Cynhyrchion Defnyddwyr
Gwasanaethau Ymgynghorol
Darparu arweiniad a chymorth i gwmnïau ar bob mater sy'n ymwneud â Iechyd a Diogelwch; GDPR; GPSR. Gweithio ar draws gwledydd DU, UE, UDA, Asia a’r Môr Tawel a Chyngor Cydweithredol y Gwlff i sicrhau bod nwyddau sy'n cael eu mewnforio a'u hallforio yn cyd-fynd â rheoliadau rhanbarthol a
Cynnyrch Cosmetig a Lles
Mae Conscious Skincare yn cynhyrchu â llaw y cynnyrch organig o'r ansawdd gorau ar gyfer y wyneb a'r corff ac yn eu cymysgu'n arbennig i siwtio gwahanol fathau o groen.
Mae'n cael ei gydnabod trwy'r byd fel arloeswr a chynhyrchydd o ansawdd uchel o fewn y diwydiant atchwanegion maeth.
Dechreuodd stori Health and Her yn 2019, pan benderfynodd ei sylfaenwyr, Kate Bache a Gervase Fay, ei bod yn bryd cael gwared ar y dryswch ym myd iechyd menywod a chynnig rhywbeth fyddai'n grymuso menywod i feddiannu'u menopos eu hunain. Mae Health & Her yn arbenigwyr ar y perimenopos a'r menopos
Brand disglair, di-flewyn-ar-dafod sy'n dathlu'r amherffaith ac yn addysgu'r defnyddiwr am groen, yn hytrach na gwerthu breuddwydion ffug o 'berffeithrwydd' ac 'atebion cyflym'.
Montagne Jeunesse yw un o brif gwmnïau teuluol harddwch a gofal croen y DU sy'n gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion i dros 90 o gwmnïau ledled y byd. Mae Montagne Jeunesse, sy'n gyfeillgar i lysieuwyr a feganiaid, wedi bod yn cynhyrchu cynhyrchion wedi'u hysbrydoli gan blanhigion ers 1985. Maent yn
Mae My Flawless yn gwmni gofal croen, di-greulondeb a figan annibynnol sy'n eiddo i fenywod yn y Gogledd. Lansiwyd eu cynnyrch diwastraff yn 2019 wrth iddynt weld effeithiau llygredd plastig ar draws y byd.
Mae Olew yn frand gofal gwallt naturiol sydd wedi'i gynllunio i ymhyfrydu yn eich gwallt naturiol! Elinor Davies-Farn wnaeth greu Olew, ar ôl buddsoddi dim ond £100 yn ei busnes gofal gwallt ei hun a ddechreuodd yn ei chegin, gan ddefnyddio cynhwysion naturiol a'r rhyngrwyd.
Mae Really Wild Soaps yn naturiol, mwyn, ysgafn eu persawr a maethlon i'r croen. Mae'r cynhwysion gwyllt yn cael eu casglu â llaw o berthi, arfordir a thraethau ardal Tyddewi. Mae rhai o'r sebonau yn cynnwys mêl a chwyr gwenyn.
Cynhyrchion sy'n gofalu am les y cwsmer, gan arbenigo mewn cymysgeddau naturiol a chynaliadwy a chynhwysion arloesol.
Atchwanegion llysieuol a thrwythi naturiol ar gyfer anifeiliaid ac anifeiliaid anwes. 100% o'r holl gynhwysion yn naturiol ac o radd addas i bobl.
Mae Rhug Wild Beauty yn cynhyrchu cynnyrch gofal croen a chorff moethus sydd wedi'u gwneud o gynhwysion organig, naturiol a gwyllt effeithiol ar Ystâd Rhug yn y Gogledd.
Mae SPORTTAPE yn fusnes teuluol, gyda chwaraeon yn ei DNA. Ei nod yw cynnal miliwn o athletwyr yr wythnos â thapiau y gallant ymddiried ynddynt. Daeth SPORTTAPE o'r angerdd i helpu athletwyr i gael llai o anafiadau ac i ymadfer yn gynt. Roedden nhw am iddyn nhw deimlo manteision tâp cinesiolegol.
