Economi Gylchol

Yn cyd-fynd â'r Strategaeth Arloesi, mae Cronfa'r Economi Gylchol ar gael i sefydliadau trwy eu gweithgareddau arloesi arfaethedig.

  • Dylai gefnogi buddsoddiad i gynyddu'r defnydd o gynnwys wedi'i ailgylchu a'i ailddefnyddio mewn cynhyrchion neu gydrannau neu i ymestyn oes cynhyrchion/deunyddiau.
  • Bydd gweithgareddau Economi Gylchol yn cael eu cefnogi drwy'r Gronfa Economi Gylchol a bydd unrhyw weithgareddau arloesi sy'n cyd-fynd â hynny yn cael eu cefnogi drwy Gymorth Arloesi Hyblyg SMART

Cefnogi tri maes gweithgaredd

  • Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Economi Gylchol
  • Pontio i economi gylchol
  • Uwchraddio i economi gylchol

Pwy sy'n gallu cael mynediad at y gefnogaeth?

  • Busnesau o unrhyw faint
  • Sefydliadau ymchwil.
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector
  • Byrddau Iechyd

Faint sydd ar gael?

Mae hyn yn dibynnu ar y sefydliad a'r math o brosiect

  • Enghraifft ar gyfer busnesau:
  • Cyllid nodweddiadol o £200,000 y flwyddyn am 2 flynedd
  • Cyfradd ymyrraeth – 50%

Beth sydd angen ei gyflawni?

Mae’n hanfodol bod pob prosiect yn dangos y bydd yn defnyddio mwy o ddeunydd wedi’i ailgylchu, ei ailddefnyddio a’i ailweithgynhyrchu mewn cynhyrchion neu brosesau hen neu newydd. Hefyd, bydd angen i bob prosiect ddangos ei fod yn gallu sicrhau o leiaf un o’r canlyniadau canlynol: 

  • Lleihau allyriadau CO2
  • Lefelau gwastraff
  • Gwell cynhyrchiant
  • Datblygu a/neu cyflwyno cynhyrchion neu brosesau newydd neu well
  • Cyflawni safon/barcud perthnasol BSI cydnabyddedig


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.