news and blogs Archives

1391 canlyniadau

Mae dod yn ôl i'r gwaith ar ôl amser i ffwrdd yn ystod y pandemig yn gallu bod yn anodd i rai pobl. Os yw gweithwyr wedi bod i ffwrdd o'r busnes am gyfnodau hir, efallai y bydd eu gallu neu eu sgiliau wedi dirywio. Efallai y bydd angen amser a chymorth ychwanegol arnyn nhw i ddechrau perfformio fel roedden nhw cyn y pandemig eto. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau ar...
Er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol, rhaid i chi allu gweld lle mae pobl eraill. Dyw hynny ddim yn bosib i lawer o bobl sydd â nam ar eu golwg, ac mae hyn wedi effeithio ar annibyniaeth a hyder pobl. Wrth i fusnesau ddechrau ailagor, mae gwneud newidiadau i ddiogelu staff a chwsmeriaid yn bwysig dros ben ac mae’n hanfodol bod y newidiadau hyn yn hygyrch i gwsmeriaid dall a rhannol ddall. Mae’r RNIB wedi...
Canllawiau i fusnesau twristiaeth a lletygarwch i gadw gweithwyr ac ymwelwyr yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19). Byddant yn aros mewn grym am gyfnod amhenodol a byddant yn cael eu hadolygu. Mae Rheoliadau’r Coronafeirws yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi nodiadau cyfarwyddyd ar yr hyn a ddisgwylir gan bawb sy’n gyfrifol am safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd, neu lle mae gwaith yn cael ei wneud: Canllawiau ar gyfer safleoedd sydd ar agor i’r cyhoedd...
Mae yna gymaint o resymau dros gystadlu yn y Gwobrau Busnes Gwledig, un o ddathliadau mwyaf busnes gwledig yn y DU! Mae cymryd rhan yn y Gwobrau Busnes Gwledig yn gyfle i ddathlu popeth rydych wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ac i ddatblygu’r adnoddau ar gyfer mwy o lwyddiant hyd yn oed! Gall gael effaith wirioneddol ar eich busnes. Os ydych chi’n ddigon lwcus i ennill gwobr, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ranbarthol a chenedlaethol, a...
Sylwch fod gennym 3 Gwiriwr Cymhwyser ar y wefan ar hyn o bryd: Cronfa Adferiad Diwylliannol Cronfa Cadernid Economaidd Cronfa’r Sector Addysg Awyr Agored Preswyl Gofalwch eich bod yn defnyddio’r gwiriwr cymhwyser a darllenwch y dogfennau sy’n gysylltiedig â'r gronfa berthnasol.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu archwiliadau data cynghorol am ddim i berchnogion sefydliadau bach, megis busnesau bach, elusennau bach, grwpiau neu glybiau ac unig fasnachwyr. Mae’r archwiliadau wedi’u teilwra i faint sefydliad a’r math o waith y mae’n ei wneud, gan ganolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n bwysig i gwsmeriaid, gwirfoddolwyr ac aelodau. Bydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd yn darparu adroddiad yn amlinellu’r hyn y mae angen i sefydliadau ei wneud i ymdrin â data...

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2021
Diweddarwyd diwethaf:
12 Medi 2023
Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd yn agor ar gyfer ceisiadau am hanner dydd ddydd Llun 17 Mai 2021. Cefnogir y gronfa gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y meysydd isod: Y Celfyddydau Diwydiannau Creadigol Y Celfyddydau a Threftadaeth Digwyddiadau Diwylliant a Threftadaeth Bydd y gronfa hefyd yn cefnogi gweithwyr llawrydd sy'n gweithio mewn digwyddiadau sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan y pandemig, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn priodasau a digwyddiadau corfforaethol, ond nid digwyddiadau...
A lefelau’r coronafeirws yn dal i fod yn isel a’r cyfraddau brechu yn parhau i fod yn well nag yn unrhyw ran arall o’r DU, bydd Prif Weinidog Cymru yn cadarnhau heddiw y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd 2 ddydd Llun. O ddydd Llun, Mai 17, bydd busnesau lletygarwch dan do yn cael ailagor, bydd lleoliadau adloniant dan do hefyd yn ailagor, a chaiff mwy o bobl fynd i gweithgareddau wedi’u trefnu dan...
Rhaglen bum mlynedd i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sectorau sgrin a newyddion yng Nghymru yw Clwstwr. Mae'r alwad agored hon eisiau cefnogi datblygiadau arloesol sy’n cynnig budd economaidd – yn creu, yn cynnal ac yn datblygu busnesau – ac sy'n gwneud y byd yn lle gwell (yn fwy doeth, iach, cynhwysol a diddorol). Mae Clwstwr ar gyfer busnesau, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sgrin, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, yn ogystal...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.