news and blogs Archives

741 canlyniadau

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal digwyddiad rhithwir rhyngweithiol am ddim ar 9 Mehefin 2022 i gefnogi busnesau adeiladu sydd â diddordeb mewn recriwtio pobl o'r carchar. Mae'r Uwchgynhadledd Recriwtio Pobl sy’n Gadael Carchar: Gweithdy Adeiladu yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan gyflogwyr gan gynnwys Willmott Dixon a Kier am sut y maent wedi elwa o recriwtio pobl sy'n gadael carchar a byddant yn ymdrin â phynciau gan gynnwys ymarferoldeb recriwtio pobl sy'n gadael carchar...
Yn y gweithdy datblygu cynnyrch newydd (DCN) hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd cwmnïau bwyd a diod yn cael mynediad at fewnwelediad o’r radd flaenaf gan arweinwyr y diwydiant. Mae ymchwil Deietau’r Dyfodol yn rhoi golwg gyntaf, hirdymor ar arferion bwyta defnyddwyr dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn helpu busnesau i ddatblygu fframwaith cynllunio sy’n hanfodol ar gyfer DCN hirdymor a strategaeth fusnes lwyddiannus. Bydd y cynrychiolwyr yn: Deall yn fanwl y...
Mae PRIME Cymru yn rhoi cymorth am ddim i unigolion hŷn yng Nghymru sefydlu busnes, cael hyd i swydd, neu feithrin sgiliau drwy achub ar gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli. Ydych chi’n ystyried dechrau eich busnes eich hun? Neu efallai eich bod chi eisoes wedi dechrau ymchwilio i’r posibilrwydd o weithio i chi’ch hun, ond bod angen ychydig o arweiniad arnoch? Gall PRIME Cymru eich helpu chi. Mae hunangyflogaeth yn aml yn ddewis addas iawn i...
Mae Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol yn gynllun disgresiynol a gyflwynir drwy Gronfa Dyfodol yr Economi, lle y defnyddir cyllid cyhoeddus i gefnogi twf Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu cynnwys o'r radd flaenaf. Bydd y cyllid yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu a datblygu gemau yng Nghymru sy'n awyddus i ddatblygu cynyrchiadau a fwriedir ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol. Fe'i defnyddir hefyd i ddenu cwmnïau mewnfuddsoddi o'r radd flaenaf a all hybu'r economi leol a gadael gwaddol sylweddol...
Bydd Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025 yn cael ei datgelu’n fuan. Bydd y lleoliad buddugol yn cael ei ddewis o blith rhestr fer o 4 lle yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys Bradford, Swydd Durham, Southampton a Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Sut i gymryd rhan Cyn i’r enillydd gael ei gyhoeddi, bydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael sylw trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ar ddydd Llun 23 Mai...
P’un ai’ch bod yn gweithio i chi’ch hun neu’n rhedeg busnes gyda gweithwyr, ni ddylai seiberddiogelwch godi ofn arnoch. Mae gan y National Cyber Security Centre (NCSC) gyngor a gwybodaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaCh). Mae NCSC newydd lansio eu sesiynau e-ddysgu Cyber Security for Small Organisations ac awgrymiadau gwych i staff, sy’n caniatáu i chi gynnwys y pecyn yn rhan o hyfforddiant eich sefydliad chi. I gael rhagor o fanylion am seiberddiogelwch...
Ydych chi’n gwybod sut i ddiogelu enw eich busnes, eich cynhyrchion, cynnwys eich gwefan a mwy? Eich Eiddo Deallusol yw un o’ch asedau busnes pwysicaf ac mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) eisiau helpu busnesau ledled y Deyrnas Unedig i ddiogelu eu Heiddo Deallusol nhw a manteisio arno i’r eithaf. Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn cynnal gweminarau byr sy’n esbonio pob hawl Eiddo Deallusol a’r broses ymgeisio. Y mis hwn, maen nhw’n cynnal gweminarau ar 26...
Mae canllawiau diogelwch cwmwl wedi cael eu hadnewyddu i gefnogi busnesau bach i sefydliadau mawr sy'n symud i wasanaethau yn y cwmwl. Bydd y canllawiau wedi’u hadnewyddu gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – sy'n rhan o GCHQ – yn helpu sefydliadau i gefnogi mudo eu data a'u gwasanaethau ar-lein yn ddiogel i'r cwmwl. Mae sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn defnyddio manteision atebion cwmwl fwyfwy i symleiddio eu gweithrediadau, ac mae'r C anllaw Diogelwch...
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd cludwyr sy'n gwasanaethu cyngherddau cerddoriaeth, chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol yn gallu symud eu cerbydau'n rhydd rhwng Prydain Fawr a'r UE, diolch i fesurau newydd ar gyfer y sector cludo. Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad â'r sectorau cerddoriaeth fyw, y celfyddydau perfformio a chwaraeon, disgwylir i'r mesur cofrestru deuol newydd ddod i rym o ddiwedd yr haf 2022. Bydd yn berthnasol i gludwyr arbenigol sy'n cludo offer ar gyfer digwyddiadau diwylliannol...
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi annog y holl sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu Covid-19 y gwanwyn i fanteisio ar y cynnig cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2022. Mae dyddiad cau o 30 Mehefin 2022 wedi'i gyflwyno i sicrhau y bydd pawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn yn cael cyfnod digon hir rhwng hyn a'r pigiad atgyfnerthu yn hydref 2022, os ydynt hefyd yn gymwys. Mae disgwyl cyhoeddiad yn fuan gan...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.