news and blogs Archives
1641 canlyniadau
Ymunwch â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) am ddwy weminar rhad ac am ddim er mwyn helpu’ch busnes i baratoi ar gyfer diwedd cyfnod pontio y DU. Cynhelir y digwyddiad cyntaf ar-lein ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020, ac yna ail ddigwyddiad ddydd Mercher 20 Ionawr 2021. Bydd y ddau ddigwyddiad ar agor o 10 y bore er mwyn rhoi digon o amser i chi ymuno – ac yn para o 10:15 tan 1pm. Bydd...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal cystadleuaeth Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol arall yn ystod Gwanwyn 2021. Mae hyn yn deillio o’r ymateb da a gafwyd i ffenestr Cam 1 y gystadleuaeth a ddaeth i ben 28 Hydref 2020. Mae trefn cystadleuaeth y Gwanwyn yn debygol o fod yn debyg i’r ffenestr flaenorol, a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu maes o law. Cyhoeddir enillwyr Cam 1 y gystadleuaeth a ddaeth...
Fel rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gymuned fusnes rhag effaith COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, wedi cael ei estyn tan 31 Mawrth 2021. Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau nad oes unrhyw fusnes yn cael ei droi allan o’i safle os yw’n...
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn parhau i helpu sefydliadau a busnesau i baratoi ar gyfer pob sefyllfa a bydd yn datblygu adnoddau ar gyfer cymorth pellach. Cadwch lygaid ar dudalen ‘What’s New’ yr ICO i gael y canllawiau diwygiedig a’r adnoddau diweddaraf wrth i 1 Ionawr 2021 agosáu. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ICO. Darllenwch Gwestiynau Cyffredin yr ICO am atebion i gwestiynau ar ddiogelu data ar ddiwedd y pontio, ac...
Mae menter The Great British Pop-Up yn cael ei rheoli gan The Great British Exchange ar ran John Lewis & Partners. Mae’r fenter yn gyfle rhagorol i frandiau rentu a rheoli eu gofod manwerthu eu hunain yn y siop adrannol. Gallwch gynllunio, curadu a darparu fersiwn cyffrous, arbrofol o’ch brand gan wybod y byddwch yn elwa ar nifer uchel o gwsmeriaid a gweithgarwch hyrwyddo a marchnata gwych yn y siop. Mae’n gyfle rhagorol i gyfarfod...
Mae’r cyfnod pontio yn dirwyn i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Ar 1 Ionawr 2021, bydd newidiadau i sut bydd y system Eiddo Deallusol a’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn gweithredu. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar: Nodau Masnach a Dyluniadau Masnach baralel o'r DU a'r AEE Cynlluniau heb eu Cofrestru Anogir busnesau i: ystyried yn ofalus lle i ddatgelu eich dyluniadau i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n ddigonol yn eu marchnad bwysicaf...
Os ydych chi'n hunangyflogedig neu'n aelod o bartneriaeth ac wedi cael eich effeithio gan y coronafeirws (COVID-19), dewch i weld a allwch chi ddefnyddio'r cynllun hwn i hawlio grant. Os nad oeddech chi'n gymwys i gael y grant cyntaf a'r ail grant yn seiliedig ar yr wybodaeth yn eich ffurflenni treth Hunanasesiad, ni fyddwch chi'n gymwys ar gyfer y trydydd grant. Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn disgwyl i chi wneud asesiad gonest ynghylch...
TAW a chynnyrch tramor sy’n cael ei werthu i gwsmeriaid o farchnadoedd ar-lein: Mae Canllawiau ar wahân wedi’u cyhoeddi sy’n amlinellu sut y bydd marchnadoedd ar-lein a’r rhai sy’n gwerthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid ym Mhrydain ar ôl 1 Ionawr 2021 yn ymdrin â TAW ar gynnyrch tramor. Mae’r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch wedi cyhoeddi canllawiau i helpu busnesau i gydymffurfio â’r rheoliadau pan ddaw’r Cyfnod Pontio i ben. Cyhoeddir canllawiau ategol, ar wahân ar...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau am y rheolau coronafeirws fydd yn eu lle o 6pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2020. Mae'r canllawiau'n cynnwys: Rheolau nes 4 Rhagfyr Cyffredinol Gweld pobl eraill yn eich cartref Cwrdd â phobl y tu allan i'r cartref Hunanynysu Gwaith Addysg a gofal plant Iechyd a gofal cymdeithasol Ymweld â lleoedd Bwytai, caffis a thafarndai Casglu gwybodaeth gyswllt Celfyddadau ac adloniant Teithio a thrafnidiaeth gyhoeddus Siopa a bwyd Gorchuddion wyneb...
Hawlio cyfran o gyflogau eich gweithwyr cyflogedig os ydych chi wedi'u rhoi ar ffyrlo neu ffyrlo hyblyg oherwydd y coronafeirws (COVID-19). Gweler isod y dyddiadau cau misol ar gyfer hawlio: Hawlio am ddyddiau ffyrlo yn Rhaid cyflwyno'r hawliad erbyn Tachwedd 2020 14 Rhagfyr 2020 Rhagfyr 2020 14 Ionawr 2021 Ionawr 2021 15 Chwefror 2021 Chwefror 2021 15 Mawrth 2021 Mawrth 2021 14 Ebrill 2021 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Pagination
- Previous page
- Page 164
- Next page