BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Datblygu adnoddau dynol mewn busnes cymdeithasol

Mae’n bwysig bod yn eglur ynghylch beth yw sail y berthynas rhwng busnes cymdeithasol a’r bobl sy’n gwneud y gwaith. A yw’r gweithiwr yn bartner, yn gontractwr hunangyflogedig, yn wirfoddolwr neu’n weithiwr sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol? A ydynt yn gweithio’n amser llawn neu’n rhan amser, ac os ydynt yn rhan-amser, a yw’r busnes yn brif gyflogwr neu’n gyflogwr eilaidd?

Pwyntiau i’w hystyried 

Mae dibynnu ar ewyllys da, neu ddrysu perthynas sydd o bosibl yn gymhleth, neu ddibynnu ar gyd-ddigwyddiad tybiedig amcanion cymdeithasol, yn gallu arwain at roi trefn ar y materion hyn drwy brosesau drud o ran amser ac arian, naill ai’n fewnol, neu mewn Tribiwnlys Diwydiannol neu mewn Llys. 

Wrth ymgymryd â chyflogaeth, a yw’r gweithiwr yn derbyn hawliau a chyfrifoldebau fel Aelod, perchennog rhannol neu bartner, ac os felly, a yw hyn yn digwydd ar unwaith neu ar ôl cyfnod prawf (neu fodloni gofynion prawf)?

Mae swyddogaeth Datblygiad Adnoddau Dynol (DAD) yn allweddol i oroesiad a llwyddiant Busnes Cymdeithasol, ac mae’n egwyddor gadarn i roi’r rôl hon yn benodol i rywun neu ryw dîm sydd â’r amser a’r gyllideb ariannol sydd eu hangen iddynt ei gweithredu.

Mae DAD da yn dod ag eglurder i’r berthynas rhwng busnes a gweithiwr. Mae disgrifio’r rolau y disgwylir i weithwyr eu cyflawni yn allweddol i eglurder. Mae’n bosibl y bydd gan y rôl hon nifer o swyddogaethau gwahanol oddi mewn iddi (Aelod, Cyfarwyddwr, swyddogaeth(au) rheolaeth fewnol, swyddogaeth(au) perthynas allanol, yn ogystal â gwaith o ran cynhyrchu neu ddarparu gwasanaeth). Y gorau fydd eu disgrifiad mewn swydd-ddisgrifiadau, y gorau oll fydd gweithiwr yn gallu deall ei rôl ei hun a rôl y gweithwyr eraill, y gorau oll fydd y rheolwyr craidd yn deall pwy sy’n gwneud beth (a’r hyn sydd eto i’w wneud gan unrhyw un), a’r gorau oll y bydd y rhai sy’n gyfrifol am Adnoddau Dynol a Datblygu yn deall sut y gallant fynd i’r afael ag anghenion hyfforddi’r gweithlu. Bodlonir yr anghenion hyn trwy gynllun DAD a chyllideb y dylid ei chymeradwyo gan y Cyfarwyddwyr (neu gyfwerth) a dylai’r rhain fod yn rhan annatod o’r Cynllun Busnes.   

Gellir adlewyrchu’r Cynllun DAD cyffredinol mewn Cynlluniau Datblygiad Personol (CDPau) ar gyfer pob gweithiwr. Cytunir ar CDPau gydag aelodau’r gweithlu ac maent yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n ofynnol er mwyn iddynt gyflawni eu rôl bresennol a’u rôl ragamcanedig yn effeithiol ac effeithlon. Yn dibynnu ar bolisi a chyllideb y Busnes Cymdeithasol, mae’n bosibl y gallai fynd i’r afael hefyd â datblygiad personol a phroffesiynol ehangach.

Dylid adolygu rôl a datblygiad proffesiynol gweithwyr yn rheolaidd ac o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae creu dealltwriaeth gan y gweithiwr a DAD ynghylch y rôl a sut mae’n gweddu o fewn y busnes yn ei gyfanrwydd yn gallu arwain at gynigion ar gyfer newidiadau i’r rôl honno, neu i rolau eraill, neu i brosesau neu i ddyrannu adnoddau yn y busnes er mwyn gwella effeithiolrwydd cyffredinol. 

