Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio ag Osaka a Tokyo, Japan. Bydd y daith fasnach hon yn cyd-daro ag EXPO Japan 2025 ac Iechyd Japan yn Osaka, 25-27 Mehefin 2025.

Pam Japan?
Japan yw’r drydedd economi fwyaf yn y byd a’r bedwaredd wlad fwyaf o ran masnachu rhyngwladol. Mae’n farchnad hynod o ddatblygedig, gyda seilwaith modern ac mae’n cael ei gweld fel pwerdy economi uwch-dechnoleg Asia.  

Mae Japan yn farchnad amrywiol, gyda lefel uchel o wariant defnyddwyr, ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru.

Pam Mynd ar yr Ymweliad? 
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
•    Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
•    Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
•    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
•    Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae dau opsiwn cymorth ar gael ar gyfer yr ymweliad:

Cymorth o ran teithio yn unig. Mae’r gost yn £1,800*. Mae hyn yn cynnwys:

•    Hedfan allan ac yn ôl
•    Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
•    Llety am 6 noson gyda brecwast
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.

Manylion y Digwyddiad
Pryd: 21 – 28 Mehefin 2025
Sectorau: Pob sector
Ble: Osaka a Tokyo

Trefn
•    21 Mehefin – Gadael am Osaka  
•    23 - 25 Mehefin – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Osaka.
•    25 - 27 Mehefin – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Tokyo.
•    28 Mehefin – Dychwelyd i Gymru

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o 3-4 cyfarfod i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy. 

Sylwch, os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, rhaid i chi gyflwyno’ch cais 10 wythnos cyn i’r ymweliad neu'r arddangosfa ymadael. Os bydd eich cais yn cyrraedd ar ôl 10 Ebrill 2025, yna ni allwn warantu y bydd digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.


Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
10 Ebrill 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
24 Ebrill 2025 (Teithio yn unig)


Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru

*Yn amodol ar fod yn gymwys.