Rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith o bartneriaid arbenigol sy’n datblygu i’ch helpu chi i dyfu’n gynt ac yn glyfrach. Mae ein cynllun Partneriaid Aur yn dod â phrif fusnesau Cymru sy'n darparu cymorth arbenigol mewn gwasanaethau, at ei gilydd yn unig i gwmnïau ar y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT).

Mae'r partneriaid arbenigol hyn yn deall heriau twf uchel ac maen nhw wedi ymrwymo i helpu busnesau Cymru i lwyddo. Rydyn ni wrthi’n chwilio am bartneriaid newydd i ehangu'r rhwydwaith hwn a chryfhau'r cymorth sydd ar gael i chi.

Beth mae’r Partneriaid Aur yn ei gynnig

Mae ein Partneriaid Aur yn darparu cymorth gwerth uchel, mewn gwasanaethau ar draws yr arbenigedd y mae arnoch chi ei angen fwyaf: cyngor cyfreithiol, arloesi digidol, strategaeth farchnata, cyllid, cynaliadwyedd, technoleg ac atebion gweithle. Mae pob partner yn dod â gwybodaeth sector dwfn a phrofiad ymarferol gan gefnogi busnesau uchelgeisiol fel eich un chi.

Mae RCT yn hwyluso cyflwyniadau pan fo'n berthnasol, ond rydych chi bob amser yn dewis y cymorth sy'n gweddu i'ch anghenion chi.

Eich partneriaid wrth dyfu

Un o brif gwmnïau cyfraith fasnachol Cymru yw Darwin Gray sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd a Bangor. Mae ganddyn nhw allu ac arbenigedd dwyieithog sy'n rhychwantu eiddo masnachol, cyfraith gorfforaethol, cyflogaeth a datrys anghydfodau, ac maen nhw’n cefnogi busnesau twf uchel o’u cychwyn tan y pwynt ymadael. Yn ddiweddar fe enillon nhw wobr “Twf Busnes y Flwyddyn” yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2025.

Grŵp amlddisgyblaeth syn gwneud cytundebau yw GS Verde sy'n dod â gwasanaethau cyllid corfforaethol, cyfreithiol, treth a chyfathrebu o dan yr un to. Mae ganddyn nhw swyddfeydd yng Nghaerdydd, Bryste, ac ar draws y DU, gan arbenigo mewn uno a chaffaeliadau, gwerthu busnes, a chodi buddsoddiad, gan ddarparu cymorth o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer trafodion corfforaethol cymhleth.

Gamlins Law yw prif gwmni cyfreithiol rhanbarthol Gogledd Cymru, gan ddarparu gwasanaethau cyfreithiol amlddisgyblaeth gan gynnwys cymorth masnachol, eiddo, rheoleiddio a chyflogaeth cwmnïau. A hwythau wedi bod yn aelodau o RCT gyda thwf digid dwbl o flwyddyn i flwyddyn, maen nhw’n angerddol am helpu busnesau Cymru i ehangu.

Mae Liberty Marketing yn asiantaeth farchnata digidol yng Nghaerdydd a’i chenhadaeth yw "rhyddhau perfformiad ar-lein i frandiau sy'n mynnu gwell". Mae eu tîm o 30 o aelodau yn darparu arbenigedd arobryn ym maes SEO, PPC, y cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys, a chysylltiadau cyhoeddus digidol ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru a brandiau rhyngwladol fel ei gilydd.

Cwmni o gyfreithwyr yng Nghymru yw Redkite sy'n arbenigo mewn cyfraith gorfforaethol a masnachol ar gyfer busnesau sy'n tyfu, gydag arbenigedd arbennig mewn uno a chaffaeliadau, trafodion buddsoddi, contractau masnachol, ac eiddo deallusol.

Tramshed Tech yw un o brif hybiau technoleg Cymru yng Nghaerdydd, gan ddarparu gofod cydweithio a chymuned fywiog sy'n cysylltu sylfaenwyr, buddsoddwyr ac arloeswyr. Mae eu hecosystem yn creu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu, rhannu gwybodaeth, a thwf.

Cwmni datblygu meddalwedd o Gaerdydd yw WeGetDesign sy’n arbenigo mewn atebion cod isel neu sydd wedi’u pweru gan AI. Maen nhw’n helpu busnesau newydd a BBaChau i ddylunio, dilysu, ac adeiladu meddalwedd sy’n barod am fuddsoddwyr ac y gellir ei thyfu.

Elusen achrededig gan BACP yw Platfform sy’n darparu cymorth llesiant cynhwysfawr yn y gweithle. O wiriadau iechyd sefydliadol a datblygu strategaeth llesiant i hyfforddiant arweinyddiaeth dosturiol, hyfforddiant gweithle, a gwasanaethau cwnsela arobryn, maen nhw’n helpu busnesau i greu amgylcheddau gweithio iachach a mwy gwydn ar gyfer llwyddiant hirdymor

Mae DSW Corporate Finance yn gwmni cynghori blaenllaw gyda dros 150 o weithwyr proffesiynol ledled y DU ac mae ganddo ddegawdau o brofiad yn cefnogi busnesau sy’n tyfu’n gyflym. Wedi’i raddio fel un o’r cynghorwyr cyllid corfforaethol mwyaf gweithgar yn y DU, mae eu tîm yng Nghaerdydd yn gwasanaethu cwmnïau uchelgeisiol ledled Cymru, gan gynnig cyngor ar uno ac ymgymeriadau, codi arian, pryniadau gan reolwyr, ymddiriedolaethau perchnogaeth gan weithwyr (EOTs), a chynllunio ymadael. 

Sut i gael cymorth

Mae Partneriaid Aur yma i’ch helpu chi i fynd i’r afael â heriau twf penodol. Os oes arnoch chi angen cyngor cyfreithiol, strategaeth marchnata digidol, neu gyngor arbenigol ar gynaliadwyedd neu ddatblygiad meddalwedd, gallwn ni gysylltu â chi â chymorth arbenigol gan ein Partneriaid Aur a’n rhwydwaith ehangach.

Yn barod i archwilio eich opsiynau? Siaradwch â’ch Rheolwr Perthnasoedd heddiw i archwilio sut y gallai ein Partneriaid Aur neu gymorth ehangach ychwanegu gwerth at eich busnes.

Gold Partner Logo

Share this page

Print this page