news and blogs Archives
1521 canlyniadau
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi y bydd y Gynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data (DPPC) yn cael ei chynnal ar 14 Ebrill 2021 yn ddigidol. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am i'r gynhadledd fod mor berthnasol ac ymarferol â phosibl ac maen nhw’n gofyn i'r rhai a fydd yn bresennol ddewis y meysydd pwnc yr hoffen nhw glywed amdanyn nhw, a fydd wedyn yn helpu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i lunio agenda'r gynhadledd. Cwblhewch yr arolwg i...
Mae gan Llywodraeth y DU * Gronfa Gymorth Brexit gwerth £20 miliwn i gefnogi busnesau bach a chanolig i addasu i reolau tollau, tarddiad a TAW newydd wrth fasnachu gyda'r UE. Bydd BBaChau sy'n masnachu gyda'r UE yn unig, ac sydd felly'n newydd i brosesau mewnforio ac allforio, yn cael eu hannog i wneud cais am grantiau o hyd at £2,000 i bob masnachwr i dalu am gymorth ymarferol gan gynnwys hyfforddiant a chyngor proffesiynol...
Cynhadledd, arddangosfa a sioe arddangos yw Global Research and Innovation in Plastics Sustainability a gynhelir ar-lein rhwng 16 ac 18 Mawrth 2021. Bydd yn dwyn ynghyd cwmnïau ac unigolion i dynnu sylw at y gorau o weithgareddau’r DU a detholiad o weithgareddau tramor a fydd yn arwain at ei gwneud yn llai tebygol i blastigion (gan gynnwys teiars, tecstilau synthetig a pholymerau bio neu y gellir eu compostio) gyrraedd safleoedd tirlenwi neu gael eu llosgi...
Mae rhestr o linellau cymorth llywodraeth y DU yn nhrefn thema a chamau allweddol ar gyfer busnesau wedi’i chyhoeddi, ac mae’r themau’n cynnwys: Anifeiliaid Data ac Eiddo Deallusol Economi Ffiniau (Mewnforio ac Allforio) Pobl Pysgod Rhaglenni Ynni Mae rhifau’r llinell gymorth ar gael yma. Am ragor o wybodaeth am sut mae paratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n amlinellu goblygiadau’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE, a nodir yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gyfer dinasyddion, busnesau a chymunedau Cymru yn ogystal â’n diogelwch yn y dyfodol. Mae'r canllawiau'n cynnwys: Beth mae’n ei olygu i bobl sy’n byw yng Nghymru Beth mae’n ei olygu i fusnesau a gweithwyr Cymru Beth mae’n ei olygu i’n diogelwch Beth mae’n ei olygu i’n cymunedau a’n cymdeithas Am...
Mae Innovate UK, sy’n rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £8 miliwn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu traws-sector, cydweithredol. Nod y gystadleuaeth hon yw gwella cynhyrchiant a natur gystadleuol cwmnïau yn y diwydiant sylfaenol a chadwyni cyflenwi, drwy gyllido prosiectau ymchwil a datblygu traws-sector, cydweithredol. Mae’n rhaid i’ch prosiect weithio ar heriau adnoddau ac effeithlonrwydd ynni sy’n gyffredin i 2 neu fwy diwydiant sylfaenol. Mae’r sectorau diwydiannau sylfaenol yn cynnwys...
Mae The Stationers’ Company wedi cyhoeddi y bydd y Gwobrau Rhagoriaeth Arloesi yn cael eu cynnal yn rhithwir eleni ar ôl eu gohirio’r llynedd yn sgil cyfyngiadau COVID-19. Croesewir cynigion o bob sector ledled y diwydiannau Cyfathrebu a Chynnwys, gan gynnwys cyhoeddi, papur, argraffu a phecynnu, cynhyrchion swyddfa, marchnata, meddalwedd a gemau, cyfathrebu, addysg, darlledu, newyddiaduraeth a’r cyfryngau digidol. Anogir enwebiadau gan gwmnïau masnachol, busnesau newydd, elusennau, cymdeithasau masnach, sefydliadau addysgol a chyrff cyhoeddus fel...
Bydd busnesau a gymerodd Fenthyciadau Adfer a gefnogir gan y Llywodraeth i oroesi drwy bandemig Covid-19 yn cael rhagor o hyblygrwydd i ad-dalu eu benthyciadau. Nawr, bydd gan fenthycwyr Benthyciadau Adfer yr opsiwn i deilwra taliadau yn unol â’u hamgylchiadau unigol a chael y dewis nawr i oedi pob ad-daliad am chwe mis pellach. Ewch i wefan GOV.UK i ddarllen y diweddariad. Mae’r cynllun yn helpu busnesau bach a chanolig i fenthyg rhwng £2,000 a...
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, tynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt sylw at rai o'r menywod anhygoel sy'n arwain y frwydr yn erbyn Covid yng Nghymru a phwysigrwydd astudio STEM. Ewch i wefan Llyw.Cymru i gael gwybod mwy.
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi camau pellach ar gyfer teithwyr allan ac i mewn i leihau’r teithio ar draws ffiniau rhyngwladol a lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cadarnhau o 15 Chwefror 2021 y bydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n teithio i’r DU o wlad ar restr gwaharddiad teithio’r DU fod dan gwarantin mewn cyfleuster sydd wedi’i gymeradwyo gan lywodraeth y DU am gyfnod o 10 diwrnod...
Pagination
- Previous page
- Page 152
- Next page