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynghylch Cyflogi pobl a gwella sgiliau | Busnes Cymru ar wefan Busnes Cymru.

Hefyd, gellir defnyddio hyn i sefydlu safonau ar gyfer perfformiad gwaith a thargedau ar gyfer gwelliannau o ran ansawdd ac effeithlonrwydd. Gellir defnyddio’r rhain yn eu tro ar gyfer proses arfarnu ac adborth ar berfformiad gweithiwr. 

Mae swydd-ddisgrifiadau cynhwysfawr yn werthfawr iawn wrth recriwtio. Mae’n galluogi’r swyddogaeth DAD i hysbysebu gofynion yn gywir, i lunio rhestr fer o ymgeiswyr sy’n gallu dangos y wybodaeth, y sgiliau, y tueddfrydau a’r diddordebau priodol ac i lunio profion a chwestiynau ar gyfer cyfweliadau a fydd yn cynyddu’r siawns o ddewis yr ymgeisydd cywir. (Hefyd, bydd yn cynyddu’r siawns o gofnodi cydymffurfiad â Pholisi Cyfle Cyfartal busnesau a gofynion cyfreithiol.) Ceir rhagor o wybodaeth am recriwtio staff, contractau ac amrywiaeth ar wefan Busnes Cymru.

Mae busnesau cymdeithasol yn cael cyfleoedd i farchnata eu swyddi gwag trwy lawer o rwydweithiau yn ymwneud â’u cenhadaeth gymdeithasol, eu sector masnach, grwpiau buddiant ac ati.  Mae’n talu ffordd i fod yn ddi-ildio a hysbysebu am ymgeiswyr mewn modd mor eang â phosibl hyd yn oed os yw’r busnes yn ifanc, y dyfodol yn ansicr a’r cydnabyddiaethau ariannol ychydig yn anghystadleuol. Ystyriwch bob amser y posibilrwydd y cewch eich synnu ar yr ochr orau gan bobl uchel eu cymhelliant gyda dealltwriaeth o realiti busnes yn cynnig eu gwasanaethau. 

Mae’r swyddogaeth DAD hefyd yn sicrhau bod y Busnes Cymdeithasol yn bodloni ei rwymedigaethau o dan y gyfraith ac o ran ymarfer gorau fel cyflogwr da. Conglfaen y berthynas rhwng Busnes Cymdeithasol a chyflogeion yw ei gontract cyflogaeth safonol. Mae mwy o fanylion ar ofynion cyfreithiol ar gael ar wefan Busnes Cymru ac ar ymarfer da trwy ACASMae llawer o Fusnesau Cymdeithasol o’r farn bod cefnogaeth a chyngor gan Undeb Llafur sy’n berthnasol i’w masnach yn fuddiol ac yn annog eu gweithlu i ymuno ag Undeb Llafur.  

Mae materion Disgyblu a Chwynion, lle mae’r rhain yn ymwneud â chyflogaeth, yn rhan o swyddogaeth DAD, hefyd. Wrth weithredu gweithdrefnau disgyblu, mae’n bwysig iawn gweithredu’n ofalus, yn gymesur ac i ystyried Cyfraith Cyflogaeth a’r codau ymarfer da a gyhoeddir gan ACAS. Peidiwch ag anghofio ystyried unrhyw hawliau ychwanegol a roddir i gyflogeion neu Aelodau gan ddogfen lywodraethu, polisïau, gweithdrefnau, arferion ac ymarferion y Busnes Cymdeithasol ei hun. Yn arbennig, cofiwch y gallai’r rhain roi hawl ychwanegol i apelio i gorff llywodraethu’r Busnes Cymdeithasol y tu hwnt i’r hawliau sydd gan weithwyr yn y rhan fwyaf o fusnesau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.