news and blogs Archives
31 canlyniadau
Mae ymgyngoriadau cyhoeddus ar ddau Gynllun Rheoli Pysgodfeydd ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr wedi'u cyhoeddi heddiw (17 Gorffennaf 2023). Mae'r ddau gynllun yn canolbwyntio ar gregyn y brenin a draenogiaid môr ac maen nhw wedi’u cynnwys yn y grŵp cyntaf o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn y DU i fod yn destun ymgynghoriad. Bydd y Cynlluniau yn nodi'r polisïau a'r cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli pysgodfeydd er mwyn sicrhau bod stociau pysgod yn cael...
Ydych chi'n fusnes deallusrwydd artiffisial newydd neu’n BBaCh sy'n ceisio datblygu atebion dysgu peirianyddol cyfrifol, cynyddol a dymunol? Bydd Rhaglen Cyflymydd BridgeAI FutureScope gan Digital Catapult yn eich cynorthwyo ar eich taith deallusrwydd artiffisial ac mae wedi cael ei chynllunio i gefnogi busnesau deallusrwydd artiffisial newydd, a BbaChau, i ddatblygu atebion dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial cyfrifol, dymunol a chynyddol. Mae'r rhaglen yn darparu mynediad at bŵer cyfrifiant, arbenigedd technegol a busnes, a chymorth sy'n...
Mae'r safon Pensiwn Byw yn adeiladu ar waith y Cyflog Byw gwirioneddol drwy ddarparu sefydlogrwydd a diogelwch i weithwyr nawr ac yn y dyfodol. Mae'n darged cynilo gwirfoddol i gyflogwyr, i helpu gweithwyr i adeiladu cronfa bensiwn a fydd yn darparu digon o incwm i ddiwallu anghenion dyddiol sylfaenol ar ôl ymddeol. Mae'n cael ei gyfrifo'n annibynnol yn seiliedig ar gost byw wirioneddol. Mae'r safon yn nodi'r cyfraniad blynyddol gofynnol sydd ei angen drwy fywyd...
Bydd Llywodraeth Cymru’n cyd-ariannu trydedd rownd fuddsoddi mewn arloesedd gwyrddach a glanach trwy’r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford fel rhan o’i hymateb i’r argyfwng hinsawdd, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw (12 Gorffennaf 2023). Cafodd y Gronfa sy’n cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, ei sefydlu gan y Ford Motor Company yn 2020 i fynd i’r afael â’r heriau technegol diwydiannol strategol sy’n gysylltiedig â cherbydau carbon isel, gan gynnwys storio ynni trydanol...
Sut i wneud cais am gyllid diogelu i warchod eich man addoli yn erbyn troseddau casineb. Yn 2023 a 2024, mae’r Swyddfa Gartref yn parhau i ddarparu mesurau diogelwch amddiffynnol i fannau addoli yng Nghymru a Lloegr o dan ddau gynllun, sef: Cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol ar gyfer Mannau Addoli Cynllun Diogelwch Amddiffynnol ar gyfer Mosgiau Mae’r cynlluniau’n darparu cyllid ar gyfer mannau addoli a chanolfannau cymunedol sy’n gysylltiedig â ffydd, sy’n agored i droseddau...
Mae'r Farchnad;e Syniadau yn llwyfan cydweithio ar-lein sy'n cynnig cyfleoedd i sefydliadau amddiffyn a diogelwch arloesol rwydweithio a chydweithio â rhanddeiliaid llywodraeth y DU, defnyddwyr terfynol, arloeswyr, diwydiant a'r byd academaidd. Gellir defnyddio'r llwyfan i greu perthnasoedd newydd a meithrin cydweithrediad rhwng sefydliadau deinamig o bob lliw a llun. Mae'r llwyfan wedi cael ei gynllunio i alluogi cydweithredu ag arloeswyr eraill ledled y DU ac i helpu sefydliadau i ennill arbenigedd a chefnogaeth arbenigol i...
Mae ymgyrch Asbestos and You yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn annog gweithwyr ym maes adeiladu i fod yn ymwybodol ynghylch aflonyddu ar asbestos. Lansiwyd dau adnodd newydd am ddim, fel y gall gweithwyr brofi a gwella eu gwybodaeth am asbestos a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag asbestos. Cymerwch gwis cyflym Asbestos and You i brofi eich gwybodaeth am risgiau asbestos a sut i amddiffyn eich hun a phobl eraill rhag dod i gysylltiad...
Ydych chi'n arweinydd benywaidd menter ym maes peirianneg yn y DU? Ydych chi'n chwilio am gyllid i symud eich sefydliad i'r lefel nesaf? Os ydych chi, gallai'r grant hwn fod yn addas i chi. Mae'n bleser gan yr arbenigwr gweithgynhyrchu, Get It Made, gyhoeddi grant newydd, sydd â’r nod o gefnogi mentrau peirianneg dan arweiniad menywod a helpu i annog y genhedlaeth nesaf o fenywod ym maes peirianneg yn y DU. Mae'r grant gweithgynhyrchu'n cynnwys...
Innovate UK smart grants: 2023 Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer arloesiadau ymchwil a datblygu trawsnewidiol sy’n fasnachol hyfyw, a all gael effaith sylweddol ar economi’r DU. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 27 Medi 2023. I ddarganfod rhagor a gwneud cais, ewch i Innovate UK smart grants: June 2023 – UKRI Ofgem, rownd 3: galwad am syniadau Gall sefydliadau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer busnesau ar recriwtio gweithwyr tramor. Mae’r canllawiau yn cynnwys: Cyflwyniad Trwyddedau noddwyr Gwneud cais am drwydded noddi Y system rheoli nawdd a thystysgrifau nawdd Dyletswyddau nawdd Costau nawdd Gwybodaeth ychwanegol I ddarllen y canllawiau, dewisiwch y ddolen ganlynol Recriwtio gweithwyr tramor: canllawiau i fusnesau | LLYW.CYMRU
Pagination
- Previous page
- Page 3
- Next page