Cyfrifoldeb cyfreithiol Bwrdd y Cyfarwyddwyr (neu gyfwerth) yw rheoli’r busnes, yn cynnwys ei holl wariant.
Mentrau cymdeithasol a rheolaeth ariannol
Mae tair agwedd allweddol ar reoli cyllid eich busnes. Yn gyntaf, mae angen i chi sefydlu sybsidiaredd – dirprwyo’r awdurdod i lawr yn ymwybodol i’r lefel briodol i awdurdodi gwariant, sy’n golygu nad oes angen i weithwyr sy’n gwneud paned o de drosglwyddo’r cais i’r Bwrdd.
Mae hyn yn ein harwain at yr ail ffactor allweddol – eglurder. Mae angen i’r busnes gael polisi (neu bolisïau) a chyllideb(au) clir wedi eu gosod gan y Cyfarwyddwyr ar ba bwerau gwariant (faint, ar beth) sydd wedi eu dirprwyo ac i bwy. Mae hefyd yn bwysig gosod safonau, e.e. sut mae cyflogeion yn mynd ati i hawlio costau teithio a chynhaliaeth.
Mae awdurdodi gwariant yn un peth, ond mae gwneud y taliad yn beth arall. Mae’n arfer da i symiau sylweddol o arian wahanu’r swyddogaethau hyn a chael gwahanol bobl i’w cyflawni.
Mae hyn yn helpu â chyflwyno’r trydydd gair allweddol – atebolrwydd. Mae’n pennu pwy sy’n gwneud penderfyniadau ac yn galluogi rheolwyr i gymharu’r rheiny â’r polisïau a’r cyllidebau busnes. Mae’n ffordd effeithiol o wneud yn siŵr fod neb yn mynd y tu hwnt i’w awdurdod, yn torri’r gyllideb neu’n anfon arian heb awdurdodiad. Gan fod o leiaf ddau o bobl ynghlwm erbyn hyn, bydd pwy bynnag sy’n gwneud trafodiadau yn gyfrifol am ddangos tystiolaeth o hyn trwy gofnodion priodol.
Hierarchaeth rheoli cyllid mewn menter gymdeithasol
Rôl Cyfarwyddwyr yw cynorthwyo eu gweithiwr/gweithwyr cyllid i osod gweithdrefnau sy’n annog pawb sydd ynghlwm i ddeall sut mae’r cyfrifon yn gweithio a beth allant ei wneud i wella llif cadw cyfrifon. Cyfrifoldeb Cyfarwyddwyr hefyd yw sicrhau bod y busnes yn cadw cyfrifon cywir ac yn gallu paratoi datganiadau ariannol gwir a theg.
Yn gyfnewid am hyn, gallwch ofyn am wybodaeth amser real am berfformiad y busnes. Nid yw busnesau sy’n cael eu cynnal yn dda yn aros tan y flwyddyn ganlynol i’w cyfrifydd ddweud wrthynt p’un a ydynt wedi gwneud elw neu golled. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf a rhannu’r busnes yn rhannau cyfansoddol, gan ddadansoddi perfformiad pob rhan yn ôl elw a cholled (dadansoddi cyfraniad). Gall eich tîm cyllid gymharu perfformiad ariannol gwirioneddol â’r amcanestyniadau hefyd, gan eu bod wedi paratoi mecanwaith rheolaeth ariannol rhif un – amcanestyniadau’r gyllideb.
Gallai gwahaniaeth rhwng y mecanwaith gwirioneddol a’r gyllideb gael ei achosi gan ddiffyg dealltwriaeth o’r busnes, newid mewn ffactorau allanol, gwastraff neu dwyll. Bydd angen i’r Cyfarwyddwyr ymchwilio ac adennill rheolaeth mor gyflym ag y bo modd.
Mae gwybodaeth reoli yn rym. Mae’r cyfrifon yn ffynhonnell wybodaeth dda iawn sy’n eich grymuso i weld y tu mewn i’r busnes a chanolbwyntio ar beth mae angen i chi wario adnoddau rheoli. Mae llif gwybodaeth araf yn lleihau’r gwerth hwnnw.
Statws Masnachu Cydfuddiannol
Os yw busnes cymdeithasol yn gonsortiwm o sefydliadau sy’n gwerthu gwasanaethau i’w aelodau yn unig, gallai fod yn gymwys i gael Statws Masnachu Cydfuddiannol (MTS) gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF), sy’n golygu na fydd gweithgarwch masnachu yn cael ei drethu ddwywaith.
Ewch i wefan GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth.
Pan fyddwch wedi sefydlu sut mae eich cyllid yn cael ei reoli, symudwch ymlaen i adolygu rheoli eich adnoddau dynol.
Cymorth i fusnesau cymdeithasol gan Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnes. Rydym wedi rhestru isod rai adnoddau defnyddiol ar gyfer rheoli cyllid eich busnes cymdeithasol.