Nid dim ond mater o amddiffyn y blaned yw mesur a lleihau eich ôl-troed carbon. Mae’n golygu diogelu eich busnes rhag y dyfodol gan sicrhau na chewch chi eich gadael ar ei hôl hi.
Mae cwsmeriaid a buddsoddwyr, yn fwy ac yn fwy, yn disgwyl gweithredu ar gynaliadwyedd. Mae’r rheoleiddio’n tynhau. Mae pwysau cynyddol ar fusnesau bach a chanolig i ddatgarboneiddio wrth i gwsmeriaid mwy o faint edrych ymhellach i fyny eu cadwyni cyflenwi i leihau eu hallyriadau. Bydd dechrau nawr yn eich helpu chi i barhau ar y blaen, torri costau, ac adeiladu enw da cryfach. Trwy weithredu’n gynnar gallwch chi wneud gwelliannau cyson y gellir eu rheoli yn hytrach na rhuthro i ddal i fyny maes o law.
Budd cyflym a chamau cyntaf
Dechreuwch gyda chamau syml sy’n arbed carbon ac arian.
Cyn misoedd y gaeaf, chwiliwch am arbedion ynni wrth wresogi a gwellwch eich inswleiddio. Anogwch staff i nodi cyfleoedd ynghylch effeithlonrwydd ynni ynghylch sut y gallwch chi ddefnyddio goleuadau, TG, a pheiriannau. Gwiriwch fod popeth wedi’i gau dros nos ac ar y penwythnos.
Allwch chi leihau teithiau busnes, gosod gwefrydd EV, neu annog teithio llesol ar gyfer taith ddyddiol eich tîm yn ôl ac ymlaen i’r gwaith? Edrychwch ar eich gwastraff. Allech chi ailddefnyddio rhywfaint o becynnu eich cyflenwyr wrth anfon nwyddau at gwsmeriaid?
Olrheiniwch eich allyriadau gan ddefnyddio cyfrifianellau carbon ar-lein rhad ac am ddim a gynlluniwyd ar gyfer BBaChau trwy Hyb Hinsawdd BBaChau. Bydd hyn yn dangos yn gyflym y meysydd lle mae eich allyriadau mwyaf, sef yn aml, ynni, trafnidiaeth, neu wastraff. Wedyn gallwch chi flaenoriaethu newidiadau sy’n gwneud synnwyr i’ch busnes chi. Mae budd cyflym yn creu hyder a momentwm, gan ddangos bod modd cyflawni cynaliadwyedd a’i fod yn fuddiol o’r cychwyn.
Gwreiddio newid ar gyfer yr hirdymor
I wneud cynnydd yn barhaol, plethwch gynaliadwyedd i mewn i benderfyniadau pob dydd. Pennwch dargedau clir, rhannwch ddiweddariadau â’ch tîm a dathlwch gerrig milltir. Ystyriwch benodi “hyrwyddwr gwyrdd” i gadw pethau i symud.
Holwch gyflenwyr am eu nodau carbon a dewis partneriaid sy’n cyd-fynd â’ch rhai chi. Pan ddaw cynaliadwyedd yn rhan o’ch diwylliant, mae’n denu doniau, yn sicrhau cwsmeriaid ffyddlon, ac yn cadw eich busnes chi’n wydn mewn economi sy’n newid.
Sut y gall RCT gefnogi eich taith garbon chi
Fel yr Hyrwyddwr Carbon penodedig, rydw i ar gael i helpu busnesau i lunio cynlluniau lleihau carbon pwrpasol. Rydyn ni hefyd yn rhedeg rhaglen Cyflymu Carbon i roi'r holl offer a sgiliau y mae eu hangen ar eich arweinydd cynaliadwyedd i fesur a lleihau allyriadau, ac i gyfleu'r manteision hyn yn effeithiol.
Yn barod i ddechrau lleihau eich ôl-troed carbon? Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) yn helpu busnesau Cymru i adeiladu strategaethau cynaliadwyedd ymarferol, cyraeddadwy sy'n cryfhau'ch busnes chi a'r blaned. Siaradwch â’ch Rheolwr Perthnasoedd am y cymorth y mae arnoch chi ei angen.