Mae Idris yn Rheolwr Perthnasoedd ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Twf, gan weithio gyda busnesau uchelgeisiol ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd Powys i'w helpu i wireddu eu potensial i dyfu a chyflawni llwyddiant hirdymor.
Gyda chefndir cryf mewn technoleg a gweithgynhyrchu, mae Idris yn dod â chyfoeth o arweinyddiaeth ac arbenigedd strategol i'r rhaglen.
Cyn hynny bu'n gwasanaethu fel Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni dylunio a gweithgynhyrchu electroneg, arweiniodd proses Pryniant gan Reolwyr (MBO) yn llwyddiannus ac yn ddiweddarach roedd yn gyfarwyddwr gyda Fforwm Electroneg Cymru ac ESTnet Ltd, gan hyrwyddo'r sector ledled gogledd Cymru.
Mae Idris wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi arloesedd a chydweithio rhwng busnesau a'r byd academaidd drwy ei waith fel Cynghorydd Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ar ran Innovate UK ar gyfer gogledd Cymru ac yn ddiweddarach de-orllewin Lloegr a Chymru fel Uwch-gynghorydd KTP.
Mae ei brofiad llywodraethu yn cynnwys gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol ar sawl bwrdd, gan gynnwys deiliadaeth chwe blynedd gydag Ymddiriedolaeth y GIG. Mae Idris hefyd wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o brosiectau technoleg a ariennir gan yr UE, gan weithio gyda phrifysgolion a phartneriaid masnachol ledled Ewrop.
Yn rhugl yn y Gymraeg, mae Idris yn angerddol am gefnogi busnesau yng Nghymru i arloesi, tyfu a chystadlu ar lwyfan byd-eang.