news and blogs Archives
221 canlyniadau
Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £2 miliwn mewn benthyciadau i fentrau micro, bach a chanolig eu maint (BBaCh). Mae benthyciadau ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cyfnod hwyr hynod arloesol sydd â’r potensial gorau ar gyfer y dyfodol. Dylai fod llwybr clir at fasnacheiddio ac effaith economaidd. Rhaid i'ch prosiect arwain at gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd sy’n sylweddol o flaen eraill sydd ar gael ar hyn o bryd neu'n cynnig defnydd arloesol...
Mae dyddiau ac wythnosau rhyngwladol yn achlysuron i addysgu'r cyhoedd am faterion sy'n peri pryder, i ysgogi ewyllys ac adnoddau gwleidyddol i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang, ac i ddathlu ac atgyfnerthu cyflawniadau'r ddynoliaeth. Mae bodolaeth diwrnodau rhyngwladol yn rhagddyddio sefydlu'r Cenhedloedd Unedig, ond mae'r Cenhedloedd Unedig wedi eu hymgorffori fel arf eirioli pwerus. Caiff International Mother Language Day ei gynnal ar 21 Chwefror 2023 ac mae’n cydnabod y gall ieithoedd ac amlieithrwydd ddatblygu...
Mae’r cynnydd diweddar yng nghostau byw wedi gwneud i nifer ohonom wynebu heriau annisgwyl. Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod dros 12 miliwn o bobl nawr yn benthyg arian am fwyd neu filiau hanfodol ac mae hanner ohonynt yn gwneud hwn am y tro cyntaf yn eu bywydau. Mae’r canlyniadau’n dod wrth i’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) lansio ymgyrch newydd i gyrraedd pobl sy’n cael trafferth gyda phwysau costau byw, a fydd yn rhedeg...
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cael eu henwebu gan y cyhoedd. Mae deg Gwobr Dewi Sant. Rhoddir pob gwobr mewn categorïau penodol o weithgarwch a llwyddiant: Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Busnes Chwaraeon Dewrder Diwylliant Gweithiwr critigol (gweithiwr allweddol) Pencampwr yr Amgylchedd Person Ifanc Ysbryd y Gymuned Mae'r enwebiadau ar gyfer gwobrau 2024 yn cau ar 19 Hydref 2023. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Gwobrau Dewi Sant | LLYW.CYMRU
Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters wedi pennu’r cyfeiriad ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru mewn datganiad sy'n rhoi newid hinsawdd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth y Senedd “Fyddwn ni ddim yn cyrraedd Sero Net os na fyddwn ni’n stopio gwneud yr un peth drosodd a throsodd.” a rhoddodd wybod am ganfyddiadau rhai dogfennau allweddol sy'n llywio dyfodol adeiladu ffyrdd yng Nghymru. Mae'r dogfennau newydd yn cynnwys...
Ydych chi'n gyflogwr gyda staff yng Nghymru? Os felly, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ddiddordeb mewn clywed am eich profiad fel rhan o’u hymchwil i ddealldwriaeth cyflogwyr o’r berthynas rhwng iechyd a lles gweithwyr a gwaith, a’r anghenion cysylltiedig. Maen ICC wedi comisiynu Opinion Research Services (ORS), cwmni ymchwil annibynnol, sydd wedi’i leoli yn Abertawe, i wneud yr ymchwil i wneud yr ymchwil, a ddylai gymryd dim ond 10 munud i'w gwblhau. Mae dyddiad...
Cynhelir Wythnos Dysgu yn y Gwaith rhwng 15 a 21 Mai 2023 a'r thema eleni yw ‘ Create the Future’ a chaiff ei harwain yn genedlaethol gan Campaign for Learning. Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn ddigwyddiad blynyddol unigryw i feithrin diwylliannau dysgu yn y gwaith. Ei nod yw rhoi sylw i bwysigrwydd a manteision dysgu a datblygu parhaus. Bob blwyddyn, mae miloedd o sefydliadau'n cynnal ymgyrchoedd a gweithgareddau bywiog, creadigol sy'n hyrwyddo diwylliant...
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi lansio cronfa dwristiaeth Y Pethau Pwysig gwerth £5 miliwn ar gyfer 2023 i 2025. Mae Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ar draws Cymru. Mae prosiectau blaenorol a ariannwyd gan Y Pethau Pwysig wedi cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, gwell cyfleusterau toiledau ac i geir, cyfleusterau Changing Places hygyrch a gwell arwyddion a phaneli dehongli. Bydd Y...
Mae Gwobrau Ashden 2023 bellach ar agor i’r holl arloeswyr hinsawdd sy’n trawsnewid y byd gwaith. Mae’r Gwobrau yn cyflymu arloesi o ran hinsawdd, gan helpu busnesau, elusennau, llywodraethau ac eraill i rymuso eu heffaith yn y DU ac mewn cenhedloedd incwm isel. Gallwch wneud cais am ddim ac mae’r dyddiad cau ddydd Mercher, 8 Mawrth 2023. Am ragor o wybodaeth, ewch i Wobrau Ashden The Ashden Awards - Ashden
Mae tîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yn dymuno eich gwahodd i ddigwyddiad rhad ac am ddim i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth 2023 yn Nhŷ Portland, Bae Caerdydd. Rhoddwyd arian i bedwar o sefydliadau yng Nghymru ar gyfer cyflawni eu prosiectau unigryw yn Uganda a Lesotho er mwyn tynnu sylw at gydraddoldeb rhywiol a ffyrdd o rymuso menywod, gan weithio ar y cyd â’u partneriaid yn Affrica. Mae Hub Cymru Africa...
Pagination
- Previous page
- Page 22
- Next page