news and blogs Archives

1161 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn rhaid i ddatblygiadau yng Nghymru yn y dyfodol ystyried y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol a achosir gan newid hinsawdd. Am y tro cyntaf yn y DU, bydd yn rhaid i ddatblygwyr weithio gyda mapiau perygl llifogydd ac erydu arfordirol sydd ar gael heddiw sydd nid yn unig yn dangos lefelau risg cyfredol, ond hefyd y risg a achosir gan newid hinsawdd. Bydd...
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer hawliadau a wnaed o dan Gynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol y Coronafeirws. Gall cyflogwyr ddim ond hawlio ad-daliad ar dâl salwch statudol a dalwyd i weithwyr cyflogedig oherwydd Covid-19 a oedd i ffwrdd o'r gwaith ar neu cyn 30 Medi 2021. Bydd Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol y Coronafeirws yn ad-dalu i gyflogwyr y Tâl Salwch Statudol a dalwyd i weithwyr cyflogedig presennol neu gyn-weithwyr...
Rhyddhad treth yw Rhodd Cymorth ar gyfer unigolion sy’n eu galluogi i roi’r dreth incwm neu’r dreth enillion cyfalaf y maent yn ei dalu yn uniongyrchol i elusen ar ben eu rhodd. Mae’n ychwanegu 25c at bob £1 a roddir i elusen. Mae Rhodd Cymorth yn rhyddhad treth bwysig gwerth £1.3 biliwn i’r sector elusennau. Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni ddydd Iau 7 Hydref 2021. Mae’r Grŵp Cyllid Elusennau (CFG) yn gofyn i elusennau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn uno’r rhestrau teithio gwyrdd ac oren ac yn dileu’r gofyniad am brawf cyn ymadael i’r rhai sydd wedi’u brechu’n llawn. Mae’n bwriadu gwneud y newidiadau erbyn 4 Hydref 2021 yn unol â system newydd Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried i ba wledydd y bydd yn estyn y system adnabod tystysgrifau brechu yn ystod yr wythnosau nesaf. Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.
Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn ôl ar gyfer 2021 ac mae bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Diben y gwobrau yw dathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth. Dyma'r categorïau eleni: Gwesty'r Flwyddyn Gwely a Brecwast / Tafarn y Flwyddyn Parc Gwyliau'r Flwyddyn Atyniad y Flwyddyn Twristiaeth Werdd Gyfrifol a Chynaliadwy Gwobr Cyfeillgar i Anifeiliaid Anwes Gwobr Cyfraniad Eithriadol at Dwristiaeth Arwr Twristiaeth a Lletygarwch Gwobr 30 Mlynedd yn...
Bydd mesurau dros dro a gyflwynwyd i gefnogi busnesau rhag ansolfedd yn ystod y pandemig yn cael eu dileu’n raddol o 1 Hydref 2021. Mae cwmnïau sy’n cael anawsterau ariannol yn sgil y pandemig wedi’u diogelu rhag camau gan gredydwyr ers mis Mehefin y llynedd, drwy Ddeddf Ansolfedd Corfforaethol a Llywodraethu 2020. Y nod yma oedd sicrhau nad oedd busnesau hyfyw a effeithiwyd gan y cyfyngiadau ar fasnachu yn y cyfnodau clo yn cael eu...
Bwriad y Cronfa Her Ddatgarboneiddio a Covid yw i ariannu prosiectau cydweithredol a all ddarparu atebion arloesol mewn perthynas â’r agenda datgarboneiddio, gan helpu i adfer sector bwyd a diod Cymru sydd wedi cael ei effeithio’n andwyol gan y pandemig. Mae cyfanswm o £2,400,000 ar gael drwy dwy ffrwd ariannu: Cronfa Her i Fusnesau Micro a Busnesau Bach - cyfanswm y cyllid grant sydd ar gael: £600,000. Uchafswm y grant sydd ar gael fesul prosiect...
Mae Tîm Cymru Iach ar Waith yn falch o rannu cyfres o bodlediadau y meant wedi'i datblygu fel rhan o set newydd o adnoddau gyda'r nod o gefnogi cyflogwyr. Mae'r podlediadau, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol, wedi'u cynllunio i roi gwybodaeth a chefnogaeth i gyflogwyr i helpu i gadw gweithlu Cymru yn iach ac mewn gwaith yn cynnwys: Covid-19 a Lles Meddyliol Gweithwyr Iechyd Meddwl yn y Gweithle Ffit i Weithio Cadw'r Gweithle yn...
Bydd canllawiau diweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn eich helpu i sylwi ar awyru gwael yn y gweithle a chymryd camau ymarferol i wella hynny. Gall hyn helpu i leihau'r risg o ledaenu COVID-19 yn eich gweithle. Mae'r canllawiau yn cynnwys fideo sy'n rhoi cyngor allweddol, gyda gwybodaeth am y canlynol: adnabod ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n wael a defnyddio monitorau CO2 gwella awyru naturiol sut i wella awyru mecanyddol unedau glanhau aer...
Cynhadledd hanner diwrnod yn dod â ffigurau cyllid a pherchnogion busnes blaenllaw ynghyd i rannu eu profiadau o fuddsoddi ecwiti. Os ydych chi'n berchennog busnes ar daith i dyfu, busnes technoleg newydd sy'n chwilio am fuddsoddiad, neu os ydych chi'n edrych i brynu neu werthu busnes, bydd y gynhadledd hanner diwrnod hon yn eich helpu i gyflwyno, cynllunio a dod o hyd i'r buddsoddiad cywir sy’n addas ar gyfer eich busnes. Bydd siaradwyr dan y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.