news and blogs Archives

2011 canlyniadau

Gall busnesau wirio nawr ydyn nhw’n gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o gam nesaf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru. Mae’r Gronfa wedi’i llunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth grant eraill nad oes angen eu had-dalu oherwydd COVID-19 gan Lywodraeth Cymru. Gall busnesau cymwys hawlio hyd at: £10,000 ar gyfer microfusnesau £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig £690,000 ar gyfer busnesau mawr Mae’r...
Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ac yn argymell y dylai pobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Mae'r dystiolaeth yn glir mai cadw pellter o 2 fetr a sicrhau hylendid dwylo da yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu eich hun ac eraill rhag dal coronafeirws, ond mae’r canllawiau diweddaraf gan Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y gallai gorchuddion...
Mae’r Comisiynydd Busnesau Bach yn cynorthwyo busnesau i ddatrys anghydfodau ynghylch materion talu hwyr ac annheg ac yn darparu cyngor, gan gynnwys ar sut i weithredu os oes taliad yn ddyledus. Gan fod llawer o berchnogion busnes wedi’u heffeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan Covid-19, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod busnesau bach yn cael eu talu’n brydlon. Mae llawer o fusnesau bach yn gofyn am gymorth, gydag anghydfodau ynghylch taliadau hwyr neu mewn rhai achosion...
Mae cyflogwyr yn wynebu amgylchiadau digynsail wrth ymateb i goronafeirws. Er bod sefyllfaoedd gweithio wedi newid o bosibl, dydy dyletswyddau cyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr anabl neu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ddim wedi newid. Mae canllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi cyfarwyddiadau syml i gyflogwyr ar yr addasiadau y mae’n rhaid iddyn nhw eu gwneud a beth i’w wneud os nad yw addasiadau yn bosibl. Am ragor o...
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau ar gyfer cyflogwyr sy’n darparu hylif diheintio dwylo yn eu gweithleoedd, ac ar gyfer gwneuthurwyr presennol a newydd hylifau diheintio dwylo a diheintyddion arwynebau. Mae gan y canllawiau wybodaeth am sut mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rheoleiddio’r cynhyrchion bioladdol hyn ac maen nhw’n cynnwys: dewis yr hylifau diheintio dwylo a’r diheintyddion arwynebau priodol gweithgynhyrchu a chyflenwi hylifau diheintio dwylo gweithgynhyrchu a chyflenwi diheintyddion arwynebau...
Mae’r DU a Chanada yn cyd-gynnal cystadleuaeth gyllido i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd i ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd. Rhaid i'r prosiectau dargedu gwelliant o ran cynhyrchiant a chynaliadwyedd systemau cnydau, da byw a dyframaeth. Croesewir cynigion: sy’n cyfuno technolegau digidol, deallusrwydd artiffisial, cymhwyso datrysiadau data mawr a pheirianneg ag elfennau biolegol, amgylcheddol a/neu wyddor gymdeithasol i yrru cynhyrchiant datblygu technolegau a datrysiadau sy’n cysylltu ffermydd a chadwyni cyflenwi trosglwyddo...
Mae’r Gymdeithas Siopau Bwyd (ACS) wedi gweithio gyda Safonau Masnach i roi eglurder i siopau lleol am werthu cynhyrchion gyda chyfyngiadau oedran mewn perthynas â chwsmeriaid sy’n gwisgo masgiau neu orchuddion ar eu hwynebau. Wrth serfio cwsmeriaid sy’n gwisgo masgiau wyneb a gorchuddion wyneb sydd am brynu cynhyrchion sydd â chyfyngiadau oedran yn y siop, dylai manwerthwyr ystyried y canlynol: dylai manwerthwyr barhau i orfodi polisïau Herio 25 os na all y manwerthwr asesu oedran...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi llythyr i’r Adran Drafnidiaeth, er mwyn rhoi sicrwydd i yrwyr ac i atgoffa busnesau o’u rhwymedigaethau i ddarparu cyfleusterau toiled a golchi dwylo addas i yrwyr sy’n ymweld â’u safleoedd. Dylai busnesau sy’n danfon neu’n derbyn nwyddau sicrhau bod gan yrwyr fynediad hawdd a diogel at doiledau a chyfleusterau golchi dwylo er mwyn cefnogi eu hiechyd a’u lles wrth iddyn nhw wneud gwaith pwysig. Mae canllawiau’r Awdurdod...
Mae CThEM wedi ymestyn y terfyn amser ar gyfer hysbysu penderfyniad i optio i drethu tir ac adeiladau, i 90 diwrnod o’r dyddiad y penderfynwyd i optio. Mae hyn yn gymwys i benderfyniadau a wnaed rhwng 15 Chwefror a 30 Mehefin 2020. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae gwyliau blynyddol â thâl yn hawl gyfreithiol y mae’n rhaid i gyflogwr ei darparu. Mae gan bob gweithiwr hawl i gael amser i ffwrdd gyda thâl am bob awr maen nhw’n ei weithio, dim ots os ydyn nhw’n gweithio’n rhan amser, yn gweithio shifftiau neu’n gweithio oriau afreolaidd. Pobl sy’n gweithio patrymau gwaith gwahanol, fel gweithwyr asiantaeth neu staff dros dro, yn ogystal â gweithwyr rhan amser neu’r rheini sy’n gweithio shifftiau sydd yn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.