Sefydlwyd Godfrey Group Facilities yn 2015, gan ddechrau fel busnes newydd teuluol gydag uchelgais clir: dod â chynnal a chadw adeiladau o ansawdd uchel a glanhau masnachol proffesiynol ynghyd o dan un enw dibynadwy. Mae'r uchelgais hwnnw wedi gyrru twf cyflym, a bellach mae’r cwmni yn bartner cyfleusterau aml-wasanaeth dibynadwy ar draws y sectorau lletygarwch, addysg, diwydiannol, tai a masnachol.
O'i brif leoliad yng Ngogledd Cymru, mae Godfrey Group yn gweithio gyda rhai o frandiau mwyaf uchel eu parch y DU, gan gynnwys Darwin Escapes, Center Parcs, a Hoseasons, ynghyd â chymdeithasau tai megis Adra a Grŵp Cynefin.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cyrhaeddodd y busnes garreg filltir fawr: sicrhau achrediadau ISO 9001 (Ansawdd), ISO 14001 (Amgylcheddol), ac ISO 45001 (Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol). Gyda chymorth wedi’i dargedu gan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae'r ardystiadau hyn wedi cryfhau hygrededd y cwmni ac wedi agor drysau i gontractau cenedlaethol mwy. Mae'r Cyfarwyddwr Louisa Godfrey yn rhannu sut y gwnaeth canllawiau arbenigol AGP helpu i droi uchelgais yn achrediadau, gan yrru mantais gystadleuol.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer creu a thwf Godfrey Group?
Sefydlodd Andrew, fy ngŵr, Godfrey Group Facilities i ddod â chynnal a chadw adeiladau o ansawdd uchel a glanhau masnachol proffesiynol o dan un brand dibynadwy, teuluol. Mae'r tîm arweinyddiaeth bellach yn cynnwys fi, cyn-bennaeth ysgol, a'n merch Laura, sy'n adlewyrchu ein hethos pobl yn gyntaf ac uchelgeisiau i dyfu.
Rydyn ni’n bwriadu bod y partner dibynadwy y gall cleientiaid ymddiried ynddo, gan gyfuno'r safonau proffesiynol uchaf â dull personol, teuluol. Mae’r pwyslais hwnnw wedi mynd â ni o’n gwreiddiau Cymreig i Loegr a bellach yr Alban, a’r busnes yn tyfu ar garlam.
Beth oedd yr heriau mwyaf wrth ennill tri ISO wrth dyfu’r busnes?
Cysondeb ar gyflymder. Roedden ni’n tyfu’r busnes ar draws nifer o ranbarthau a llinellau gwasanaeth wrth adeiladu systemau rheoli cadarn. Roedd alinio pob safle a thîm â safonau uchel, archwilio ar draws meysydd ansawdd, amgylcheddol ac iechyd a diogelwch yn golygu diwygio polisïau, tynhau prosesau, ac ymgorffori atebolrwydd ym mhobman.
Sut yr helpodd RCT chi i sicrhau ISO 9001, 14001, a 45001 ar yr un pryd?
Darparodd RCT hwylusydd allanol a fapiodd un cynllun strwythuredig ar gyfer pob un o’r tair safon. Dyma nhw’n trefnu ein dogfennaeth, yn llywio ein gwaith o weithredu arfer gorau, ac yn ein paratoi ni ar gyfer archwiliadau, gan nodi bylchau’n gynnar er mwyn i ni allu eu cau’n gyflym. Trodd eu cymorth nhw brosiect cymhleth yn rhaglen fesul cam, yr oedd modd ei rheoli. Byddai wedi bod yn amhosib gwneud hyn heb RCT.
Pa elfennau o gymorth RCT a wnaeth y gwahaniaeth mwyaf?
