Nid dim ond y peth iawn i’w wneud yw creu gweithle amrywiol, hygyrch; mae hefyd yn strategaeth dyfu sydd wedi ennill ei phlwyf. Mae busnesau cynhwysol yn recriwtio o gronfa ddoniau ehangach, yn dal gafael ar staff arbennig, ac yn adeiladu enw da cryfach gyda chwsmeriaid, buddsoddwyr a phartneriaid.

Pam mae twf cynhwysol yn gwneud synnwyr busnes

Wrth i’ch busnes chi dyfu, bydd angen i chi gael pobl wych i’ch helpu. Os yw eich gwaith recriwtio neu eich gweithle, yn anfwriadol, yn eithrio rhai grwpiau, rydych chi’n cyfyngu ar y bobl y gallwch chi eu cyrraedd ac yn colli’r sgiliau y mae eich cystadleuwyr yn eu sicrhau, o bosibl.

Mae cyflogwyr cynhwysol yn elwa o:

• Fynediad i gronfa letach, fwy amrywiol o ran doniau
• Cadw rhagor o weithwyr a chostau recriwtio is
• Arloesi a chydweithredu cryfach
• Brand mwy deniadol i bartneriaid a chyllidwyr

Nid yn unig rywbeth sy’n edrych yn dda ar bapur yw gweithle cynhwysol. Mae’n gwella sut mae’ch tîm yn cydweithio a sut mae’ch busnes yn perfformio.

Addasiadau rhesymol: Dyletswydd gyfreithiol a chyfle i ddenu doniau

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr ac ymgeiswyr anabl. Gallai hyn olygu addasu rôl swydd, newid y broses gyflogi neu gynnig gwaith hyblyg.

Ar ben sicrhau cydymffurfiad cyfreithiol, o wneud yr addasiadau hyn mae’ch busnes chi’n agored i ymgeiswyr galluog, ymrwymedig y gallech chi eu colli nhw fel arall. A’r ffordd hawsaf o gael pethau’n iawn? Siaradwch yn uniongyrchol â’r person a chytunwch gyda’ch gilydd ar beth sy’n gweithio.

Alinio gyda Gwaith Teg: Safon Cymru ar gyfer gwell busnes

Mae agenda Gwaith Teg Llywodraeth Cymru yn annog busnesau i fabwysiadu arferion sy’n hyrwyddo tegwch, diogelwch a chyfle. I gyflogwyr, mae alinio gyda’r gwerthoedd hyn yn eich helpu chi i recriwtio a chadw’r bobl gywir wrth i chi dyfu.

Mae egwyddorion Gwaith Teg yn cynorthwyo:

• Gwell llesiant o ran y staff
• Llai o absenoldebau
• Perfformiad a theyrngarwch cryfach

Pan fydd eich tîm yn teimlo’n werthfawr a’u bod nhw’n cael cymorth, mae eich busnes yn perfformio’n well. Mae hi mor syml â hynny.

Byddwch yn rhan o’r gwaith o gau bwlch cyflogaeth anabledd

Mae Cymru wedi pennu targed cenedlaethol i gau bwlch cyflogaeth anabledd erbyn 2035. Gall cyflogwyr sy’n gweithredu nawr achub y blaen ac arwain y ffordd.

Yn ogystal â bod yn gymdeithasol gyfrifol, mae hwn yn gam call i unrhyw gyflogwr sy’n awyddus i ehangu eu tîm, hybu cynhyrchiant a dangos arweinyddiaeth. Mae cyflogi cynhwysol yn eich helpu chi i sefyll allan i arianwyr, partneriaid a chwsmeriaid sydd am weithio gyda busnesau sydd wedi eu gyrru gan werthoedd.

Cam ymarferol yw ymuno â’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, sef menter gan Lywodraeth y DU sy’n cefnogi cyflogwyr i:

• Recriwtio o’r gronfa ddoniau ehangaf posibl
• Sicrhau staff medrus, triw a brwd
• Hybu morâl ac ymrwymiad gweithwyr drwy ddangos tegwch i bawb

Mae’r cynllun hwn hefyd yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid, cyflenwyr a darpar weithwyr eich adnabod chi’n gyflogwr cynhwysol sydd wedi’i yrru gan werthoedd.

Dysgwch ragor am y Cynllun Hyderus o ran Anabledd a sut y gallai eich busnes chi elwa yma.

Ble i Ddechrau

• Adolygwch y gwaith recriwtio i ddileu rhwystrau diangen
• Cynigiwch addasiadau rhesymol a siaradwch yn uniongyrchol â’r staff
• Hyrwyddwch lais ac adborth gweithwyr
• Ymgorfforwch egwyddorion Gwaith Teg ar ddechrau eich proses dyfu
• Ystyriwch ymuno â’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Am adeiladu gweithle mwy cynhwysol a chystadleuol?

Mae ein Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) yn helpu busnesau sy’n tyfu yng Nghymru i roi arferion cynhwysol ar waith. Siaradwch â’ch Rheolwr Perthnasoedd i weld sut y gallwn ni gynorthwyo gyda’ch nod.

Share this page

Print this page