Mae rhwydweithiau’n gallu bod yn lleoedd gwych i gael help i chi a’ch busnes. Dyma rai y gallech holi mwy amdanyn nhw.
Network She
Mae Network She yn helpu i greu cysylltiadau, agor drysau a chefnogi menywod wrth iddyn nhw a’u busnesau ddatblygu. Mae Network She yn sbarduno ac ysbrydoli ac yn cynnig cyfleoedd a hwyl i fenywod sydd am lwyddo.
Rhwydwaith FSB
Ffederasiwn Busnesau Bach yw'r sefydliad blaenllaw ar gyfer busnesau bach a'r hunangyflogedig ac fe gefnogir entrepreneuriaid benywaidd trwy amrywiol fentrau.
Superwoman
Grŵp rhwydweithio ar gyfer menywod busnes yn Ne Cymru yw Superwoman, sy’n trefnu digwyddiadau ac yn codi arian ar gyfer elusennau.
WEN Wales
Rhwydwaith proffesiynol cefnogol; cyfnewid gwybodaeth; digwyddiadau a gweithgareddau; rhwydweithio. Maen nhw’n edrych ar bynciau llosg menywod mewn busnes ac yn uno ac yn adeiladu’r sector menywod yng Nghymru. Maen nhw’n gweithio i sicrhau bod penderfynwyr yng Nghymru, y DU a ledled y byd yn gwrando ar leisiau menywod a merched.
Clwb Busnes i Fenywod – Busnesau Menywod Caerdydd
Cysylltu, cefnogi a rhoi pŵer i fenywod busnes trwy rwydwaith cenedlaethol o giniawau busnes a grwpiau arbenigwyr.
Siambrau Masnach
Mudiadau sy’n cael eu rhedeg gan eu haelodau yw Siambrau Masnach sy’n cynnig help o bob math i’w haelodau gan gynnwys rhwydweithio â busnesau eraill a rhannu cyfleoedd, cyngor a gwybodaeth.