BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cynllunio busnes ar gyfer busnes cymdeithasol

Er mwyn cynnal busnes cymdeithasol a reolir yn dda, mae’n bwysig cael cynllun busnes cyfoes.

Gwnewch yn siŵr ei fod yn gyflawn ac yn hygyrch i bawb yn eich sefydliad, fel bod cyflogeion yn gallu dehongli camau rheoli o ddydd i ddydd oddi wrtho. Gallai cynllun busnes o ansawdd gwael olygu bod eich busnes yn cael ei gamreoli ac yn wrthgymdeithasol. Gallai hyd yn oed achosi iddo fod yn fethdalwr!

Porwch drwy ein hadran cynllunio busnes am ganllaw i ysgrifennu eich cynllun busnes.

Pam mae cynllun busnes yn bwysig ar gyfer eich menter gymdeithasol  

Mae’n debygol y bydd eich cynllun busnes yn fwy ymarferol mewn busnes cymdeithasol o gymharu â busnes preifat, lle gall fod yn sgwrs rhwng perchnogion busnes a chefnogwyr ariannol.

Mewn busnes cymdeithasol, defnyddir y cynllun busnes yn fecanwaith ar gyfer sgwrs rhwng pob un o’r rhanddeiliaid (mewnol ac allanol) ac mae ganddo ranberchnogaeth yn eu plith. Bydd rhanberchnogaeth ehangach o’r ddogfen yn adlewyrchu dyfodol gwirioneddol y busnes yn well. Mae hyn yn gwneud y cynllun yn ganllaw gweithredu defnyddiol ar gyfer rheolwyr ac yn fecanwaith pwerus ar gyfer ennill cefnogaeth wybodus a gweithredol rhanddeiliaid perthnasol, yn ogystal â chefnogwyr newydd.  

Beth yw manteision cynllunio busnes? 

Mae cynllun busnes yn darparu ffordd o gymharu dyfodol a ddychmygwyd yn y gorffennol gyda’r presennol. Mae’n canolbwyntio ar wella rheoli adnoddau presennol a gwneud amcanestyniadau pellach mwy cywir. Felly, mae’n newid yn ddynamig ac yn fynych. I sicrhau bod pawb yn edrych ar yr un ystyr cynllun ac yn gweithio tuag ato, dylech ystyried rheoli fersiynau.

I gyflawni’r manteision hyn, mae angen i’r cynllun busnes fod yn ddogfen ‘fyw’ weithredol, gyda pherfformiad gwirioneddol yn cyd-fynd ag ef, ac yn cymharu ag ef. Yn ogystal â pherfformiad ariannol, mae hyn yn golygu sicrhau bod cynhyrchion a gwasanaethau, adnoddau dynol a chynhyrchiant yn cael eu datblygu.  

Gwnewch eich cynllun busnes yn fyr ac yn gryno, gyda thargedau clir a mesuradwy, cynlluniau gweithredu clir, proffiliau amser a siartiau Gantt. Dylech fonitro a phrofi’r elfennau ar gyfer perthnasedd a chyflawni yn rheolaidd.  

Defnyddio eich cynllun busnes yn offeryn rheoli

Mae busnesau cymdeithasol yn elwa ar benodi unigolyn i fonitro dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) a phwyntiau gweithredu yn y cynllun busnes, dehongli canlyniadau ac adrodd am gynnydd i’r tîm. Gallent hefyd gymryd cyfrifoldeb am ragweld y dyfodol yn barhaus, ac adnewyddu’r cynllun ar sail profiad a gwybodaeth newydd.  

Mae angen i amcanestyniadau fod yn gydlynus. Er enghraifft, efallai bydd angen capasiti newydd, staff newydd ac felly cynllun recriwtio a sefydlu adnoddau dynol (AD) newydd ar gyfer cynhyrchu deilliannau cymdeithasol newydd. Mae cael proses gynllunio sy’n cael ei hwyluso’n briodol yn eich galluogi i nodi materion o’r fath, a gall eu hatal rhag dod yn broblemau. Mae hefyd yn eich helpu i sicrhau bod amcanestyniadau llawn o’r buddsoddiad angenrheidiol.


Dolenni Cysylltiedig


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.