Mae'r Cyflymydd Busnesau Newydd yn cefnogi busnesau cyfnod cynnar yng Nghymru sydd â photensial twf uchel, gan eu helpu i fireinio eu modelau busnes, adeiladu piblinellau gwerthu a sicrhau buddsoddiad. Dros y blynyddoedd, mae BWAGP wedi cefnogi sylfaenwyr sydd wedi mynd ymlaen i godi miliynau o fuddsoddiad, tyfu'n rhyngwladol a chreu miloedd o swyddi ledled Cymru.
Daeth y garfan bresennol â 13 o entrepreneuriaid at ei gilydd ar gyfer rhaglen ddwys 10 wythnos a'u helpodd i drawsnewid syniadau arloesol yn fusnesau ffyniannus gyda mynediad at fentoriaid arbenigol, cynghorwyr busnes a rhwydwaith o gymheiriaid. Daeth i ben gyda digwyddiad arbennig a oedd yn cydnabod chwe entrepreneur rhagorol am eu hymroddiad, eu creadigrwydd a'u heffaith.
Enillwyr y gwobrau eleni yw:
- Gwobr Cyflymydd Gwerthiant: Nathan Jones, sylfaenydd SecuraNova
Mae SecuraNova yn symleiddio'r gwaith o gaffael seiberddiogelwch, gan gynnig gwasanaethau diogelwch hyblyg, tryloyw sydd wedi eu gyrru gan ganlyniadau i fusnesau. - Gwobr Cynnig Flex: Donna Chappell, sylfaenydd Tŷ Dol
Mae Tŷ Dol Cyf yn darparu sesiynau gweithgareddau wedi'u teilwra a gwasanaethau cymorth i bobl â dementia a chyflyrau iechyd hirdymor, yn ogystal â'u gofalwyr a'u darparwyr gofal. - Gwobr Hyrwyddwr Cyflymydd: Latham Tawhai, sylfaenydd Graze Guard
Mae Graze Guard yn helpu i amddiffyn athletwyr rhag anafiadau sy'n gysylltiedig ag arwynebau chwarae artiffisial, gan ddarparu amddiffyniad hanfodol yn ystod gweithgareddau chwaraeon. - Gwobr Gwerthiant Cyflymaf: Kim Gristy, sylfaenydd MetalMudInc
Mae MetalMudInc yn cynnig gwaith celf unigryw, llawn hiwmor i garwyr celf. Mae'n cynnig detholiad wedi'i guradu o ddarnau gwreiddiol, argraffiadau cyfyngedig, a cherfluniau gan artistiaid enwog. - Gwobr Cyfranogwr Mwyaf Cydweithredol: VJ Appleton, sylfaenydd Divergent Emergent
Mae Divergent Emergent yn cysylltu talent niwroamrywiol â chyfleoedd yn y diwydiant creadigol, gan gynnig llwybr strwythuredig o asesu sgiliau i lwyddiant hirdymor yn y gweithle. - Gwobr Cyflymydd: Nick Clement, sylfaenydd Confident Healthy Active Me
Mae Confident Healthy Active Me CIC (CHAM) yn fenter gymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ei nod yw hybu hyder a gweithgarwch corfforol mewn cymunedau ledled Cymru.
Meddai Richard Morris, Cyfarwyddwr Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:
"Mae Rhaglen Cyflymydd Busnesau Newydd Busnes Cymru yn helpu busnesau cyfnod cynnar i ennill cwsmeriaid yn gyflymach, sicrhau cyllid ac adeiladu sylfaen gref ar gyfer twf cynaliadwy. Mae ein hyfforddwyr arbenigol yn eu cefnogi bob cam o'r broses, gan weithio ochr yn ochr â sylfaenwyr i symleiddio, lleihau risg a chyflymu twf.
Mae pob carfan o'r Cyflymydd Busnesau Newydd yn dod ag amrywiaeth anhygoel o angerdd, arloesedd a phenderfyniad gan yr entrepreneuriaid sy'n ymuno â'r rhaglen hon. Mae enillwyr y garfan hon wedi cofleidio'r rhaglen yn llawn, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at eu gweld yn parhau â'u taith."
Meddai Nick Clement, enillydd Gwobr Cyflymydd:
"Mae ennill y wobr hon yn garreg filltir enfawr ar ôl taith ddwys a gwerth chweil i mi a fy musnes. Mae Rhaglen Cyflymydd Busnesau Newydd Busnes Cymru wedi rhoi'r hyder, yr offer ymarferol a'r arweiniad i mi i droi fy syniad busnes yn rhywbeth real a thyfadwy. Mae'r mentora a'r cysylltiadau rydw i wedi'u meithrin wedi agor cyfleoedd newydd, a nawr rwy'n teimlo'n barod ac yn gyffrous ar gyfer y cam twf nesaf."
Bellach mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn derbyn ceisiadau ar gyfer y Cyflymydd Busnesau Newydd nesaf, sy'n dechrau ym mis Mai. Mae'n agored i entrepreneuriaid uchelgeisiol sydd am fireinio eu syniadau busnes a chyflymu twf.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i:
https://events.newable.co.uk/events/1358/cyflymydd-busnesau-newydd-busnes-cymru-mai-2025