news and blogs Archives

2091 canlyniadau

Ydych chi am gael gwybod mwy am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer busnesau bach yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19)? Cofrestrwch ar gyfer gweminarau am ddim a gynhelir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Cymorth ariannol ar gyfer busnesau bach yn ystod coronafeirws - a gynhelir ddydd Mawrth 5 Mai 2020 am 11am. Bydd y gweminar hwn yn trafod: cymhwyster ar gyfer grantiau busnes bach gwneud cais am fenthyciad treth...
Gweithiwr ar ffyrlo? Beth am fynd ati i ddysgu ar-lein? Gall dysgu ar-lein: eich helpu i wella eich sgiliau eich helpu i ddysgu sgiliau newydd helpu gyda’ch llesiant Cysylltwch â Cymru’n Gweithio am gyngor arbenigol ar yr hyfforddiant ar-lein sydd ar gael trwy: ffonio 0800 028 4844 e-bostio cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu ymweld â gwefan Cymru’n Gweithio am ragor o wybodaeth Mae gwybodaeth a chyngor am gefnogaeth i ddatblygu sgiliau ar dudalennau Porth Sgiliau Busnes Cymru hefyd...
Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen wedi lansio Liber, prosiect pedwar mis i fynd i'r afael â'r heriau o ganlyniad i argyfwng Covid-19 mewn carfan o fusnesau newydd a busnesau bach a chanolig. Mae hanes wedi dangos fe ddaw’r datblygiadau arloesol mwyaf pwerus yn ystod cyfnodau o galedi. Mae'n siŵr y bydd hyn yn un o'r adegau hynny. Fodd bynnag, nod prosiect Liber yw lansio llwyddiant entrepreneuraidd y DU, drwy ddod a chriw at ei...
Yn sgil gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae gweithio ar eich pen eich hun wedi dod yn llawer mwy cyffredin. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau ar gyfer cyflogwyr i gadw gweithwyr unigol yn iach ac yn ddiogel. Mae eu taflen ddiwygiedig Protecting lone workers: How to control the risks of working alone ar gyfer unrhyw un sy’n cyflogi gweithwyr unigol, neu sy’n cyflogi gweithwyr unigol, neu sy’n ymgysylltu â nhw fel contractwyr...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd hi’n haws i yrwyr bysiau a lorïau adnewyddu eu trwyddedau gyrru sy’n dirwyn i ben, ac mae wedi ymlacio’r gofyniad dros dro i yrwyr bysiau a lorïau ddarparu adroddiad meddygol gan feddyg er mwyn adnewyddu eu trwydded. O dan y cynllun, bydd gyrwyr yn gallu derbyn trwydded blwyddyn dros dro, ar yr amod nad oes ganddynt gyflyrau meddygol sy’n effeithio ar eu gyrru a bod eu trwydded...
Mae Llywodraeth Cymru yn newid y gofyniad craidd i bobl beidio â gadael y lle ble maent yn byw i ofyniad i beidio â gadael neu aros o’r lle hwnnw. Bydd hyn yn helpu i esbonio i bobl sy’n gadael eu cartref gydag esgus rhesymol – fel mynd allan i siopa am fwyd, ar gyfer gofal iechyd neu i’r gwaith – nad ydynt yn gallu aros allan i wneud pethau eraill. Mae'r canllawiau eraill a...
Mae gwasanaeth ar-lein newydd, a fydd yn paru cyflogwyr â cheiswyr gwaith sy’n chwilio am waith ym maes amaethyddiaeth, y tir a milfeddygaeth yn ystod y pandemig COVID-19, wedi’i lansio. Yn ystod y pandemig coronafeirws, mae’n hollbwysig bod busnesau gwledig a’r tir – gan gynnwys ffermydd a busnesau â rhwymedigaethau lles anifeiliaid – yn gallu cael gafael ar weithwyr allweddol a pharhau i weithredu. Mae LANTRA yn creu gwasanaeth paru sgiliau a fydd yn rhoi...
Mae mwy o bobl yn gweithio gartref, yn gofalu am blant a threulio amser ar-lein ers yr argyfwng coronafeirws. Mae Llywodraeth y DU wedi llunio canllawiau am gadw’n ddiogel ar-lein, sy’n cynnwys: Stay connected Stay safe Check the facts Take a break Advice for parents and carers Useful links Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae’r Adran Masnach Ryngwladol wedi diwygio trefniadau ar gyfer prosesu ceisiadau am drwyddedau yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19). Hysbysiad i allforwyr 2020/10: proses ceisiadau trwyddedau yn ystod y coronafeirws. Rhagor o wybodaeth yma. Hysbysiad i allforwyr 2020/09: Canllawiau diweddaraf yr Uned Rheoli Allforio ar y Cyd ar archwiliadau cydymffurfiaeth ar gyfer trwyddedau agored yn ystod coronafeirws. Rhagor o wybodaeth yma.
Mae twyllwyr yn manteisio ar ledaeniad coronafeirws (COVID-19) er mwyn twyllo a chyflawni seiberdroseddau. Mae’r heddlu wedi nodi cynnydd mewn sgamiau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhybudd i helpu elusennau i leihau’r risg o ddioddef twyll a seiberymosodiadau o’r fath. Gallai pob elusen, ond yn enwedig y rhai sy’n darparu gwasanaethau ac yn cefnogi cymunedau lleol yn ystod yr argyfwng hwn, gael eu targedu gan dwyllwyr. Twyll caffael Mae sawl...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.