Trwy ein gwasanaeth ymgynghori arbenigol, rydym yn rhoi cyngor i chi ar sut y gall technolegau digidol a defnyddio offer digidol wella eich cynhyrchiant a chyflymu datblygiad cynnyrch newydd.
Gallai hyn gynnwys cyngor ar sut i gyflwyno prosesau digidol fel:
- efelychu,
- awtomeiddio
- dadansoddi data,
- offer cysylltedd,
- dylunio 3D ac argraffu 3D.
Yn dilyn adolygiad diagnostig 3 diwrnod, byddwch yn cael adroddiad a chynllun gweithredu sy'n dangos sut y gallwch ddefnyddio dulliau ac offer digidol i wella eich cynhyrchiant a chyflymu datblygiad eich cynnyrch newydd
Efallai y bydd 5 diwrnod arall o gymorth hefyd ar gael i chi weithredu'r argymhellion yn y cynllun gweithredu,
Mae gan ein hymgynghorwyr arbenigedd mewn llawer o feysydd dylunio, gan gynnwys
- deunyddiau a gweithgynhyrchu
- dylunio cynnyrch
- dylunio diwydiannol
- dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu
- dylunio pecynnu
- dylunio eco ac economi gylchol
- cynllunio'r gwasanaeth
- rheoli dylunio.
Cynhyrchiant yn cefnogi llwyddiant
Mae Cymorth Arloesi Hyblyg SMART yn cynnig cyllid a chymorth technegol.Gweld sut y ffynnodd Haydale a sut y gallai eich sefydliad hefyd ddefnyddio cefnogaeth Cymorth Arloesi Hyblyg SMART .

Mae’r cyflenwr seddi teithwyr awyrennau byd-enwog Safran Seats GB, wedi harneisio ei hadnoddau a’i harbenigedd wrth ddatblygu ei phrosesau gweithgynhyrchu

Mynediad SMART FIS cymorth
Gall eich sefydliad hefyd lwyddo o'n cefnogaeth.