Cyfarwyddyd

Gwybodaeth Gyfrinachol a Chytundebau Dim Datgelu

Mae’n bosib mai’r eiddo deallusol mwyaf gwerthfawr sydd gan fusnes yw ei wybodaeth gyfrinachol. Mae’r adran hwn yn tynnu sylw at y gwahanol fathau o wybodaeth gyfrinachol a sut mae modd ei diogelu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 June 2014
Diweddarwyd diwethaf:
14 September 2023

Cynnwys

1. Crynodeb

Mae’n bosib mai’r eiddo deallusol mwyaf gwerthfawr sydd gan fusnes yw ei wybodaeth gyfrinachol. Mae’r adran hwn yn tynnu sylw at y gwahanol fathau o wybodaeth gyfrinachol a sut mae modd ei diogelu.

2. Gwybodaeth Gyfrinachol a Chytundebau Dim Datgelu

Mae’r isod yn enghreifftiau nodweddiadol o wybodaeth gyfrinachol:

  • Rhestrau o gwsmeriaid, cynlluniau marchnata a threfniadau disgownt
  • “Dealltwriaeth” – yr arbenigedd a'r wybodaeth ymarferol i roi peiriant penodol ar waith neu i gyflawni proses
  • Cyfrinachau Masnach – fel cynhwysyn neu rysáit cyfrinachol

Mae’n bosib mai’r eiddo deallusol mwyaf gwerthfawr sydd gan fusnes yw ei wybodaeth gyfrinachol.

Er enghraifft, mae Coca-Cola wedi creu ymerodraeth fyd-eang ar sail rysáit sydd wedi bod yn gyfrinach ers 1886. Petai rysáit Coca-Cola wedi cael patent, byddai wedi cael ei gyhoeddi, ac unwaith y byddai’r patent wedi dod i ben, byddai unrhyw un wedi gallu defnyddio’r rysáit.

Mae Coca-Cola yn mynd i gryn drafferth i ddiogelu cyfrinachedd ei rysáit – mae’n cael ei chadw dan glo mewn cell yn Atlanta, a dim ond rhai gweithwyr sy’n cael ei gweld. Nid yw hyd yn oed y rheini sy’n gwneud Coca-Cola’n gwybod yn union pa gynhwysion maen nhw’n eu defnyddio.

Nid oes yn rhaid i bob busnes fynd i’r fath raddau, ond mae rhai gwersi y gellir eu dysgu.

Gwnewch yn siŵr bod eich gweithwyr, eich cyflenwyr, eich isgontractwyr, eich cwsmeriaid ac ati, ond yn cael gweld y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Hefyd, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod pa wybodaeth sy’n gyfrinachol a beth yw eu rhwymedigaethau ynghylch y wybodaeth.

Mae modd gwneud hyn drwy wneud yn siŵr bod yr holl bartïon perthnasol yn llofnodi Cytundeb Cyfrinachedd neu Gytundeb Dim Datgelu.

Mae rhagor o wybodaeth am Gytundebau Dim Datgelu ac enghraifft o gytundeb ar gael yn www.ipo.gov.uk/p-cda

Gellir diogelu cyfrinachedd am gyfnod amhenodol, ond unwaith mae’r wybodaeth ar gael i’r cyhoedd, nid yw cyfrinachedd yn cael ei ddiogelu mwyach. Mae dibynnu ar gyfrinachedd i ddiogelu’ch busnes yn gryn risg, ac mae gofyn bod yn wyliadwrus drwy'r amser i wneud yn siŵr nad yw'ch gwybodaeth gyfrinachol mewn perygl.

Defnyddiwch y rhestr wirio hon i gadw golwg ar gyfrinachedd eich busnes (MS Word 12kb).

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.