news and blogs Archives

81 canlyniadau

Mature Workers
Mae'r rhwydwaith busnes cyfrifol, Busnes yn y Gymuned Cymru yn cynnig lleoedd wedi'u cyllido'n llawn i gyflogwyr yng ngweithdai ar-lein ei Rwydwaith Dysgu Oed-gynhwysol. Yn rhan o'r Rhaglen Pobl Hŷn yn y Gweithle, mae'r gweithdai rhyngweithiol yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol neu bobl â chyfrifoldebau dros Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bydd cyflwyniadau gan siaradwyr arbenigol, cyfle i ddysgu a rhannu arfer gorau, a chymryd camau gweithredu ymarferol i'w rhoi ar waith a...
Lightbulb depicting innovation
Bydd cynllun i gefnogi prosiectau lleol yn ardaloedd arfordirol Cymru yn elwa ar gyllid gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y bydd y Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn bwysig wrth helpu cymunedau arfordirol i wella canlyniadau amgylcheddol. Nod y gronfa yw adeiladu capasiti, gan helpu cymunedau i gymryd camau cynaliadwy sy’n ategu twf ac adferiad mewn ardaloedd morol ac arfordirol lleol. Mae’r mathau o brosiect y gallai’r gronfa eu...
Marine Bollard  and Jayesh Parmar, a relationship manager for Business Wales
Wrth i gostau byw barhau i gynyddu, mae busnesau dan bwysau i ddod o hyd i ffyrdd o leihau eu costau. Gall arweiniad ac awgrymiadau diweddaraf Banc Busnes Prydain eich helpu i gynyddu eich gwytnwch a lleihau eich gorbenion. Mae'r arweiniad yn cynnwys: Canllaw i adeiladu gwytnwch busnes 10 ffordd o leihau costau eich busnes Sut y gall eich busnes fynd i'r afael â chostau byw 7 ffordd o leihau dyled eich busnes I gael...
Mae Hwb Hinsawdd BBaChau yma i helpu busnesau bach i gyflawni eu nodau hinsawdd. Mae Hwb Hinsawdd BBaChau wedi datblygu adnoddau ymarferol am ddim sydd wedi'u teilwra'n benodol i gefnogi BBaChau ar eu taith sero net trwy leihau allyriadau strategol a chyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth hinsawdd. Gall busnesau gyfrifo eu hallyriadau gyda'r Business Carbon Calculator, dysgu sut i gymryd camau gweithredu gyda'r cwrs addysg Climate Fit a chael cefnogaeth drwy'r canllaw Financial Support a’r 1.5°C...
Polymer bank notes
Cyhoeddi cynlluniau arloesol i helpu creu swyddi, cefnogi'r economi a chryfhau'r Gymraeg. Mae cyfres o ymyriadau i gefnogi cymunedau Cymraeg i ffynnu yn economaidd fel rhan o raglen 3 blynedd ARFOR Llywodraeth Cymru gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael ei datgelu gan Weinidog yr Economi Vaughan Gething a Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd heddiw. Mae ARFOR yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Plaid Cymru. Mae'n adeiladu...
Lambing at Llwyn-yr-eos Farm
Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota, Glannau Dyfrdwy, wedi cydweithio i gynnig cyfle unigryw i fusnesau yng Nghymru i sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn cystadleurwydd. Nod y Rhaglen Clwstwr Darbodus Toyota yw cyflwyno gwelliannau mesuradwy o ran cynhyrchiant, drwy rannu a darparu hyfforddiant mewn egwyddorion rheoli darbodus. Dewch i glywed straeon cwmnïau sydd wedi cymeryd rhan yn y Rhaglen, yn ogystal â gan Aelodau Canolfan Rheoli Darbodus Toyota; a fydd yn cefnogi'r gweithgaredd, yn...
Cynllun Grant newydd gwerth £455,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithgareddau diwylliannol ar lawr gwlad neu rai wedi’u harwain gan y gymuned pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae Diverse Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn rheoli'r Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau ar Lawr Gwlad Llywodraeth Cymru ac y bydd y cynllun yn agor ar gyfer ceisiadau ganol mis Awst 2023. Mae Cynllun Grant Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr...
Os oes gennych chi fusnes twristiaeth a lletygarwch sydd â chynigion a/neu rywbeth newydd yn digwydd yr haf hwn, rhowch wybod i Croeso Cymru. Maen nhw eisiau ychwanegu'r wybodaeth ddiweddaraf at Croeso Cymru | Gwyliau yng Nghymru i'r Holl Deulu a rhannu manylion gyda'u cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau. Mae Croeso Cymru hefyd eisiau gwybod beth mae busnesau twristiaeth a lletygarwch wedi'i gynllunio ar gyfer Calan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt, y Nadolig a beth sy'n newydd...
Daniel Bristow co-founder of Studio Bristow Garden Design
Cwmni ynni adnewyddadwy llwyddiannus, sy’n eiddo i’r gymuned oedd y lleoliad perffaith i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian lansio Ynni Cymru – cwmni ynni newydd, sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd yng Nghymru. Mae Ynni Cymru, sydd wedi'i leoli yn M-SParc, Ynys Môn, yn cael ei sefydlu i ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned ledled Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru...
Marine Bollard  and Jayesh Parmar, a relationship manager for Business Wales
Pleidleisiodd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr ar 3 Awst 2023 i gynyddu cyfradd sylfaenol Banc Lloegr i 5.25% o 5%. Mae cyfraddau llog CThEF yn gysylltiedig â chyfradd sylfaen Banc Lloegr. O ganlyniad i'r newid yn y gyfradd sylfaenol, bydd cyfraddau llog CThEF ar gyfer talu'n hwyr ac ad-dalu yn cynyddu. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar: 14 Awst 2023 am randaliadau chwarterol 22 Awst 2023 am randaliadau heb fod yn rhai...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.