Mae Gwenllian yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes arweinyddiaeth a datblygiad economaidd sydd â hanes cryf o arwain rhaglenni twf busnes, rheoli partneriaethau strategol a chyflawni mentrau datblygu rhanbarthol ledled Cymru. Mae ganddi sgiliau ym maes arwain, rheoli, masnacheiddio, cefnogi arloesedd, arwain rhaglenni, ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu cyllid.
Mae ganddi brofiad helaeth o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â'r byd academaidd, sy'n ei galluogi hi i ddarparu cymorth busnes, rhaglenni arweinyddiaeth a strategaethau datblygu economaidd. Mae Gwenllian yn meddu ar allu profedig i arwain timau amlddisgyblaethol, rheoli prosiectau cymhleth a datblygu rhwydweithiau cydweithredol sy'n sbarduno effaith economaidd.
Darganfu Gwenllian awch am weithio gyda busnesau gan eu cefnogi trwy newid a thwf. Arweiniodd dimau nodedig LEAD Cymru, ION Leadership a 20Twenty Business Growth ym Mhrifysgol Bangor lle datblygodd, tyfodd a darparodd y rhaglenni hynod boblogaidd ac effeithiol am dros 10 mlynedd.
Ar ben ei hymdrechion proffesiynol, caiff Gwenllian ei symbylu gan heriau corfforol a meddyliol, ar ôl cwblhau 4 Her Ultra a Moonwalk Canser y Fron, ychydig o rasys 10km, hanner marathon a digwyddiad Combat Soldier! A hithau’n un o sylfaenwyr Adlais, sef côr cymysg lleol, mae Gwenllian yn falch dros ben o’r hyn mae’r côr wedi’i gyflawni.