BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ffynonellau cyllid

P’un a ydych chi wrthi’n cychwyn, neu’n bwriadu tyfu eich busnes cymdeithasol, bydd cael syniad clir am ba ffynonellau cyllid sydd ar gael i chi yn helpu gwneud y broses yn fwy esmwyth.

Mae nifer o lwybrau cyllid y gallwch eu dilyn ar sail eich nodau busnes a gofynion penodol eich sefydliad.

Yn yr adran hon, rydym yn amlinellu’r gwahanol agweddau ar ddewis y ffynhonnell gyllid gywir ar gyfer eich menter gymdeithasol.

Ffyrdd i nodi’r ffynonellau cyllid sydd ar gael i’ch busnes  

Wrth nodi ffynonellau cyllid, mae angen i chi ystyried ffactorau fel cyfleustra, risg bersonol a thelerau ad-dalu. Dylech chi hefyd ystyried faint y byddai’n ei gostio i godi eich cyfalaf busnes a thalu dyled eich busnes, yn ogystal â lefel y rheolaeth a fydd gan fuddsoddwyr yn y busnes cymdeithasol. Yn olaf, a ydych chi’n fodlon peryglu arian y buddsoddwr penodol? 

Ffyrdd i nodi’r ffynonellau cyllid sydd ar gael i’ch busnes  

Wrth nodi ffynonellau cyllid, mae angen i chi ystyried ffactorau fel cyfleustra, risg bersonol a thelerau ad-dalu. Dylech chi hefyd ystyried faint y byddai’n ei gostio i godi eich cyfalaf busnes a thalu dyled eich busnes, yn ogystal â lefel y rheolaeth a fydd gan fuddsoddwyr yn y busnes cymdeithasol. Yn olaf, a ydych chi’n fodlon peryglu arian y buddsoddwr penodol? 

Strategaeth Fuddsoddi Gytbwys:

Defnyddir y term ‘strategaeth fuddsoddi gytbwys’ i ddisgrifio ffordd o sicrhau cydbwysedd rhwng risg ac enillion trwy ddyrannu a rheoli portffolio.

Mae’r dull dyrannu portffolio hwn wedi’i rannu rhwng gwarannau ac ecwitïau incwm sefydlog.

Gallai strategaeth fuddsoddi gytbwys gynhyrchu incwm, cyfleoedd ar gyfer twf, a photensial am arallgyfeirio, hefyd. Yn yr adran hon, rydym yn edrych ar y tair prif agwedd ar y dull dyrannu portffolio hwn.

Buddsoddiad cyfalaf sefydlog cytbwys 

Y buddsoddiad cyfalaf sefydlog (arian a fuddsoddir mewn asedau o natur barhaol i’w defnyddio droeon dros gyfnod hir) yw’r rhan o strategaeth fuddsoddi sy’n fwyaf amlwg a rhwydd ei mesur, fel arfer. Hon hefyd yw’r rhan rwyddaf i godi cyllid ar ei chyfer oherwydd y gellir sicrhau buddsoddiad i ryw raddau yn erbyn y nwyddau cyfalaf hyn.

Am y rheswm hwn, mae buddsoddiadau cyfalaf sefydlog yn cael gormod o sylw wrth godi cyllid. Gall hyn arwain at strategaeth fuddsoddi anghytbwys lle na wneir digon o ddefnydd o fuddsoddi mewn capasiti cynhyrchiol. 

Mae tanfuddsoddi mewn pethau anweladwy (er enghraifft, buddsoddi mewn sgiliau, datblygu’r farchnad neu ddatblygu cynnyrch) yn golygu nad oes digon o sgiliau i wneud defnydd llawn o’r buddsoddiad, neu nid oes digon o ddatblygiad marchnad i’w gadw’n gwbl brysur. Mae tanfuddsoddi mewn cyfalaf gweithio (yr arian parod sydd ar gael ar gyfer gweithrediadau sefydliad o ddydd i ddydd) yn golygu nad oes arian i brynu’r mewnbynnau sydd eu hangen i’w fwydo.  

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o agweddau ar reoli menter, mae strategaeth fuddsoddi dda yn ymwneud â chydbwysedd, cytgord, a synergedd. Mae’n well gwneud ychydig yn dda ac yn drylwyr yn hytrach na gwneud llawer mewn modd costus ac anghytbwys. 

Ariannu dros y tymor hir 

Yn yr un modd, dylech gyflwyno’r strategaeth fuddsoddi mewn ffordd sy’n hawdd ei rheoli gan y sefydliad, ac sy’n gweddu i’w batrwm twf. Mae hyn yn golygu bod angen strategaeth gytbwys dros gyfnod o flynyddoedd.

Mae cynllunio tymor hir yn helpu lleihau camgymeriadau sy’n aml yn digwydd pan fydd mentrau yn caniatáu i’w strategaethau buddsoddi gael eu gosod yn ôl ymateb i ofynion buddsoddi unigol. Yn aml, mae buddsoddiadau felly yn dangos gwendid pellach yn rhywle arall yn hytrach na chynyddu cynhyrchiant, sy’n golygu mai ychydig iawn o adenillion ar y cyfalaf a ddefnyddiwyd, os o gwbl, a gaiff y busnes.  

Ffynonellau cyfalaf amrywiol 

Mae angen i fenter wasgaru ei ffynonellau cyllid ar draws ystod o opsiynau er mwyn sicrhau nad yw’n disgyn dan reolaeth sefydliad allanol. Mae sicrhau cydbwysedd o ran y ffynonellau buddsoddi yr un mor bwysig â sicrhau cydbwysedd yn y defnydd a wneir ohoni ar draws y fenter a thros gyfnod. 

