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Cyhoeddir heddiw (dydd Iau, 14 Rhagfyr 2023) yr ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y prif gynllun cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025. Ei nod yw gwneud ffermwyr Cymru yn arweinwyr byd mewn ffermio cynaliadwy. Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw diogelu systemau cynhyrchu bwyd, sicrhau bod ffermwyr yn parhau i ffermio'r tir...
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer storio, rhannu a diogelwch data ar gyfer sefydliadau bach. Meddyliwch yn ofalus ynghylch pryd i ddefnyddio BCC wrth anfon negeseuon e-bost i gyfeiriadau lluosog. Methu defnyddio BCC yn gywir mewn negeseuon e-bost yw un o'r prif doriadau data a adroddir i'r ICO bob blwyddyn – a gall y toriadau hyn achosi niwed gwirioneddol, yn enwedig lle mae gwybodaeth bersonol sensitif dan sylw. Pan fyddwch...