news and blogs Archives

561 canlyniadau

Mae helpu pobl ag anableddau dysgu i ddod o hyd i waith yn rhan allweddol o’n cynllun gweithredu i sicrhau eu bod yn cael cyfle i fyw bywydau llawn ac annibynnol, yn ôl y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a oedd yn siarad heddiw (23 August 2022) ar ôl cyfarfod â dyn o Gaerdydd sy’n dathlu carreg filltir yn ei waith. Cyfarfu Mrs Morgan â Harry Clements, 28, sydd â syndrom Down, yn ei...
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt. Mae 10 Gwobr Dewi Sant, a'r cyhoedd sy’n enwebu am 9 ohonynt: Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Busnes Chwaraeon Dewrder Diwylliant Gweithiwr critigol (gweithiwr allweddol) Pencampwr yr Amgylchedd Person Ifanc Ysbryd y Gymuned Gwobr Arbennig Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw 31 Hydref 2022. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Enwebwch nawr | LLYW.CYMRU
Wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau’r haf, mae Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn atgoffa teuluoedd a allai fod yn colli allan ar Ofal Plant Di-Dreth i gofrestru. Mae teuluoedd yn cael hyd at £500 bob tri mis (£2,000 y flwyddyn) fesul plentyn, neu £1,000 (£4,000 y flwyddyn) os yw eu plentyn yn anabl, gan helpu tuag at gost clybiau cyn ac ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd, clybiau...
Mae grantiau dechrau busnes carbon sero net yn cynnig cymorth ariannol i egin fusnesau cymdeithasol Cymreig ddechrau masnachu neu fuddsoddi, ynghyd â chymorth technegol i ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd. Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n ceisio helpu egin fusnesau cymdeithasol i lwyddo, gan ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd ar yr un pryd. Mae Cylch 2 y cynllun ar agor nawr i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol...
Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod digon o awyru mewn rhannau caeedig o'u gweithle. Gwyliwch fideo yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) sy'n nodi'r cyngor allweddol ar gyfer darparu digon o awyr iach yn y gwaith. Mae tudalennau gwe yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd yn rhoi cyngor ar wella awyru yn y gweithle. Mae'r tudalennau'n cynnwys golwg ar: pam mae awyru mor bwysig sut i wella awyru sut i gadw'r tymheredd yn gyfforddus...
Mae Innovate UK, fel rhan o UK Research and Innovation, yn cynnig hyd at 50 o Wobrau Menywod sy’n Arloesi i fenywod sy'n entrepreneuriaid ym mhob rhan o'r DU. Bydd yr enillwyr yn derbyn grant o £50,000 a phecyn mentora, hyfforddi a chymorth busnes pwrpasol. Nod y gystadleuaeth hon yw dod o hyd i ferched sydd â syniadau cyffrous ac arloesol a chynlluniau uchelgeisiol fydd yn ysbrydoli eraill. Mae'r gwobrau ar gyfer sylfaenwyr benywaidd, cyd-sylfaenwyr...
Gallai busnesau sy’n defnyddio llawer o drydan, fel gweithfeydd dur a phapur, gael rhyddhad ychwanegol o dan gynigion newydd i helpu i gymorthdalu eu costau trydan. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgynghori ar yr opsiwn i gynyddu lefel yr esemptiad ar gyfer rhai costau amgylcheddol a pholisi o 85% o gostau i hyd at 100%. Daw’r ymgynghoriad i ben am 11:45pm ar 16 Medi 2022. Mae hyn yn adlewyrchu prisiau trydan diwydiannol uwch yn...
Bydd y brechiadau’n cael eu rhoi o ddechrau mis Medi 2022 ymlaen i helpu i atgyfnerthu imiwnedd pobl sydd â risg uwch yn sgil COVID-19, gan eu diogelu yn well rhag salwch difrifol, ac i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod gaeaf 2022-23. Bydd ein strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn sicrhau bod pobl gymwys hefyd yn cael eu diogelu rhag y ffliw tymhorol ac rydym yn annog pobl i fanteisio ar y brechlyn...
Os yw eich busnes yn mewnforio nwyddau i'r DU, yna mae angen i chi symud i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau nawr. Os na fyddwch yn gwneud hynny, ni fyddwch yn gallu mewnforio nwyddau i'r DU o 1 Hydref 2022. Hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio asiant tollau i'ch helpu gyda datganiadau tollau, mae yna gamau y mae angen i chi eu cymryd o hyd. Mae angen i chi: danysgrifio i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau dewis dull...
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eich barn ar y strategaeth arloesi ddrafft i Gymru. Bydd yn cydnabod y rôl bwysig y mae arloesi yn ei chwarae ar gyfer: llywodraeth busnesau y trydydd sector sefydliadau academaidd ac ymchwil Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Medi 2022. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Strategaeth arloesi i Gymru | LLYW.CYMRU

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.