Mae pobl wedi camddeall ADHD ers degawdau - yn enwedig yn achos menywod. Mae'r rhan fwyaf o driniaethau wedi'u cynllunio o amgylch bioleg wrywaidd, gyda meddyginiaethau sy'n seiliedig ar symbylydd sy'n cuddio symptomau yn hytrach na mynd i'r afael ag achosion sylfaenol. Ond i lawer o fenywod, mae gan ADHD gysylltiad dwfn â hormonau, iechyd y perfedd, a rhythm yr ymennydd ar draws gwahanol gyfnodau bywyd.

Dyna’r broblem yr aeth Lucy McCarthy-Christofides ati i’w datrys.

Sefydlodd Lucy Môr, sef brand iechyd arloesol a adeiladwyd yn benodol i fenywod sydd ag ADHD. Mae Môr yn cyfuno atchwanegiadau a gefnogir gan wyddoniaeth, offer digidol, a dealltwriaeth ddofn o niwroamrywiaeth, wedi'i gynllunio i helpu menywod i deimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth ar eu cyflwr.

Yn rhan o ddatblygu'r busnes, ymunodd Lucy â Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, menter allweddol o'r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT). Mae'r rhaglen gyflymu yn cefnogi busnesau cyfnod cynnar sydd â photensial twf uchel, gan eu helpu nhw i fireinio eu modelau busnes, cryfhau strategaeth fasnachol, a pharatoi ar gyfer buddsoddiad.
Môr
Fe wnaethon ni ddal i fyny â Lucy i ddysgu rhagor am y stori y tu ôl i Môr a sut helpodd y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes i ddod â'i gweledigaeth yn fyw.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth i ti ddechrau Môr?
Ar ôl i mi gael diagnosis o ADHD yn 2016, doeddwn i ddim yn gallu cymryd y feddyginiaeth safonol oherwydd awtoimiwnedd. Felly, dechreuais i bori yn yr ymchwil a chael braw o beth welais i. Roedd popeth wedi’i adeiladu i ddynion. Doedd dim byd yn mynd i'r afael â sut mae ADHD yn ymddangos mewn menywod neu sut mae'n croestorri â hormonau, iechyd y perfedd, a thrawsnewidiadau bywyd. Fel rhywun sydd wedi gweithio mewn brandiau defnyddwyr uchel eu twf a strategaeth cynnyrch, gallwn i weld y bwlch - a'r potensial. Creais i Môr i gynnig cymorth a oedd wedi’i wreiddio mewn gwyddoniaeth a’i ddylunio i fenywod.

Beth oedd yr heriau i ti cyn ymuno â’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes?
Fel llawer o sylfaenwyr ADHD, doeddwn i ddim yn brin o syniadau, ond roedd y cyfan yn i llethol i mi, yn gwneud popeth ar fy mhen fy hun ac yn ceisio rhagweld pob penderfyniad. Rhoddodd y rhaglen gyflymu i mi syniad o strwythur, momentwm, a chymuned. Sylweddolais i nad oeddwn i ar fy mhen fy hun, ac roedd hynny’n drawsnewidiol.

Sut gwnaeth y rhaglen helpu i lunio datblygiad Môr?
Helpodd fi i dynhau'r model masnachol, egluro ein safle, a chyfleu'r cyfle i fuddsoddwyr. Helpodd fi hefyd i roi prawf cyflym ar dybiaethau, cael adborth, ac adeiladu’n fwy hyderus. Y rhaglen cyflymu twf oedd y gwahaniaeth rhwng cael syniad gwych a chreu busnes y gellir ei ariannu.

Beth sy’n gwneud Môr yn wahanol i atebion ADHD eraill?
Rydyn ni’n adeiladu'r atchwanegiad cyntaf sydd wedi’i ddylunio yn benodol ar gyfer menywod sydd ag ADHD yn seiliedig ar yr echel perfedd-ymennydd-hormon - rhywbeth sydd wedi cael ei anwybyddu am lawer rhy hir. Cafodd ein fformwleiddiad ni ei greu ar y cyd â niwrowyddonydd o fri, ac rydyn ni’n paratoi ar gyfer treialon clinigol.

Pa offer neu ganfyddiadau a gafodd yr effaith fwyaf yn ystod y rhaglen gyflymu?
Roedd dysgu sut i ddefnyddio AI i fireinio cynnwys a oedd yn wynebu cwsmeriaid yn gam trawsnewidiol. Ces i hefyd well dealltwriaeth o lawer o godi arian cyfnod cynnar a sut i greu cynnig buddsoddwr gafaelgar, sydd wedi bod yn allweddol wrth i ni baratoi ar gyfer ein rownd ariannu gyntaf.

Gawsoch chi drobwynt yn ystod y rhaglen?
Gollwng yr angen am berffeithrwydd. Roeddwn i’n arfer dal popeth yn ôl nes oeddwn i’n teimlo ei fod e’n ddi-fai. Fodd bynnag, dysgodd y rhaglen gyflymu i mi fod gwneud yn well na bod yn berffaith ac y gall adeiladu yn gyhoeddus gyda phwrpas fod yn bwerus.

Beth yw’r cam nesaf i Môr dros y 6–12 mis nesaf?
Lansio, rhedeg treial defnyddwyr, a chreu cymuned o bobl sy’n ei fabwysiadu’n gynnar yw ein ffocws ni. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod y cyntaf i wybod pryd y byddwn ni’n lansio ymuno â’n rhestr aros yn get-mor.comRydyn ni hefyd yn mireinio ein deunyddiau i fuddsoddwyr a’n sgyrsiau cychwynnol ar gyfer arian cyn hau. Rwy'n parhau â'm taith i dyfu gyda chyflymydd parodrwydd ariannu trwy Female Founders Rise, gan adeiladu ar yr hyn y helpodd y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes i mi ddechrau.

Beth yw dy weledigaeth di ar gyfer Môr?
Bod yn frand iechyd i fenywod ag ADHD, gan eu cynorthwyo o'r glasoed trwy’r perimenopos a thu hwnt. Yn y tymor hir, rydyn ni’n gweld Môr yn esblygu yn blatfform a alluogir gan dechnoleg gan gynnig cymorth personol gyda chymorth gwyddoniaeth a phrofiad byw. Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi ein lleoli yng Nghymru, ond bydd ein heffaith ni yn un fyd-eang.

Pa gyngor y byddet ti’n ei rannu ag eraill wrth feddwl am ddechrau busnes?
Dechreuwch gyda phroblem sydd o bwys mawr i chi; bydd hynny’n eich cynnal chi drwy’r dyddiau anodd. Siaradwch â chwsmeriaid yn gynnar, dilyswch yr angen, a chofiwch nad oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun. Gall cymorth a chymuned, a ges i yn y rhaglen gyflymu, wneud gwahaniaeth enfawr.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein RCT 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein Rhaglen Cyflymu Cychwyn Busnes

Share this page

Print this page