news and blogs Archives

2521 canlyniadau

Wrth baratoi ar gyfer ailagor siopau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol, mae’r BRC (Consortiwm Manwerthu Prydain) ac USDAW (Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol) wedi cyhoeddi canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol mewn siopau nad ydyn nhw’n siopau bwyd. Mae’r canllawiau ‘Social Guidance in Retail Stores’ yn cynnwys gwybodaeth am gadw pellter cymdeithasol y tu mewn a thu allan i siopau ac ystafelloedd newid, ac ar ddiogelu gweithwyr. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan...
Mae gan y Sefydliad Iechyd Meddwl Hyb Cyngor ar y Coronafeirws sy’n sôn am sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Mae’n cynnwys: cyngor ar iechyd meddwl gofalu am eich iechyd meddwl wrth weithio gofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles wrth aros gartref unigrwydd yn ystod y pandemig Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl. Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar...
Mae’r wefan Employer Help gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig cyngor amrywiol i helpu’ch busnes i oresgyn heriau sy’n gysylltiedig â’r pandemig COVID-19. Os oes angen i’ch busnes ehangu yn gyflym, neu os ydych chi’n poeni am ddiswyddiadau, gallwch ddod o hyd i gyngor ar y camau nesaf a’r ffyrdd orau o gefnogi’ch staff, gan gynnwys: hysbysebu eich swyddi gwag cymorth ariannol ar gyfer eich busnes cymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith canfod...
Mae Busnes Cymru wedi lansio cyfres newydd o weminarau a chyrsiau digidol ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru sy’n dioddef yn sgil COVID-19. Mae cyfres ‘Covid-19 a’ch Busnes’ yn rhoi sylw i bynciau pwysig, gan gynnwys: arallgyfeirio a modelau busnes amgen llif arian a chyllid gweithdrefnau a pholisïau Adnoddau Dynol rheoli timau a llif gwaith o bell hybu cynhyrchiant negodi â chyflenwyr ac yswiriant Mae'r gweminarau yn rhedeg yn ddyddiol. Yn ystod y...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd miloedd o elusennau bach yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes gwerth £10,000 i’w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID-19. Bydd y pecyn newydd hwn, gwerth £26 miliwn yn cefnogi 2,600 o eiddo ychwanegol gyda gwerth trethadwy o £12,000 neu lai. Mae hyn yn cynnwys: siopau elusen eiddo chwaraeon canolfannau cymunedol Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru. Bydd mwy o...
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn cynnig cyngor ariannol diduedd am ddim ar: ddyledion a benthyg cartrefi a morgeisi cyllidebu a chynilo gwaith a budd-daliadau pensiynau ac ymddeol teulu a gofal ceir a theithio yswiriant Maen nhw wedi cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar eu gwefan mewn perthynas â COVID-19: eich hawliau i dâl salwch pa fudd-daliadau allwch chi eu hawlio os ydych chi’n hunangyflogedig neu heb hawl i Dâl Salwch Statudol eich biliau costau tai symud tŷ...
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd pobl nad ydyn nhw’n gallu gweithio eu horiau arferol oherwydd y coronafeirws (COVID-19) yn dal i dderbyn eu taliadau credydau treth arferol. Ni fydd y rhai sy’n gweithio llai o oriau yn sgil y coronafeirws neu weithwyr y mae eu cyflogwyr wedi’u rhoi ar ffyrlo yn gweld newid yn eu taliadau credydau treth os ydyn nhw’n dal i gael eu cyflogi neu’n hunangyflogedig. Am ragor o wybodaeth...
Byddai’r cynllun benthyciadau Bounce Back yn helpu i gryfhau’r pecyn cymorth presennol sydd ar gael i’r busnesau lleiaf a effeithiwyd gan y pandemig coronafeirws. Mae’r Cynllun Benthyciad Adfer yn galluogi busnesau i gael benthyciad chwe blynedd ar gyfradd llog wedi’i gosod gan y llywodraeth o 2.5% y flwyddyn. Dyma’r manylion: benthyciad o hyd at £50,000 – bydd benthyciadau o £2,000 i hyd at 25% o drosiant busnes neu £50,000, pa bynnag un sydd isaf. gwarant...
Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn dechrau cysylltu â chwsmeriaid a allai fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (SEISS). Mae unigolion yn gymwys os yw eu busnesau wedi’u heffeithio’n niweidiol gan y coronafeirws, os ydyn nhw wedi bod yn masnachu yn y flwyddyn dreth 2019 i 2020, os ydyn nhw’n bwriadu parhau i fasnachu, a’u bod yn: ennill o leiaf hanner eu hincwm drwy hunangyflogaeth heb elw masnachu o fwy...
Mae adrannau Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o weminarau i helpu busnesau i ddeall y cymorth sydd ar gael iddyn nhw yn ystod y pandemig coronafeirws. Maen nhw’n cynnwys: pynciau sy’n cynnwys cefnogi a chadw staff a’r hunangyflogedig, cofrestru i fynychu gweminarau yn y dyfodol neu wylio sesiynau wedi'u recordio masnach ryngwladol, cofrestrwch yma busnesau bach, cofrestrwch yma Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.