Gall fod yn hanfodol i fusnes sicrhau cyllid grant os yw eisiau tyfu a rhoi syniadau newydd ar waith. Fodd bynnag, gall y broses fod yn gymhleth a chymryd llawer o amser.
Mae Jeremy Bowen Rees, Rheolwr Cysylltiadau BWAGP, yn defnyddio ei 25 mlynedd o brofiad o ymgynghori i rannu ei awgrymiadau gorau am lunio ceisiadau llwyddiannus am gyllid.
1. Chwiliwch i weld pa grantiau sydd ar gael
- Archwiliwch gronfeydd data grantiau cynhwysfawr fel Grant Finder, Cyllido Cymru a Grants Online
- Defnyddiwch adnoddau Busnes Cymru a chynghorau lleol, sydd yn aml yn hyrwyddo grantiau i fusnesau yn eu hardaloedd
- Gwnewch chwiliadau wedi eu targedu ar y we neu defnyddiwch offer deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT sydd â thanysgrifiad i gael arweiniad wedi’i deilwra
2. Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd
- Astudiwch nodiadau arweiniad y corff grantiau er mwyn deall beth yw’r gofynion ar gyfer bod yn gymwys. Gallai’r gofynion hyn gynnwys yr angen i greu swyddi, cynyddu trosiant neu dargedau penodol fel gostwng allyriadau CO₂
- Talwch sylw agos i fanylion technegol fel dyddiadau cwblhau, fformatau a chamau cyflwyno. Mae llawer o grantiau’n cynnwys proses dau gam, felly mae’n hanfodol eich bod yn llunio mynegiant o ddiddordeb sy’n atyniadol
- Gwnewch yn siŵr bod eich prosiect yn cyfateb â diben a chwmpas y grant
- Cysylltwch â swyddogion grantiau i gael trafodaethau anffurfiol er mwyn cael eglurhad am unrhyw ansicrwydd
3. Deall y cyfyngiadau
- Dylech gydnabod bod sicrhau a rheoli grantiau’n cymryd llawer o ymdrech
- Edrychwch i weld beth yw’r cyfyngiadau ar y ffordd y gellir defnyddio’r arian a chyfatebwch amseriadau’r prosiect gyda’r prosesau dyfarnu grantiau, sy’n gallu cymryd 3+ mis
- Aseswch eich gallu i gyflawni’r gofynion arian cyfatebol, sydd yn aml yn hanfodol er mwyn bod yn gymwys i dderbyn grant
4. Ydy’r grant yn cyfateb â’ch strategaeth?
- Sicrhewch fod y grant yn cyfateb â strategaeth eich busnes neu brosiect. Peidiwch ag addasu cynlluniau tymor hir dim ond er mwyn ateb meini prawf grant oherwydd gallai hyn amharu ar ddichonoldeb eich prosiect
- Cofiwch fod grantiau’n cael eu hystyried yn incwm trethadwy ac y gallant gynnwys goblygiadau cyfateb sy’n para 2-5 mlynedd
5. Dewch i ddeall y canlyniadau sy’n ofynnol er mwyn cyfiawnhau rhoi grant
- Adolygwch yr arweiniad a’r deunydd gwybodaeth gan y cyrff cyllido er mwyn deall y canlyniadau gofynnol a’r meini prawf sgorio
- Mae llawer o gystadleuaeth am grantiau yn aml iawn, felly dewch i wybod beth yw eich pwynt gwerthu unigryw (USP) ac esboniwch sut mae eich prosiect yn cyflawni nodau’r grant
- Yn fy mhrofiad i, mae llai na 50% o geisiadau grant yn llwyddo. Aseswch pa mor debygol ydych chi o’i dderbyn mewn gwirionedd a cheisiwch gyngor arbenigol neu siaradwch â’ch Rheolwr Cysylltiadau BWAGP os ydy hyn i gyd yn newydd i chi
6. Rhowch dystiolaeth go iawn o’r rhesymau pam y dylech dderbyn cefnogaeth
- Cefnogwch eich hawliadau gyda thystiolaeth fesuradwy, fel geirdaon, astudiaethau achos neu lythyrau cefnogi
- Dangoswch y pethau yr ydych wedi eu cyflawni yn y gorffennol a’r buddion a ddisgwyliwch er mwyn cyfiawnhau pam mae eich busnes yn haeddu cyllid
7. Dangoswch eich angen am gyllid
- Gwnewch ymchwil cefndirol i dynnu sylw at bwysigrwydd eich busnes/prosiect o fewn eich sector neu ardal ddaearyddol
- Dangoswch sut mae eich prosiect yn mynd i’r afael â heriau neu fylchau penodol a rhowch ddadansoddiad manwl o’ch anghenion ariannol
8. Cynhyrchwch ragamcaniadau ariannol realistig
- Cyflwynwch ragamcaniadau ariannol manwl gywir sy’n tynnu sylw at effaith y grant ar eich busnes
- Cynhwyswch dybiaethau manwl a’r dogfennau gofynnol, fel datganiadau llif arian a chyfrifon elw a cholled
- Dangoswch gynaliadwyedd eich busnes a’ch gallu i gyflawni’r goblygadiau arian cyfatebol. Mae cynnwys y senarios gorau, canolradd a gwaethaf yn gallu gwneud i’r cais edrych yn fwy credadwy
9. Defnyddiwch geisiadau grant blaenorol (os ydych wedi gwneud bidiau eraill)
- Addaswch gynnwys y ceisiadau a wnaethoch o’r blaen a’i deilwra i’r cyfle grant cyfredol. Gwneud yn siŵr bod y manylion i gyd wedi eu diweddaru ac yn berthnasol
- Cadwch lyfrgell o dempledi ariannol ac ymatebion safonol y gallwch eu haddasu. Yn aml iawn mae grantiau’n gofyn i chi am bolisïau allweddol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, gwaith teg, lliniaru carbon ac ati i gyd-fynd â’r cais.
- Peidiwch â brysio – gallai ceisiadau sydd wedi eu llunio’n wael niweidio enw da eich busnes gyda swyddogion grant
10. Gwiriwch y cais eilwaith a’i brawfddarllen cyn ei anfon
- Sicrhewch fod y dogfennau i gyd wedi eu cynnwys a’u bod wedi eu fformatio’n gywir
- Darllenwch y cais yn fanwl i gywiro unrhyw wallau neu elfennau anghyson
- Gofynnwch i gydweithiwr neu gynghorwr y gallwch ymddiried ynddynt adolygu eich cais gyda llygaid ffres
- Edrychwch eto ar y nodiadau arweiniad i gadarnhau eich bod wedi ymdrin â’r holl bwyntiau a chanlyniadau angenrheidiol cyn eu hanfon
- Gofynnwch am dderbynneb darllen i gadarnhau eich bod wedi ei anfon yn gywir
Trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn a buddsoddi amser ac ymdrech, gallwch wella eich siawns o sicrhau arian grant yn sylweddol. Cofiwch, mae’n hanfodol rhoi ystyriaeth fanwl i’ch cais er mwyn llwyddo.
Oes angen cymorth arnoch chi gyda cheisiadau grant? Siaradwch â’ch Rheolwr Cysylltiadau BWAGP i gael cyngor arbenigol a chymorth wedi’i deilwra.
Pob hwyl!