Ynni

Mae lleihau’r defnydd o ynni’n gwneud synnwyr i fusnesau; mae’n arbed arian, yn hybu enw da corfforaethol ac mae’n helpu pawb i gyfrannu at y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Fodd bynnag, mae costau ynni’n aml yn cael eu gweld fel gorbenion sefydlog gan lawer o sefydliadau. Ond, trwy fabwysiadu dull cywir o reoli ynni mae modd gwneud arbedion sylweddol.

Rhaid i reolaeth lwyddiannus dros ynni gyfuno strategaeth effeithiol â’r ymyriadau ymarferol cywir. Mi fyddai llawer o sefydliadau’n hoff arbed ynni, ond rhaid iddynt sicrhau bod rheoli
ynni’n rhan anhepgor o redeg y sefydliad os am sicrhau llwyddiant.

Rydym yn awgrymu eich bod yn gyntaf yn darllen yr arweiniad ar reoli ynni. Mae’r arweiniad
yn egluro’r hyn a olygir wrth sôn am reoli ynni a pham ei fod yn bwysig, gyda’r adrannau sy’n dilyn yn mynd i fwy o fanylder am y gwahanol elfennau sydd ynghlwm wrth reoli ynni’n llwyddiannus. Er bod yr arweiniad yn cynnwys llawer o fanylion, mae’n berthnasol i sefydliadau o bob maint. Dylech addasu’r dull rheoli ynni yn ôl maint ac anghenion eich sefydliad chi, gan y bydd gan sefydliadau gwahanol flaenoriaethau gwahanol. Gall sefydliadau llai a llai cymhleth reoli ynni’n effeithiol trwy fabwysiadu dull symlach.

Mae gwres a golau fel arfer yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r ynni a ddefnyddir gan sefydliad. Mae’r rhain felly’n feysydd allweddol wrth ystyried ymdrechion effeithlonrwydd ynni. O ganlyniad i hyn, mae arweiniad ar wahân ar bob un o’r ddau bwnc. Mae’r canllawiau hyn yn egluro lle mae’r cyfleoedd gorau i wneud arbedion, yr hyn i’w gadw mewn golwg, a sut i’w gweithredu.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel.

Canllawiau

  1. Rheoli Ynni
  2. Golau LED
  3. Gwresogi

Taflenni Ffeithiau

  1. Ynni manwerthu
  2. Ynni swyddfeydd
  3. Ynni diwydiannol

Cliciwch astudiaethau achos.




Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.