Mae Dot On yn system rheoli gwerthiant a chadwyni cyflenwi arloesol wedi ei hadeiladu gan fanwerthwyr ar gyfer manwerthwyr. Fe’i cynlluniwyd i ddatrys rhwystredigaethau systemau datgysylltiedig, hen ffasiwn. Mae'n helpu busnesau manwerthu twf uchel i symleiddio gweithrediadau a chynnal eu data yn gywir. Trwy chwyldroi sut mae cadwyni gwerthu a chyflenwi yn gweithredu, mae'n caniatáu i fanwerthwyr ddarparu profiadau llyfn i gwsmeriaid.
Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae'r cwmni'n ailddiffinio technoleg fanwerthu ac yn helpu i roi arloesi Cymru ar lwyfan y byd. Mae RCT wedi chwarae rhan hanfodol yn nhwf y cwmni; gyda’r gwaith cynllunio strategol, ariannu, datblygiad y tîm, a thwf rhyngwladol.
Yma, mae'r cyd-sylfaenwyr Jonathan a Louise Petrie yn rhannu sut y dechreuodd Dot On ac yn sôn am heriau twf cyflym, a'r gwahaniaeth y mae cymorth RCT wedi'i wneud.
Sut mae RCT wedi cynorthwyo Dot On?
Bu RCT yn drawsnewidiol i ni. Maen nhw wedi dod yn estyniad go iawn o'n tîm ni, gan weithio'n agos gyda ni ym mhob maes o'n twf. Mae eu cynghorwyr nhw wedi ein cynorthwyo ni gyda lleoli cynnyrch, brandio, strategaeth brisio, a strwythuro mewnol i dyfu ein tîm yn effeithiol.
Maen nhw hefyd wedi ein tywys ni trwy baratoi ISO-27001, sicrhau credydau treth Ymchwil a Datblygu, ac wedi ein helpu ni i godi dros £500K mewn cyllid ymchwil datblygu ac arloesi. Cynorthwyodd Llywodraeth Cymru ni drwy sawl rownd ariannu, sydd wedi sicrhau cyfanswm o £1.25M hyd yma, ac sydd wedi ein galluogi ni i barhau i arloesi a thyfu yn gyflym.
Roedd yr arbenigwyr datblygu busnes RCT yn allweddol hefyd wrth ein helpu ni i sicrhau contractau gyda rhai o'r manwerthwyr sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Bu ein perthynas ni â’r hyfforddwr RCT Andy Bird yn dyngedfennol – roedd ei grebwyll strategol a’i gred yn ein gweledigaeth ni yn amhrisiadwy. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ei gyngor a'i gymorth ymarferol, rhagweithiol, sydd wedi ein helpu ni i dreblu ein tîm a chynyddu ein refeniw 400%.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth i chi lansio Dot On?
Dechreuon ni fanwerthu ddau ddegawd yn ôl, gan redeg systemau e-fasnach a chadwyni cyflenwi canol y farchnad. Fel llawer o fusnesau, roedden ni’n wynebu clytwaith o systemau mewn seilos; doedd dim cyswllt rhwng yr offer gwerthiant, y gadwyn gyflenwi, y warws a’r cyllid a doedden nhw ddim yn cyfathrebu'n dda â’i gilydd. Achosodd hyn wrthdaro, aneffeithlonrwydd, a rhwystredigaeth. Yn y diwedd, aeth pethau i’r pen. Roedd angen gwell ateb arnom ni a sylweddolon ni nad oedden ni ar ein pennau ein hunain.
Dyna pryd y cafodd Dot On ei eni. Roedden ni am adeiladu rhywbeth gwell ar gyfer timau tebyg i ni: system unedig, reddfol sy'n gweithio gydag offer a phrosesau presennol manwerthwyr. Ein cenhadaeth ni yw darparu technoleg o ansawdd uchel sy’n ‘gweithio’n syml’ fel y gall mentrau ganolbwyntio ar beth maen nhw'n ei wneud orau. Mewn manwerthu, profiad yw popeth, ac mae ein meddalwedd ni’n sicrhau’r data cyflawn a chywir y mae eu hangen ar fanwerthwyr i sicrhau rhagoriaeth l a phrofiadau llyfn i gwsmeriaid.
Pa heriau rydych chi wedi eu hwynebu wrth fynd ymlaen?
Yr her fwyaf fu rheoli twf cyflym wrth gynnal rheolaeth ar gyfeiriad ein cynnyrch. Rydyn ni wedi dewis partneriaid cyllido yn ofalus ac wedi dewis mabwysiadwyr cynnar strategol yn fwriadol i'n helpu ni i lunio'r system.
Bu cyflogi hefyd yn her. Rydyn ni wedi canolbwyntio ar adeiladu a meithrin diwylliant gyda thîm medrus iawn, , ac mae dod o hyd i bobl sy'n cyd-fynd â'n safonau a'n gwerthoedd wedi bod yn hollbwysig.
Her arall yw cynnal ein ffocws. Fel cwmni technoleg, mae’n hawdd iawn i dueddiadau neu alwadau buddsoddwyr dynnu ein sylw. Ond rydyn ni wedi aros yn agos at ein cwsmeriaid, wedi gwrando ar eu pryderon, ac wedi adeiladu atebion sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg i'w busnesau nhw.
Beth oedd yr adegau yr oeddech chi fwyaf balch ohonyn nhw?
Adeg falch i ni oedd cael ein cyflwyno gan Lywodraeth y DU i'r cwmni nwyddau moethus byd-eang mawr LVMH yn un o arloeswyr technoleg manwerthu gorau Prydain. Dangosodd i ni fod y diwydiant yn cydnabod potensial beth rydyn ni’n ei adeiladu.
Mae clywed adborth gan gwsmeriaid megis Fairfax & Favor a The Beauty Tech Group (CurrentBody, ZIIP, Tria) - sy'n rhoi’r clod i Dot On am ddatgloi rhagoriaeth a lleihau gwastraff yn eu cadwyni manwerthu a chyflenwi byd-eang - yn gwneud y cyfan yn werth chweil.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid technoleg eraill?
- Dewch i wybod poen eich cwsmer yn drwyadl. Peidiwch â rhagdybio unrhyw beth. Ewch yn agos, gwrandewch, ac adeiladu yn unol â hynny.
- Perchnogwch dynged eich cynnyrch. Codwch gyllid yn strategol, arhoswch yn ystwyth a pheidiwch â gadael i bwysau allanol eich gwyro chi.
- Dewiswch fabwysiadwyr cynnar yn ddoeth. Gall y cwsmeriaid cywir helpu i lunio eich cynnyrch a gweithredu’n eiriolwyr.
- Adeiladwch eich tîm a rhwydweithio’n ofalus. Cyflogwch yn feddylgar, cynlluniwch yn fwriadol, a sicrhewch fod cynghorwyr dibynadwy gennych chi o’ch cwmpas chi.
- Arhoswch yn gadarn. Dyw bywyd Busnes Newydd ddim yn hawdd, ond mae’r effaith y gallwch chi ei gwneud yn werth pob her.
Cliciwch yma i ddysgu rhagor am y Rhaglen Cyflymu Twf.
Cliciwch yma i ddysgu rhagor am Dot On.