Mae busnes cymdeithasol, fel endid cyfreithiol, yn gorff corfforaethol a rhaid iddo ufuddhau i bob cyfraith.
Mae hyn yn cynnwys nid yn unig ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ffurf gyfreithiol y busnes cyfreithiol, ond cyfreithiau ehangach hefyd megis iechyd a diogelwch, cyflogaeth, treth, masnach, contractau, cyllid, cyfle cyfartal a diogelu pobl fregus.
Swyddogaethau bwrdd busnes cymdeithasol
Mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr, neu gyfwerth, yn gyfreithiol gyfrifol am reoli a goruchwylio busnes cymdeithasol. Eu tasg yw sicrhau ei fod ef a phob un o’r rheiny sy’n ei wasanaethu yn gweithredu’n gyfreithiol ac yn briodol. Mae cyfarwyddwyr, is-grwpiau, rheolwyr, cyflogeion, aelodau cyswllt, is-gontractwyr unigol i gyd yn atebol i’r Bwrdd.
Mae’r Bwrdd yn ei dro yn adrodd i randdeiliaid ar berfformiad y busnes cymdeithasol yn erbyn ei dargedau cymdeithasol a’i dargedau busnes. Gallai’r bwrdd busnes cymdeithasol gael ei ddiddymu a’i ddisodli gan y rheiny sydd â phleidlais, ond ni all drosglwyddo’r cyfrifoldebau cyfreithiol hynny.
Mae hyn yn gysyniad sylfaenol ac yn gyrru’r ffordd y mae atebolrwydd yn gweithredu o fewn busnes cymdeithasol. Gallai Bwrdd y Cyfarwyddwyr ddirprwyo pŵer i’w swyddogion i wneud gweithgareddau ar ei ran. Bob tro maent yn gwneud hynny, mae’n bwysig fod cyfarwyddwyr unigol a’r bwrdd cyfan yn gallu dweud wrthyn nhw eu hunain fod y pŵer hwn yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithiol, yn briodol ac yn unol â gwerthoedd, egwyddorion a pholisïau sydd wedi eu nodi gan yr aelodaeth.
Sefydlu strwythur rheoli busnes cymdeithasol
Y cam cyntaf yw sicrhau bod pwerau’n cael eu trosglwyddo’n gydlynus ac yn ddiamwys. Mae dogfennau allweddol yn cynnwys swydd-ddisgrifiadau, contractau cyflogaeth, cytundebau gwirfoddolwyr, codau ymarfer, canllawiau neu lawlyfrau polisi a gweithdrefn, cynlluniau cyflawni a chyllidebau. Yn gyffredinol, mae’n helpu gwneud yn siŵr fod cyfarwyddiadau penodol yn cael eu rhoi’n ysgrifenedig, ac ar lafar, yn ogystal, neu’u cytuno a’u cofnodi. Trwy wneud hyn, mae llwybr archwilio yn ymwneud â’r hyn yr oedd y Bwrdd yn bwriadu iddo ddigwydd.
Pan mae hyn i gyd yn helaeth neu’n gymhleth neu’r tu hwnt i brofiad blaenorol rhai o’r rheiny dan sylw (a bydd yn aml yn cynnwys pob un o’r rhain), bydd yn bwysig rhoi esboniad a hyfforddiant i gyd-fynd ag ef. Mae hefyd yn fuddiol i annog diwylliant lle mae pawb yn teimlo’u bod yn gallu gofyn am eglurhad os oes ei angen arnynt ac i amlygu gwallau, hepgoriadau ac anghysondebau trwy system awgrymiadau sy’n golygu nad yw’r beirniadaethau adeiladol hyn yn mynd ar goll, ond yn arwain at welliant parhaus pob agwedd ar y sefydliad.
Llywodraethu busnes cymdeithasol
Pan fydd yn glir beth mae’r Bwrdd yn bwriadu iddo ddigwydd a sut mae’n disgwyl i’w waith gael ei wneud, dylai’r Bwrdd ddatblygu ffyrdd o fonitro p’un a yw’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yn cydymffurfio â’i ddisgwyliad. Gallai hyn gynnwys adrodd, hapwiriadau, adborth cwsmeriaid a chymharu alldro ariannol gyda chyllidebau. Bydd y mecanweithiau gwirioneddol yn amrywio yn ôl maint a natur y busnes.
Wrth gwrs, weithiau mae pethau’n mynd o chwith, ond dylai’r Bwrdd allu dangos cynllun cydlynus i gaffael gwybodaeth am beth sy’n digwydd yn y busnes cymdeithasol y mae’n gyfrifol amdano. Hefyd, dylai ddarparu tystiolaeth fod y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i gywiro’r hyn sydd wedi mynd o chwith, gan ei gwneud yn llai tebygol y gallai pethau tebyg fynd o chwith yn y dyfodol. Gallwch gyflawni hyn ar lefel Bwrdd neu ar lefel is briodol o reolaeth ddirprwyedig.
Wedi i chi sefydlu mecanweithiau rheoli a goruchwylio, amlinellwch ffyrdd ymarferol o ddatblygu capasiti eich llywodraethiant.