Yn yr amgylchedd busnes sydd ohoni heddiw, rydyn ni’n gwybod y gallwn ni ddefnyddio cynhyrchion gyda deallusrwydd artiffisial i’n helpu ni i fod yn fwy cynhyrchiol, ond ymhle ddylen ni gychwyn? Dyma saith offeryn ddeallusrwydd artiffisial hynod effeithiol a allai weddnewid eich cynhyrchedd a rhoi mwy o amser i chi i ganolbwyntio ar dwf strategol.

Mae Jaymie Thomas, Cyd-sylfaenydd AI Wales, sef cymuned ddeallusrwydd artiffisial wedi ei seilio yng Nghaerdydd yn rhannu atebion a allai eich helpu i arbed amser gwerthfawr a bod yn fwy effeithlon.

Offeryn: Motion https://www.usemotion.com/
Yr hyn y mae’n ei wneud: Rheoli calendrau a thasgau

Pam yr ydw i’n ei argymell:
Mae Motion yn trefnu eich calendr yn awtomatig ar sail blaenoriaethau a dyddiadau cwblhau, gan eu haddasu mewn amser real wrth i ymrwymiadau newydd godi. Am nad oes angen i chi geisio newid a chyfnewid slotiau yn y calendr, mae eich ffocws bob amser ar y gweithgareddau mwyaf effeithiol.

Offeryn: Make https://www.make.com/
Yr hyn y mae’n ei wneud: Awtomeiddio prosesau busnes

Pam yr ydw i’n ei argymell:
Mae Make yn cysylltu apiau busnes yr ydych yn eu defnyddio’n barod i greu ffrydiau gwaith deallus. Mae dulliau awtomataidd o gysylltu â chwsmeriaid i ddilyn i fyny ar bethau ac o symleiddio prosesau mewnol, yn gallu gostwng tasgau llaw ailadroddus yn sylweddol, gan olygu bod eich tîm yn gallu canolbwyntio ar ychwanegu gwerth.

Offeryn: Canva https://www.canva.com/
Yr hyn y mae’n ei wneud: Creu cynnwys i’r cyfryngau gweledol

Pam yr ydw i’n ei argymell:
Mae Canva wedi esblygu yn rhaglen gynhwysfawr greadigol sydd wedi’i phweru gan ddeallusrwydd artiffisial. Gall gynhyrchu cynnwys wedi brandio ar unwaith, newid maint dyluniadau ar gyfer gwahanol blatfformau, a hyd yn oed awgrymu gwelliannau i’ch dyluniadau. Mae galluoedd deallusrwydd artiffisial Canva yn golygu ei fod yn gallu creu defnydd marchnata gwefreiddiol mewn munudau.

Offeryn: Repurpose.io https://repurpose.io/
Yr hyn y mae’n ei wneud: Mae’n dosbarthu defnyddiau marchnata i wahanol blatfformau

Pam yr ydw i’n ei argymell:
Mae’n addasu eich cynnwys yn awtomatig ar gyfer gwahanol blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol. Gall newid fformat un darn o gynnwys mewn ffordd ddeallus i mewn i bostiadau niferus, gan arbed oriau o waith llaw ac, ar yr un pryd, gadw’r negeseuon brand yn gyson.

Offeryn: Cavefish EchoDepth https://www.cavefish.co.uk/
Yr hyn y mae’n ei wneud: Dadansoddiad emosiynol o gynnwys deallusrwydd artiffisial

Pam yr ydw i’n ei argymell:
Yn hytrach nag aros i weld sut mae eich defnydd marchnata’n perfformio gyda’ch cynulleidfa, beth am ddeall yr emosiynau y mae’n eu sbarduno cyn i chi ei gyhoeddi! Mae technoleg EchoDepth gan y cwmni Cavefish o Gaerdydd, yn gadael i chi archwilio’r signalau emosiynol yn eich cynnwys ac yna ei addasu i gyd-fynd â’ch segment cwsmeriaid targed chi. Hynod glyfar! 

Offeryn: Claude Assistant https://claude.ai/ 
Yr hyn y mae’n ei wneud: Cynllunio prosiectau a meddwl yn strategol

Pam yr ydw i’n ei argymell:
Gall Claude eich helpu i dorri prosiectau cymhleth yn gamau y gallwch ymdopi â nhw, gweld lle gallai rhwystrau godi ac awgrymu strategaethau gweithredu effeithlon. Mae’n debyg i gael eich cynghorydd strategol eich hun i wrando arnoch 24/7. Mae Claude hefyd yn offeryn rhagorol ar gyfer eich gwaith ymchwil ac ymholiadau rheolaidd.

Offeryn: Otter AI https://otter.ai/
Yr hyn y mae’n ei wneud: Crynhoi a thrawsgrifio cyfarfodydd

Pam yr ydw i’n ei argymell:
Mae Otter yn wahanol am ei fod yn gallu adnabod a labelu gwahanol leisiau yn eich cyfarfod, hyd yn oed pan mae’n gyfarfod hybrid ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae’n gallu trawsgrifio a dadansoddi mewn amser real gan gofnodi a threfnu cynnwys a gweithredoedd cyfarfodydd yn awtomataidd.

Cam cyntaf yn unig yw’r offer deallusrwydd artiffisial hyn yn yr hyn sy’n bosibl gyda deallusrwydd artiffisial mewn busnes, ond maen nhw’n offer y gallwch ddechrau eu defnyddio heddiw. Gall mabwysiadu’r atebion hyn ostwng eich baich gweinyddol yn sylweddol a gwella eich effeithiolrwydd gweithredol.

Fy nghyngor? Dechreuwch gydag un neu ddau o’r offer sy’n mynd i’r afael â’ch heriau mwyaf brys ac yna ehangwch eich pecyn cymorth deallusrwydd artiffisial yn raddol wrth i chi weld canlyniadau.

Edrychwch i weld sut y gall Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru eich helpu i harneisio Deallusrwydd Artiffisial er mwyn llwyddo
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yma i’ch helpu i integreiddio atebion deallusrwydd artiffisial i’ch busnes er mwyn gwella eich cynhyrchedd a’ch canlyniadau. Am fod gennym amrywiaeth fawr o hyfforddwyr arbenigol, rydym yn cynnig arweiniad wedi’i deilwra i sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar yr offer grymus yma. Siaradwch â’ch Rheolwr Cysylltiadau BWAGP heddiw i weld sut y gallwn eich cefnogi wrth i chi weithio i gyflwyno arferion busnes mwy clyfar ac effeithlon.

Share this page

Print this page