news and blogs Archives
1751 canlyniadau
A ydych chi’n fusnes sydd â Rhaglen Brentisiaethau lwyddiannus? Os felly, cofiwch ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau 2021 cyn y dyddiad cau ar 13 Tachwedd 2020, 12pm. Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n clodfori ac yn cydnabod cyfraniad rhagorol busnesau i’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru. Mae pedwar categori o wobrau ar gyfer cyflogwyr: Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1-49 o weithwyr) Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 - 249 o weithwyr) Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 - 4999 o weithwyr)...
Mae Llywodraeth Cymru wedi targedu sampl o 8000 o fusnesau yng Nghymru a’u gwahodd i gymryd rhan yn yr ail Arolwg Masnach Cymru. Dywedodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig bod y rhai a wahoddir yn cymryd rhan; dyma'r unig arolwg sy'n canolbwyntio ar fasnach yng Nghymru, ac sy'n bwydo i mewn yn uniongyrchol i'n polisi masnach a'n sylfaen dystiolaeth cymorth busnes. "O ganlyniad i'n Harolwg Masnach gychwynnol i Gymru; rydym wedi gallu...
Bydd y Comisiwn Geo-ofodol yn buddsoddi hyd at £2 miliwn mewn oddeutu 30 prosiect sy’n ymchwilio i ffyrdd o wella’r ffordd o integreiddio trafnidiaeth, capasiti, diogelwch a seilwaith. Mae’r comisiwn yn bwyllgor arbenigol a sefydlwyd gan Swyddfa’r Cabinet i hyrwyddo’r defnydd gorau o ddata geo-ofodol – data am leoliad sydd â’r potensial i ddatgloi gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol mewn sawl maes. Gallai data lleoliad helpu i greu cysylltiadau trafnidiaeth newydd, gwella logisteg trafnidiaeth...
Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu canllawiau i’ch helpu i ganfod p’un a fydd angen i’ch busnes newid ei gofrestriad cwmni o 1 Ionawr 2021, a sut mae gwneud hyn. Ni fydd gadael yr UE yn effeithio ar y ffordd mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’r DU yn darparu gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau. Yn ystod y cyfnod pontio, ni fydd y DU mwyach yn aelod-wladwriaeth o’r UE. Ond yn ystod y cyfnod hwn bydd mynediad i’r farchnad...
O 1 Ionawr 2021 ymlaen, bydd y rhyddid i symud rhwng y DU a’r UE yn dod i ben a bydd y DU yn cyflwyno system fewnfudo newydd seiliedig ar bwyntiau. Bydd y system newydd yn cyflwyno gofynion swydd, cyflog ac iaith, gan drin dinasyddion o’r UE a thu allan i’r UE yn gyfartal a thrawsnewid y ffordd y mae cyflogwyr yn recriwtio o du allan i’r DU. O 1 Ionawr 2021 ymlaen, byddwch angen...
Mae Llywodraeth Cymru yn dyblu trydydd cam ei Chronfa Cadernid Economaidd i bron £300 miliwn er mwyn helpu busnesau sy’n dal i deimlo effeithiau COVID-19. Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n ategu cynlluniau cymorth Llywodraeth y DU, yn rhan o becyn cymorth o £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau Cymru i ddelio ag effeithiau economaidd y coronafeirws. Dyma fydd yn y pecyn economaidd newydd a chryfach hwn: taliadau o £1,000 i fusnesau sy’n gymwys...
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi paratoi canllawiau newydd ar fynd i’r afael ag aflonyddu yn y gweithle. Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd gofal i amddiffyn ei weithwyr a bydd yn atebol yn gyfreithiol am achosion o aflonyddu yn y gweithle os nad yw wedi cymryd camau rhesymol i’w hatal. Mae Aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith: canllaw technegol a’r canllaw cysylltiedig Atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith: canllaw i gyflogwyr yn nodi...
Mae ymgyrch newydd i roi gwybodaeth i’r cyhoedd wedi’i lansio gan Lywodraeth y DU er mwyn helpu teithwyr o Brydain i baratoi ar gyfer newidiadau wrth ymweld ag Ewrop o 1 Ionawr 2021, ar ôl i gyfnod pontio’r DU wrth ymadael â’r UE ddod i ben. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y rheolau newydd ynghylch dilysrwydd pasbort, gyrru ac atgoffa teithwyr bod angen yswiriant teithio cynhwysfawr ac y dylent edrych ar gyngor teithio’r llywodraeth cyn mynd...
Llithro, baglu a chwympo yw’r achosion mwyaf cyffredin o anafiadau yn y gwaith, gan achosi bron i draean yr anafiadau nad ydynt yn rhai angheuol. Mae tudalennau llithro a baglu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu gwybodaeth am sut i osgoi’r damweiniau hyn yn y gweithle: darllenwch y canllawiau ar achosion ac atal edrychwch ar yr atebion i’r cwestiynau cyffredin gallwch ddarganfod cyhoeddiadau ac adnoddau Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod...
Bydd y cyfnod atal byr yn dechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref 2020 ac yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Bydd yn berthnasol i bob un sy’n byw yng Nghymru a bydd yn dod yn lle’r cyfyngiadau lleol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn rhai rhannau o’r wlad. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn o bron i £300m i gefnogi busnesau, a bydd y cyllid hwn yn cyd-fynd â’r...
Pagination
- Previous page
- Page 175
- Next page