Yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni, gall hi fod yn heriol dod o hyd i weithwyr sydd â’r sgiliau cywir wrth reoli costau. Dyna ble mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) yn ychwanegu gwerth trwy bartneriaeth strategol i’ch helpu chi i dyfu eich tîm.
Beth mae TSC+ yn ei gynnig i gyflogwyr
Mae TSC+ yn darparu pecyn atyniadol i gyflogwyr sy’n barod i fuddsoddi yn noniau’r dyfodol. Gyda chymhorthdal cyflog o hyd at 50% (o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol) am chwe mis, help gyda recriwtio rhad ac am ddim, a chymorth hyfforddi parhaus, mae’r rhaglen yn lleihau’r risg o gymryd cam gwag wrth recriwtio. Gallwch chi fanteisio ar gyflenwad o bobl ifanc 16-19 oed llawn cymhelliant, sy’n eiddgar i ddysgu a chyfrannu’n ystyrlon i’ch gweithle.
Cryfder arall yw hyblygrwydd. Gall cyflogwyr gynnig sesiynau blasu gwaith neu leoliadau profiad gwaith di-dâl, a all ddatblygu maes o law yn rolau cyflogedig os bydd yr ymgeisydd yn addas. Mae hyn yn caniatáu i chi asesu’r addasrwydd cyn ymrwymo i gyflogaeth tymor hwy.
Mae nifer o fusnesau newydd a chleientiaid twf uchel RCT yn nodi eu bod wedi defnyddio’r cynllun yn llwyddiannus i dyfu eu timau.
Gwneud i TSC+ weithio i’ch busnes chi
Mae llwyddiant gyda TSC+ yn golygu deall y fframwaith ac ymrwymo i’r daith. Rhaid i rolau fod yn ychwanegol, nid yn lle staff, a bodloni meini prawf megis isafswm cyflog a 16-40 o oriau yr wythnos am gyfnod o chwe mis o leiaf.
Mae pobl ifanc sy'n gymwys ar gyfer TSC+ yn rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant amser llawn (NEET) ac sydd wedi eu hasesu’n ymgeiswyr addas gan Gymru’n Gweithio. Mae hyn yn sicrhau eich bod chi’n cael eich paru ag unigolion sy’n barod i ymgysylltu â’ch busnes chi a datblygu eu sgiliau.
Eich cyfrifoldebau yn gyflogwr
Mae cymryd rhan ynghlwm wrth gyfrifoldebau clir. Byddwch chi’n darparu amgylchedd cefnogol, yn annog pobl i hogi sgiliau, ac yn ddelfrydol, yn cadw gweithiwr y tu hwnt i gyfnod y cymhorthdal. Bydd contractwyr rhaglenni yn helpu gyda recriwtio, hyfforddi, monitro, a chydymffurfio, gan wneud y broses yn fwy llyfn ac yn fwy effeithiol.
Bydd gofyn i chi gynnal dogfennaeth glir i gynorthwyo gyda’r broses hawlio. Gwneir taliad ar ffurf ôl-daliadau, felly bydd angen bod gennych chi’r gallu i dalu’r cyflog llawn yn gyntaf yn y tymor byr.
Adeiladu eich gweithlu ar gyfer y dyfodol
Mae TSC+ yn gyfle i lunio gweithlu’r dyfodol, cynorthwyo pobl ifanc, a chryfhau eich busnes. Trwy gofleidio’r rhaglen, gallwch chi ddatgloi potensial go iawn wrth wneud gwahaniaeth parhaus i’ch twf.
Yn barod i archwilio sut y gall TSC+ gynorthwyo gyda’ch strategaeth recriwtio? Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) yn helpu busnesau Cymru i ddod o hyd i’r doniau cywir a’r cymorth ariannol i dyfu eu timau. Siaradwch â’ch Rheolwr Perthnasoedd i ddysgu rhagor, neu ewch i Twf Swyddi Cymru+ Busnes Cymru i gael manylion llawn y rhaglen.