Twf Swyddi Cymru+

Twf Swyddi Cymru+

Gall Twf Swyddi Cymru+ ddaparu safbwyntiau newydd a ffynhonnell o dalent er mwyn helpu i ddiogelu eich busnes at y dyfodol.

Gall pobl ifanc fod yn ased gwych a thrwy gymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru+ byddwch yn sicrhau bod gan eich busnes ei ddewis o'r doniau ifanc yn eich cymuned.

Mae'n rhaglen arloesol a hyblyg. Felly gallwch benderfynu ar y ffordd orau i’r rhaglen helpu eich busnes, ac ar yr un pryd creu cyfleoedd sy'n newid bywyd y person ifanc rydych yn ei gefnogi.

Beth mae'n ei olygu?

Mae gan bobl ifanc Cymru ddigon i'w gynnig i economi Cymru. Mae ganddynt y cymhelliant ac maent yn barod i ddysgu, ond maent yn aml yn cael eu hanwybyddu.

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhan allweddol o Warant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru, gan ddarparu pecyn cymorth pwrpasol i helpu pobl ifanc 16-19 oed i ddatblygu eu sgiliau a chael profiad gwaith yn unol ag anghenion cyflogwyr fel y gallant gael eu swydd gyntaf.

I gyflogwyr, mae'r rhaglen yn cynnig cymorthdaliadau cyflog a chymorth wedi'i deilwra i helpu i ehangu eich gweithlu. Yn gyfnewid am hyn, rydym yn chwilio am eich help i greu cyfleoedd cyflogaeth, sesiynau blasu, neu leoliadau profiad gwaith i bobl ifanc.

Sut mae'n gweithio

Pan fyddwch yn cyflogi person ifanc drwy raglen Twf Swyddi Cymru+, byddwn yn talu hyd at 50% o gostau cyflogaeth pob person ifanc ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf

Byddwch hefyd yn cael cyngor recriwtio am ddim gan ein harbenigwyr, yn ogystal â chymorth hyfforddi parhaus gan gydgysylltydd dynodedig i sicrhau bod eich gweithiwr ifanc yn dysgu’n gyflym.

Ar gyfer cyfleoedd eraill, gallwch lunio lleoliad blasu neu brofiad gwaith sy'n iawn i chi a'r person ifanc. Bydd eich contractwr yn eich helpu bob cam o'r ffordd. Os bydd y person ifanc yn creu argraff arnoch erbyn y diwedd, gallech droi hyn yn gyfle am swydd drwy raglen Twf Swyddi Cymru+

Pwy sy'n gymwys?

Mae Twf Swyddi Cymru+ ar gael i fusnesau o unrhyw faint mewn unrhyw ddiwydiant yng Nghymru.

Rhaid i'r swydd rydych chi'n ei chynnig fod am 16-40 awr yr wythnos, ac am o leiaf chwe mis. Rhaid i unrhyw swyddi a grëir fod yn ychwanegol at eich anghenion gweithlu presennol, a dylech fod wedi ymrwymo i gadw eich cyflogai y tu hwnt i'r cyfnod o chwe mis.

Rhaid talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'n uwch ac ni ddylai’r rôl gael ei chefnogi gan unrhyw gyllid cyhoeddus arall

Rhaid i'r person rydych am ei recriwtio fod:

  • Rhwng 16-19 oed
  • Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant llawn amser (NEET)
  • Yn byw yng Nghymru
  • Wedi'i asesu fel un sy'n bodloni’r meini prawf ar gyfer un o feysydd y rhaglen.

Sut mae hyn o fudd i chi?

  • Cymorth hyfforddi parhaus gan gontractwr dynodedig
  • Cymhorthdal ar gyfer hyd at hanner costau cyflogaeth pob person ifanc
  • Cyngor recriwtio am ddim
  • Creu ffynhonnell o dalent gyda'r sgiliau, y cymwysterau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i symud eich busnes ymlaen
  • Hybu cynhyrchiant

Sut i gymryd rhan

I gael rhagor o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+ gallwch gofrestru eich diddordeb drwy'r Ffurflen Mynegi Diddordeb a bydd Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cysylltu â chi.

Fel arall, gallwch ffonio Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu gysylltu â ni

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.