Rheolwr Perthnasoedd RCT

Howard Jones

Rheolwr Perthnasoedd, De-Ddwyrain Cymru

Mae Howard yn hyfforddwr ac ymgynghorydd profiadol iawn gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn datblygu sefydliadol, arweinyddiaeth a thwf busnes. Mae hefyd yn Gymrawd Siartredig o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). 

Dechreuodd Howard ei daith broffesiynol yn NatWest Bank cyn symud i'r International Thomson Organisation (ITO), lle roedd ganddo rolau mewn hyfforddiant marchnata, adnoddau dynol a rheoli.

Tra yn ITO, lansiodd Thomson Media Services, menter cyhoeddi cylchgronau, ac yn ddiweddarach sefydlodd gwmni cyhoeddi mewn partneriaeth â Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).

Ers 2014, mae wedi gweithio'n annibynnol, gan gyflwyno prosiectau hyfforddi ac ymgynghori pwrpasol ar draws gwahanol sectorau. Fel Rheolwr Perthnasoedd o fewn y Rhaglen Cyflymu Twf, mae Howard yn cefnogi busnesau uchelgeisiol yng Nghymru i ehangu'n effeithiol. Mae'n helpu i nodi cyfleoedd a mynd i'r afael â heriau trwy gymorth ymarferol wedi'i deilwra, sydd wedi'i gynllunio i ddatgloi twf cynaliadwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.