Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i Safonau Masnach Cymru er mwyn helpu i fynd i'r afael â fepio anghyfreithlon yng Nghymru. Bydd y cyllid yn adeiladu ar ymgyrch flaenorol i fynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon, lle cymerwyd meddiant o dros 840,000 o sigaréts anghyfreithlon a mwy na 400 cilogram o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon o eiddo masnachol yng Nghymru. Bydd swyddogion...