news and blogs Archives
531 canlyniadau
Heddiw (20 Medi 2022), bydd cam allweddol yn cael ei gymryd i leihau’r llif o wastraff plastig sy’n dinistrio bywyd gwyllt a’r amgylchedd yng Nghymru gan y disgwylir i Fil sy’n gwahardd plastigion untro gael ei osod gerbron y Senedd. Mae mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yn ganolog i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Caiff y rhan fwyaf o blastigion eu gwneud o danwyddau ffosil. Gall eu lleihau gynorthwyo ein hymdrechion tuag at sero...
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd 8000 o fusnesau yng Nghymru i gymryd rhan yn y bedwaredd Arolwg Masnach Cymru. Bydd y rhan fwyaf o fusnesau a wahoddir i gymryd rhan yn cyflogi dros 20 o bobl. Mi fydd ymateb pob busnes i Arolwg Masnach Cymru yn llywio gwaith i roi hwb i'n hadferiad economaidd ac adeiladu Cymru well. Dywedodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru: "Mae’r digwyddiadau digynsail y tair blynedd diwethaf wedi arwain at...
Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn am y tair blynedd nesaf i ddathlu cynhwysiant mewn arloesedd. Bydd 50 o wobrau’n cael eu cynnig i fentrau micro, bach neu ganolig ledled y DU i gefnogi amrywiaeth mewn busnesau. Mae Innovate UK ac Innovate UK KTN yn cynnal digwyddiad briffio ar 26 Medi 2022, i roi mwy o wybodaeth i chi am y cwmpas ar gyfer y gystadleuaeth hon a'r gefnogaeth sydd...
Er mwyn diogelu eich eiddo deallusol y tu allan i'r DU, fel arfer, bydd angen i chi wneud cais ym mhob gwlad rydych chi eisiau amddiffyn eich eiddo deallusol ynddi. Mae hawliau eiddo deallusol (IP) yn diriogaethol. Maen nhw ond yn rhoi amddiffyniad yn y gwledydd lle cant eu caniatáu neu eu cofrestru. Os dim ond amddiffyniad yn y DU sydd gennych, efallai y bydd eraill yn cael defnyddio eich IP dramor heb dorri eich...
I nodi dyddiad Angladd Gwladol Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II, bydd dydd Llun, 19 Medi 2022, yn Ŵyl Banc genedlaethol. Bydd hyn yn caniatáu i unigolion, busnesau a sefydliadau eraill dalu eu parch i'w Mawrhydi a choffáu Ei theyrnasiad, tra'n nodi diwrnod olaf y cyfnod o alaru cenedlaethol. Bydd yr Ŵyl Banc hon yn gweithredu yn yr un modd â Gwyliau Banc eraill, ac nid oes hawl statudol i amser i ffwrdd. Gall cyflogwyr gynnwys...
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, y sefydliad trydydd sector Settled a'r cyfreithwyr Newfields Law, sy’n arbenigo ar fewnfudo, er mwyn parhau i ddarparu cymorth, tan 31 Mawrth 2023, i wladolion yr Undeb Ewropeaidd (UE), yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir sydd am aros yng Nghymru. Ers mis Mehefin 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu...
Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Gwarant Pris Ynni i deuluoedd a busnesau tra'n cymryd camau ar frys i ddiwygio marchnad ynni sydd wedi torri. Gwarant Pris Ynni O 1 Hydref 2022, bydd 'Gwarant Pris Ynni' newydd yn golygu y bydd aelwyd nodweddiadol yn y DU nawr yn talu hyd at £2,500 y flwyddyn ar gyfartaledd am eu bil ynni am y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn awtomatig ac yn berthnasol i bob aelwyd. Bydd...
Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mae data ein gwaith gwyliadwriaeth yn parhau i ddangos bod cyffredinrwydd COVID-19 mewn cymunedau ac ysbytai yn gostwng yn dilyn y don ddiweddar a achoswyd gan is-deipiau BA.4 a BA.5 o amrywiolyn Omicron y coronafeirws. Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau o hyd, ac rydym newydd ddechrau cyflwyno brechiad atgyfnerthu yr hydref yn erbyn COVID-19. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu erbyn mis Rhagfyr a...
Eisiau dechrau neu dyfu eich busnes ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Archwiliwch adnoddau am ddim gan Enterprise Nation i'ch helpu i ddechrau arni. Darganfyddwch y Startup Kit i lansio eich menter a phori canllawiau arbenigol ar sut i lwyddo ar draws diwydiannau a sianeli poblogaidd. Mae'r Startup Kit yn cynnig yr holl offer a'r awgrymiadau sydd eu hangen arnoch i fod yn entrepreneur. Cewch gymorth i ddod o hyd i syniad, amlygu bwlch...
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi llunio canllawiau ar sut i atal damweiniau i blant ar ffermydd. Mae gan amaethyddiaeth un o'r cyfraddau anafiadau angheuol uchaf o unrhyw ddiwydiant ym Mhrydain Fawr ond dyma'r unig ddiwydiant risg uchel sy'n gorfod delio â phresenoldeb cyson plant. Mae ffermydd yn gartrefi yn ogystal â gweithleoedd, ac mae'n bosibl y bydd ymwelwyr, gan gynnwys plant, hefyd yn bresennol ar ffermydd. Gallwch ddod o hyd i gyngor...
Pagination
- Previous page
- Page 53
- Next page