Fe weithion ni gydag arbenigwr a hyfforddwyd gan ISO i redeg dadansoddiad o’r bylchau o ran pob safon. Rhoddon nhw hyfforddiant ar fod yn barod ar gyfer archwiliad a eglurodd ddisgwyliadau ac a adeiladodd hyder ein tîm. Roedd hyn i gyd yn seiliedig ar gyngor penodol i’r sector a gadwodd bopeth yn ymarferol i’n cleientiaid ar draws gwahanol ddiwydiannau.
Beth yw’r effaith ar eich busnes chi o ganlyniad i sicrhau tri ISO hyd yn hyn?
Maen nhw wedi rhoi hwb i’n hygrededd ac wedi ein helpu ni i ennill contractau newydd ledled Cymru, Lloegr, a’n cyntaf yn yr Alban. Mae’r ardystiadau hefyd wedi cryfhau ein sefyllfa mewn tendrau yn y sector cyhoeddus, lle mae cydymffurfiaeth yn hollbwysig. Rydyn ni’n gweld ymholiadau mwy cymwys a dulliau cynnwys mwy llyfn am fod cleientiaid yn ymddiried yn ein systemau.
Er enghraifft, erbyn hyn mae ein hadroddiadau digidol yn cynnwys ap contractau wedi’i deilwra sy’n cynnwys data amser real, gan roi amlygrwydd clir i reolwyr a chleientiaid, ymatebion cynt, ac ansawdd cyson. Mae ISO 45001 wedi atgyfnerthu ein diwylliant diogelwch, ac mae ISO 14001 yn ategu ein hymrwymiadau amgylcheddol a’n nodau gwerth cymdeithasol.
Beth mae cwblhau’r tri ISO gyda’i gilydd yn ei olygu i’ch tîm chi?
Mae’n brawf bod ein gwerthoedd teuluol yn gallu tyfu. Rydyn ni wedi dangos ein bod ni’n gallu tyfu’n genedlaethol wrth barhau’n ofalus iawn am ansawdd, cynaliadwyedd, a diogelwch. Daeth y broses â’n timau ni at ei gilydd a rhoi i ni drywydd clir ar draws pob contract.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n mynd trwy broses achredu ISO?
Diffiniwch y canlyniad ymlaen llaw, rhannwch y gwaith yn becynnau i ganolbwyntio arnyn nhw (trwy ddadansoddiad o’r bylchau, dogfennaeth, a pharatoi ar gyfer archwiliad), a defnyddio’r cymorth sydd ar gael gan raglenni megis RCT. Cadwch y cyfathrebu’n agored a’r momentwm yn uchel; gweithredwch ar adborth yn gyflym a diogelu ansawdd y gwasanaeth o ddydd i ddydd wrth i chi baratoi.
Beth sydd nesaf i Godfrey Group a chithau bellach yn meddu ar dri achrediad ISO?
Rydyn ni’n targedu contractau cenedlaethol mwy o faint a sectorau newydd, gan ddefnyddio achrediadau ISO i’n rhoi ni mewn sefyllfa dda ar gyfer tendrau cystadleuol. Rydyn ni’n ehangu ein stac technoleg, yn cyflwyno’r ap sydd gennym ni ar draws rhagor o gontractau ac yn lansio gwefan newydd i gadw’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’n dryloyw, yn fesuradwy ac yn ymatebol.
Sut byddech chi’n crynhoi’r cymorth a gawsoch chi gan RCT?
Fydden ni ddim wedi cyflawni unrhyw beth o hyn heb y cymorth rhagorol a gawson ni gan RCT. Fe helpon nhw ni i droi ein llygad barcud ar safonau trwyadl yn fantais gystadleuol yn y byd go iawn. Trwy ein partneriaeth, fe wnaethon ni gryfhau ein gweithrediadau, rhoi hwb i lwyddiant tendro, a chyflymu ein twf gyda ffordd gliriach, fwy diogel a gwyrddach o weithio.
Dysgwch ragor am y Rhaglen Cyflymu Twf yma.
Dysgwch ragor am Godfrey Group yma.