news and blogs Archives

1961 canlyniadau

Mae’r Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad yn gronfa ar gyfer mentrau cymdeithasol ac elusennau sy’n gwella bywydau pobl ledled y DU sy’n profi tarfu ar eu model busnes arferol o ganlyniad i COVID-19. Fe’i sefydlwyd i wneud cynllun presennol Llywodraeth y DU, Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS) yn fwy hygyrch i elusennau a mentrau cymdeithasol. Mae’r Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad wedi’i hanelu at y sefydliadau hynny sy’n wynebu problem...
Yng Nghymru a Lloegr, bydd newidiadau dros dro yn cael eu cyflwyno i'r deddfau trwyddedu er mwyn caniatáu i eiddo trwyddedig werthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle. Mae'r Bil Busnes a Chynllunio yn cyflwyno nifer o fesurau brys i helpu busnesau i fynd yn ôl i weithio a llwyddo yn yr amgylchiadau newydd a heriol hyn, drwy gael gwared ar rwystrau tymor byr a allai greu trafferth. Bydd y Bil yn helpu busnesau...
Ymunwch â gweminar ryngweithiol wedi’i gwesteio gan ELITE, rhwydwaith byd-eang sy’n helpu cwmnïau uchelgeisiol i ehangu a chael gafael ar gyllid. Fel rhan o’r weminar, byddwch yn meithrin methodoleg ansoddol ar gyfer asesu effaith COVID-19 ar eich busnes. Byddwch hefyd yn cael gafael ar offer ymarferol i asesu cyfleoedd twf a chreu cynllun gwydnwch, er mwyn helpu i adeiladu busnes cynaliadwy i’r dyfodol. Cynhelir y weminar ddydd Mercher 15 Gorffennaf 2020 rhwng 9am ac 11am...
Bydd y sioe rithwir nid yn unig yn cynnig llwyfan i bartneriaid gynnal seminarau a sesiynau holi ac ateb byw, ond bydd yn canolbwyntio hefyd ar addysgu’r cyhoedd ynglŷn ag amaethyddiaeth, cynnyrch Cymreig a’r amgylchedd. Bydd yn arddangos nifer o unigolion sy’n arbenigwyr yn eu maes i annog ymroi i sgil newydd neu arfer techneg newydd a fydd yn fodd i grefft draddodiadol barhau i fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Am ragor o wybodaeth ewch...
Mae prentisiaeth yn ‘Ddewis Doeth’ sydd wedi’i greu o gwmpas anghenion y cyflogwr a gall helpu i weddnewid eich busnes trwy gynnig ffordd i fanteisio ar dalent newydd ffres, sy’n meddu ar sgiliau’r sector. Mae prentisiaethau yn parhau i chwarae rôl hanfodol bwysig yn: darparu’r sgiliau o ansawdd uchel sydd eu hangen ar gyflogwyr helpu busnesau ar bob lefel cynnig ffordd i gyflogwyr adfywio, ehangu sicrhau cynaliadwyedd drwy roi hwb o dalent ffres gwella sgiliau...
Bydd profion MOT gorfodol yn cael eu hailgyflwyno o 1 Awst 2020 wrth i gyfyngiadau COVID-19 godi bob yn dipyn. Oherwydd achosion o'r coronafeirws, ym mis Mawrth cafodd gyrwyr ganiatâd i gael eu heithrio rhag profion MOT am 6 mis er mwyn helpu i arafu lledaeniad y firws. Fodd bynnag, gan fod y cyfyngiadau'n cael eu llacio, mae'n rhaid i yrwyr â char, beic modur neu fan sydd angen prawf MOT o 1 Awst ymlaen...
Mae Llywodraeth Cymru yn estyn ei mesurau er mwyn diogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt rhag cael eu troi allan yn ystod yr haf. Mae’r estyniad hwn i’r moratoriwm ar fforffediad prydlesau masnachol yn cael ei gyhoeddi wrth i fusnesau manwerthu dianghenraid ddechrau ailagor yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf. Er y dylai’r rhent sy’n ddyledus gael ei dalu lle y bo’n bosibl, bydd y mesur hwn yn sicrhau na fydd unrhyw fusnes yn...
Bydd cynllun grantiau Covid-19 i fusnesau sydd wedi cofrestru i dalu ardrethi annomestig yn cau ar gyfer unrhyw geisiadau newydd am 5yh ar 30 Mehefin 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gyflwyno'r grantiau i fusnesau cymwys. mae grant o £25,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu adeiladau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 grant o £10,000 i bob busnes sy’n gymwys am ryddhad...
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio Cyfnod 1 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd y rhaglen gyllid yn cefnogi busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni i drawsnewid i ddyfodol carbon isel a lleihau eu hallyriadau drwy ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon a datgarboneiddio. Bydd y cyllid Cyfnod 1 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn agor ym mis Gorffennaf a bydd werth hyd at £30 miliwn. Mae cyllid ar gael ar ffurf cynllun...
Mae’r prosiect blynyddol yn dathlu’r enghreifftiau gorau o entrepreneuriaeth yng Nghymru. Caiff gwobrau eu cyflwyno i’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf ym mhob un o sectorau allweddol economi Cymru, yn ogystal â gwobrau unigol ar gyfer twf hirdymor cynaliadwy. Mae prosiect Twf Cyflym 50 yn dibynnu ar gael gwybodaeth a cheisiadau wedi'u cwblhau gan gwmnïau sydd wedyn yn cael eu gwirio gan ddata Tŷ’r Cwmnïau neu drwy gyfrifyddion y cwmni. Bydd y ceisiadau yn cael eu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.