news and blogs Archives

381 canlyniadau

Nod y rhaglen Resource Efficiency for Materials and Manufacture (REforMM) yw i'r DU fod yn arweinydd ym maes effeithlonrwydd adnoddau gyda sefydliadau’n deall effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cylchred oes gyfan cynnyrch. Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £15 miliwn yn rhaglen REforMM, gyda sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am gyfran o hyd at £1 miliwn ar gyfer prosiectau astudio dichonoldeb. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar bum maes...
Oes gennych chi enw da iawn – ydych chi’n feistr swyddogaethol? Ydych chi'n cael eich cydnabod a'ch parchu'n gadarnhaol gan eich grŵp cyfoedion? Ydych chi wedi ymdrochi yn eich maes dewisol? Ydych chi'n rhagori yn eich masnach neu'ch proffesiwn? A yw hi'n amlwg eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth i'ch tîm neu'ch cymuned? Wrth i chi ymdrechu i lwyddo, rhaid i chi ragori ar eich galwedigaeth, dawn neu faes arbenigedd penodol. Gelwir hyn yn feistrolaeth swyddogaethol...
Bydd Green Home Finance Accelerator (GHFA), sy’n rhan o Net Zero Innovation Portfolio Llywodraeth y DU, yn darparu hyd at £20 miliwn o gyllid grant i gefnogi dylunio, datblygu a threialu ystod o gynigion cyllid sy'n annog effeithlonrwydd ynni domestig ac ôl-osod gwres carbon isel yn y sectorau perchen-feddianwyr a rhentu preifat. Mae'r GHFA yn annog banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau sy'n gweithio gyda'r rheiny yn y diwydiant cyllid i ddod at ei gilydd a...
Mae'r pecyn newydd a grëwyd mewn partneriaeth ag UK Highways A55 Ltd a Chynghorau Sir Ynys Môn a Gwynedd yn cynnwys ystod helaeth o fesurau, gan gynnwys parcio am ddim, datrysiadau i wella llif y traffig, mynediad at lwybrau teithio llesol a safleoedd bws ychwanegol i gefnogi’r bobl y mae’r penderfyniad i gau’r bont yn effeithio arnynt. O 1 Rhagfyr 2022 ymlaen bydd modd parcio am ddim mewn meysydd parcio yn nhref Porthaethwy ac yn...
Mae gwybodaeth am iechyd ymhlith y wybodaeth bersonol fwyaf sensitif y gallech ei phrosesu am eich gweithwyr. Mae cyfraith diogelu data yn berthnasol pryd bynnag y byddwch yn prosesu gwybodaeth am iechyd eich gweithwyr. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn cynhyrchu adnodd ar-lein gyda chanllawiau pwnc-benodol ar arferion cyflogaeth a diogelu data. Mae'r ICO yn rhyddhau drafftiau o'r gwahanol feysydd pwnc fesul cam ac yn ychwanegu at yr adnodd dros gyfnod. Mae drafft o'r canllawiau...
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yn dathlu cyflawniadau a chyfraniadau busnesau bach a phobl hunangyflogedig ledled y DU. Fel y digwyddiad mwyaf o'i fath yng nghalendr y busnesau bach, mae'r Gwobrau Dathlu Busnesau Bach proffil uchel FSB yn rhad ac am ddim i ymgeisio ac yn agored i bawb. Gan y bydd enillwyr pob categori yn ennill lle yn rownd derfynol fawreddog y DU ac yn cael cyfle i gael eu coroni'n Fusnes Bach...
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach (SBS) eleni, diwrnod lle caiff siopwyr eu hannog i wario gyda chwmnïau lleol, ar 3 Rhagfyr 2022. Anogir pob mathau o fusnesau bach i gymryd rhan, felly p’un ai ydych chi’n fusnes teuluol, yn siop leol, yn fusnes ar-lein, yn gyfanwerthwr, yn wasanaeth busnes neu’n gwmni gweithgynhyrchu bach, cofiwch fod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn eich cefnogi! I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Dydd Sadwrn y...
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn cynhyrchu canllawiau pwnc-benodol ar arferion cyflogaeth a diogelu data. Mae'r ICO yn rhyddhau drafftiau o'r meysydd pwnc gwahanol fesul cam ac yn ychwanegu at yr adnodd dros gyfnod. Mae drafft o'r canllawiau ar fonitro yn y gwaith bellach wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori arnynt yn gyhoeddus. Nod y canllawiau drafft yw rhoi canllawiau ymarferol ynghylch monitro gweithwyr yn unol â deddfwriaeth diogelu data a hyrwyddo arfer da...
Mae UnLtd a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru wedi partneru er mwyn dod o hyd i, ariannu a darparu cefnogaeth i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y rheini o gefndiroedd sydd wedi'u hymyleiddio. Gan gydnabod bod pandemig Covid-19 wedi dwysáu'r anghyfartaledd sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, nod Ecwiti yw cynorthwyo'r rheini sydd wedi'u heffeithio waethaf. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn gweithio i'r deilliannau a nodir yn Trawsnewid Cymru trwy Fentrau Cymdeithasol...
Mae'r Arolwg Cyn-filwyr yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC) a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Ei nod yw dysgu mwy am fywydau cymuned Lluoedd Arfog y DU, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae Llywodraeth y DU am wneud yn siŵr mai'r DU yw'r lle gorau i gyn-filwyr fyw erbyn 2028. Mae newid eisoes wedi dechrau. Am y tro cyntaf, gwnaeth y cyfrifiad gyfrif cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU. Drwy gymryd rhan yn yr arolwg...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.