news and blogs Archives
2511 canlyniadau
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru manylion y Cynllun Cadw Swyddi fel a ganlyn: Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn parhau hyd ddiwedd mis Hydref Bydd gweithwyr ar ffyrlo ledled y DU yn parhau i dderbyn 80% o’u cyflogau presennol, hyd at £2,500 Bydd hyblygrwydd newydd yn cael ei gyflwyno o fis Awst i gael gweithwyr yn ôl i’r gwaith Bydd y cynllun yn parhau ar ei ffurf bresennol hyd ddiwedd...
Mae Business Builder NatWest bellach yn rhaglen cwbl ddigidol ar gyfer y garfan newydd o fusnesau yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgil coronafeirws. Mae Business Builder yn cefnogi entrepreneuriaid sy’n cychwyn arni ac yn eu helpu i brofi a dilysu eu model busnes, datblygu eu sail busnes a chreu sylfeini cadarn fel y gallant dyfu. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu cyfuniad o ddysgu digidol, cymuned, mynediad at rwydweithiau a dysgu cymheiriaid i fusnesau newydd. Ar...
Mae GlobalWelsh, cymuned annibynnol a dielw sy’n canolbwyntio ar gysylltu ac ymgysylltu â’r Cymry ar wasgar wedi lansio ‘FyMentor’, sef rhaglen fentora Academi GlobalWelsh sy’n canolbwyntio ar gysylltu aelodau o gymuned GlobalWelsh â mentoriaid ledled y byd i gefnogi eu gyrfaoedd a’u huchelgeisiau i ddatblygu busnes. Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen FyMentor yn croesawu diddordeb gan fentoriaid ac unigolion sy’n cael eu mentora yn y gymuned a fydd yna’n cael eu paru yn seiliedig...
Mae Arloesi Bwyd Cymru wedi lansio adnoddau i gefnogi gwneuthurwyr bwyd a diod Cymru yn ystod yr argyfwng COVID-19. Mae’r adnoddau yn cynnwys: dadansoddi a chofnodi risgiau gweithredol o fewn eich busnes rhestr wirio ar gyfer eich busnes rhestr o gyfeiriadau defnyddiol pecyn adnoddau o dros 20 templed Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Arloesi Bwyd Cymru. Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar...
I fynd i’r afael â lledaeniad y coronafeirws, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau fis Mawrth sy’n gosod cyfyngiadau llym ar ymgynnull, ar symudiadau pobl, ac ar y ffordd y mae busnesau’n gweithredu, gan gynnwys eu cau. Maent hefyd yn gosod gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau pellter corfforol rhwng pobl. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y Deyrnas Unedig (SAGE) a chyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru...
Yn sgil y niferoedd enfawr o geisiadau a dderbyniwyd ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd i BBaCh, rydym yn cysylltu â busnesau i’w hysbysu bod eu ceisiadau yn cael sylw cyn gynted â phosibl. Os nad ydych chi wedi derbyn neges eto, gallwn eich sicrhau y byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. Hoffem ddiolch i chi hefyd am eich amynedd yn ystod yr amser anodd hwn. Os hoffech unrhyw gymorth ychwanegol, ewch...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid heddiw ar gyfer y ffermwyr llaeth yng Nghymru sydd wedi dioddef waethaf gan yr amodau eithriadol diweddar yn y farchnad o ganlyniad i COVID-19. Roedd y sector llaeth wedi teimlo effaith y pandemig byd-eang ar unwaith, o ganlyniad i gau y sectorau gwasanaethau bwyd a lletygarwch. I gefnogi’r sector yn ystod y cyfnodau heriol hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gan ffermwyr llaeth cymwys sydd wedi colli...
Trefnir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a bydd yn digwydd rhwng 18 a 23 Mai 2020. Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yw wythnos cenedlaethol y DU i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a phroblemau iechyd meddwl ac mae’n ffordd o ysgogi pobl i weithredu er mwyn hyrwyddo’r neges bod iechyd meddwl yn bwysig i bawb. Mae ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn cynnal digwyddiadau drwy gydol yr wythnos i godi ymwybyddiaeth o...
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod grantiau o rhwng £10,000 a £100,000 ar gael i sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth hanfodol i gymunedau yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Bwriad Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol yw sicrhau bod gan sefydliadau'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gynnal, cynyddu ac addasu gweithgareddau sy’n cefnogi pobl fregus a difreintiedig yn eu cymunedau, fel: pobl sy’n ynysu pobl oedrannus gofalwyr pobl sy’n cael anhawster cael gafael ar fwyd Gellir...
Wrth baratoi ar gyfer ailagor siopau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol, mae’r BRC (Consortiwm Manwerthu Prydain) ac USDAW (Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol) wedi cyhoeddi canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol mewn siopau nad ydyn nhw’n siopau bwyd. Mae’r canllawiau ‘Social Guidance in Retail Stores’ yn cynnwys gwybodaeth am gadw pellter cymdeithasol y tu mewn a thu allan i siopau ac ystafelloedd newid, ac ar ddiogelu gweithwyr. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan...
Pagination
- Previous page
- Page 251
- Next page