Rydyn ni’n gwybod bod eich amser yn werthfawr. Dyna pam mae’r gyfres hon yn darparu llyfrau, podlediadau ac offer y mae arbenigwyr wedi eu hargymell sy’n mynd i’r afael â heriau go iawn ac yn cynnig atebion ymarferol i helpu eich busnes i lwyddo.
Ymhob cylchlythyr byddwn yn rhannu argymhellion gan ein Rheolwyr Cysylltiadau, sy’n arbenigwyr profiadol sy’n gweithio gyda busnesau twf uchel ledled Cymru. Mae’r adnoddau hyn wedi eu dewis yn ofalus i’ch helpu chi i arwain yn hyderus, gwthio twf a chofleidio arloesi gan hefyd ymdrin â’r cyfleoedd a’r heriau unigryw a wynebwch.
Fis yma, mae Nicola Rylett-Jones yn rhannu ei ffefrynnau. Mae dewisiadau Nicola yn canolbwyntio ar newid sy’n parhau a thwf cynaliadwy, ac maen nhw’n adlewyrchu ei brwdfrydedd hithau am helpu busnesau i ffynnu.
1. Atomic Habits gan James Clear
Pam mae’n ffefryn gen i
Rydw i’n caru’r llyfr hwn oherwydd mae’n canolbwyntio ar adeiladu arferion da a thorri arferion gwael drwy wneud newidiadau bach, graddol. Mae Atomic Habits yn rhoi’r sgiliau ymarferol i arweinwyr adeiladu arferion sy’n cyfateb gweithredoedd dyddiol gyda thargedau tymor hir.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
- Defnyddio “Pedair Deddf Newid Ymddygiad” (Arwydd, Awydd, Ymateb, Gwobr) i sefydlu arferion cynhyrchiol
- Sut mae gweithredoedd bach a chyson yn cyfuno dros amser i gyflawni nodau tymor hir
- Grym systemau dros nodau – adeiladu fframwaith i wella’n barhaus
Pam mae’n bwysig i arweinwyr busnes
Mae busnes yn llwyddo yn aml iawn oherwydd bod ganddo systemau cryf y gallwch eu hailadrodd. Mae Atomic Habits yn rhoi sgiliau ymarferol i arweiniwyr i adeiladu arferion sy’n dod â chanlyniadau ystyrlon tymor hir.
2. Traction gan Gino Wickman
Pam mae’n ffefryn gen i
Mae Traction yn sefyll yn amlwg fel canllaw ymarferol da i fusnesau sy’n tyfu. Mae’n cyflwyno’r System Weithredu Entrepreneuraidd (EOS), sef fframwaith syml sy’n helpu busnesau i alinio eu gweledigaeth a gweithredu eu cynlluniau’n effeithiol.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddiffinio eich gwerthoedd craidd a’ch targedau tymor hir gyda’r Trefnydd Gweithredu Gweledigaeth (VTO)
- Sut i symleiddio prosesau a meithrin atebolrwydd o fewn eich tîm
- Offer ymarferol i wella cyfathrebiad y tîm a’u gallu i wneud penderfyniadau, fel cyfarfodydd Lefel 10
Pam mae’n bwysig i arweinwyr busnes
Mae’r llyfr hwn yn berffaith i berchnogion busnes sy’n teimlo’n sownd yn eu hunfan neu wedi eu llethu. Mae ei gyngor sy’n rhwydd ei weithredu yn helpu busnesau sy’n tyfu i symleiddio gweithredoedd a chreu atebolrwydd, gan ei wneud yn ddelfrydol i arweinwyr sy’n cael trafferthion am nad yw eu timau wedi eu halinio’n gywir.
Meddai Nicola:
“Mae’r ddau lyfr yma’n hanfodol er mwyn gwneud newid ystyrlon. Mae Atomic Habits yn dangos sut mae gwneud addasiadau bach yn gallu creu momentwm grymus, tra bo Traction yn darparu’r strwythur i gynnal a thyfu momentwm. Yn fy ngwaith gyda busnesau, rwyf wedi gweld y dulliau hyn yn gweddnewid dynameg timau, yn gwella aliniad ac yn dod â thwf mesuradwy.”
Cyflymwch eich llwyddiant gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Ydych chi’n barod i roi’r syniadau hyn ar waith? Mae ein tîm BWAGP yma i’ch helpu i gyflawni twf mesuradwy a goresgyn eich heriau busnes mwyaf. Cysylltwch â’ch Rheolwr Cysylltiadau heddiw i gymryd y cam nesaf tuag at lwyddiant.
Ymunwch â chlwb llyfrau busnes Nicola yn rhad ac am ddim
Yn ogystal ag arwain cleientiaid BWAGP i lwyddo, mae Nicola Rylett-Jones yn rhedeg y Clwb Llyfrau Busnes Inspirante. Mae hwn yn glwb llyfrau rhad ac am ddim ar-lein i bobl broffesiynol ym myd busnes sy’n gwerthfawrogi grym gweddnewidiol darllen.
Mae’r sesiynau grŵp bychain hyn a gynhelir bob chwe wythnos yn cynnig lle cefnogol i gysylltu ag arweinwyr sy’n meddwl yn debyg i’w gilydd, yn trafod llyfrau dylanwadol ac yn cael syniadau newydd ar gyfer tyfu’n bersonol ac yn broffesiynol.
Hoffech chi ymuno? Cysylltwch â Nicola yn uniongyrchol ar nicola.rylettjones@businesswalesagp.org i gael rhagor o wybodaeth.