Dylech chi hefyd ystyried strategaethau amgen i ariannu eich busnes cymdeithasol y gallech eu dilyn:

Ar ôl penderfynu beth sydd ei angen i sefydlu neu ddatblygu’r fenter, dylech chi ofyn i chi eich hunain p’un a oes angen cael hyn yn fewnol gyda’r holl fuddsoddiad cysylltiedig sy’n angenrheidiol neu drefnu drwy gontract allanol.

Ai eich cyfrifoldeb chi yw’r buddsoddiad ar hyn o bryd? A oes wir angen i chi dderbyn buddsoddiad ychwanegol? Neu a fyddai’n rhatach, yn llai peryglus neu’n ffordd o brofi pa mor effeithiol fydd buddsoddiad yn y dyfodol drwy is-gontractio i fusnes arall sydd naill ai’n gallu cyflenwi neu’n fodlon buddsoddi ynddo’i hun i gyflenwi i chi? Hefyd, efallai na fyddwch chi mewn sefyllfa ddigon cryf i sicrhau buddsoddiad a bydd angen i chi chwilio am strategaethau amgen.

Dylech chi fynd yn ôl i archwilio eich nodau busnes. Efallai ei bod yn bwysig gwneud yn siŵr fod pob cyfle yn cael ei ddefnyddio i ehangu maint y gweithrediad, naill ai i gyflawni màs critigol, caniatáu ar gyfer arbenigo neu i greu swyddi, ond yn yr un modd, nid yw hyn yn wirionedd angenrheidiol. Er enghraifft, mae’n werth cael gwaith wedi’i drefnu drwy gontract allanol hyd nes y profir y tu hwnt i amheuaeth y bydd symud y swyddogaeth honno yn fewnol yn arbed arian. Mae hyn yn lleihau risg buddsoddi ac yn uchafu’r achos i fuddsoddwyr allanol. Yn ôl pob tebyg, lleihau costau trwy newid gwasanaeth a ddarperir yn allanol ar hyn o bryd am un sy’n cael ei ddarparu’n fewnol, yw’r achos buddsoddi hawsaf i’w brofi.

Dewis arall yw chwilio o gwmpas am fenter fach arall mewn maes cysylltiedig i weithio gyda hi, gan adael cyfran o’r buddsoddiad iddi. Yr egwyddor arweiniol yma yw bod rhaid i’r gwaith, y gwaith i gyd, gael ei wneud, a rhaid i ni wneud yr hyn rydym ni’n ei wneud orau ac yn gallu gwneud cyfraniad o ansawdd hanfodol ato. Nid oes angen i ni wneud popeth na chadw rheolaeth lwyr dros bopeth. Mae egwyddor datrysiadau mentrus a chydweithredol yn hytrach na datrysiadau paranoiaidd a chystadleuol yn cael ei hargymell yn fawr. Nid oes rhaid i chi dyfu’r gwenith, malu’r blawd a phobi’r bara os gwneud y frechdan yw’ch gwerth ychwanegol gwirioneddol.

Yn yr un modd, a oes angen i ni ei brynu neu a oes opsiwn rhentu / prydles ac a ydym ni wedi cynnal dadansoddiad cost / budd o’r gwahanol opsiynau?

Beth yw’r ffynonellau cyllid ar gyfer mentrau cymdeithasol?

Mae amrywiaeth o wahanol ffynonellau cyllid ar gael i fusnesau cymdeithasol. Yn yr un modd â busnesau preifat, mae’r mathau o gyllid yn dod o dan gategorïau ecwiti, grantiau a dyled.

Yn draddodiadol, mae ecwiti’n ffordd o godi cyllid gan fuddsoddwyr allanol yn gyfnewid am werthu cyfran o’ch busnes. Nid yw dyled, ar y llaw arall, yn golygu rhoi’r gorau i berchnogaeth  – mae fel arfer yn golygu cael benthyg arian yr ydych yn cymryd cyfrifoldeb am ei ad-dalu â llog yn y dyfodol. 

Gall grantiau fod yn gyfraniad, yn rhodd neu’n gymhorthdal (mewn arian parod neu mewn nwyddau) a roddwyd gan lywodraeth neu sefydliad arall at ddibenion penodol. Yn aml, mae angen bodloni amodau penodol, megis cynnal safon benodol neu gael y derbynnydd i wneud cyfraniad cyfrannol, er mwyn rhoi grant.  

Mae opsiynau cyllid ar gael i fusnesau cymdeithasol yn unig, yn rhinwedd eu diben cymdeithasol a’u hymgysylltiad â buddsoddwyr cymunedol a chymdeithasol. Y prif fodelau cyllido eraill a ddefnyddir gan fusnesau cymdeithasol yw cyfranddaliadau cymunedol a buddsoddiadau cymdeithasol.  

Cyfalaf cyfranddaliadau y gellir ei dynnu allan yw cyfranddaliadau cymunedol, sef ffurf ar ecwiti sy’n unigryw i gymdeithasau cydweithredol cofrestredig a chymdeithasau. Mae buddsoddiadau cymdeithasol, ar y llaw arall, yn fuddsoddiadau sy’n cael eu gwneud yn rhannol neu’n gyfan gwbl ar gyfer enillion cymdeithasol yn hytrach nag ariannol. 

Mae cyllid torfol a chyllid gan deulu a ffrindiau hefyd yn ffynonellau cyllid hyfyw ar gyfer eich menter gymdeithasol.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.