Mae Wales Perfumery yn cynhyrchu amrywiaeth o beraroglau wedi'u gwneud o gynhwysion lleol o ffynonellau cyfrifol sy'n adlewyrchu harddwch ac amrywiaeth cefn gwlad Cymru. Wedi'u cymysgu'n fedrus gan y perchennog a'r prif bersawrydd Louise Smith, mae'r cwmni'n magu enw da am bersawr unigryw ar gyfer
Ffasiwn ac Ategolion
Sefydlwyd Art on Scarves gan yr artist Lucy Hay, sy'n byw yn y Gogledd. Roedd Lucy yn chwilio am ffordd i arddangos ei darluniau a'i phaentiadau gwreiddiol a thrwy ddamwain, printiodd ddelwedd ar sgarff! A dyna eni Art on Scarves.
Mae plant yn creu annibendod! Aeth Bibado felly ati i ddylunio ystod o ddillad babi, ategolion ac offer sy'n troi gwaith dannedd a dechrau bwyta bwyd caled yn hwyl, gan ganiatáu i'r babi archwilio sut i fwyta.
Mae Corgi Hosiery Ltd yn wneuthurwr sanau a dillad gwau moethus, yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Gan ddefnyddio peiriannau a thechnegau gwau gwreiddiol, ynghyd â thechnolegau modern, mae ffatri Corgi yn cael ei rhedeg gan y teulu, ac erbyn hyn yn 5 cenhedlaeth oed.
Mae ein cenhadaeth yn un syml: gwneud heb gyfaddawd dim byd ond edafedd 100% organig, y gellir ei olrhain, sy'n gwbl bositif o ran yr hinsawdd ac yn eithriadol o organig. Ni oedd y cwmni cyntaf yn y byd i wneud edafedd organig, o'r ddafad i'r siop, a dydyn ni erioed wedi rhoi'r gorau i fod yn
Bydd cynhyrchion horolegol Rapport Llundain yn helpu i gadw ac ymestyn oes eich wats/cloc. Rydym yn gwmni teuluol sy'n defnyddio llawer o draddodiadau a thechnegau'r crefftwyr yr oeddem yn eu harfer dros 120 mlynedd yn ôl pan gawsom ein lansio.
Rhoddion a Ffordd o Fyw
Mae Michael Abakhan Limited yn fusnes teuluol tair cenhedlaeth oed yn y diwydiant defnydd, edafedd a chrefftau. Mae'r cwmni'n allforio i hen gwsmeriaid yn Sgandinafia ac i'w is-gwmni yng ngwledydd y Baltig, yn ogystal â chyfanwerthu yn y DU. Mae'n gobeithio ehangu ac allforio i farchnadoedd
Teganau eco- a figan-gyfeillgar ar gyfer gwneud swigod gyda deunydd pacio y gellir ei ailgylchu.
Casgliad o ofaint, cerflunwyr, seramegwyr, chwythwyr gwydr a gwneuthurwyr celfydd sy'n arddangos creadigrwydd a harddwch arteffactau cywrain a wnaed yn falch yng Nghymru. Mae'r artistiaid medrus hyn yn cynhyrchu darnau unigryw, yn aml i gomisiwn, neu fel rhediad byr o eitemau sy'n canolbwyntio ar
Yn teimlo’n rhwystredig oherwydd systemau teithio i blant, oedd yn anymarferol ac yn rhy ddrud, sefydlodd Fran a Veronica Ickle Bubba dros ddeng mlynedd yn ôl er mwyn creu detholiad steilus o offer ar gyfer teuluoedd ifanc. Wedi dechrau gyda phramiau a chadeiriau gwthio, mae Ickle Bubba bellach yn
Anrhegion radical a ffeministaidd i’r cartref wedi'u hysbrydoli gan gymeriadau hanesyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol mawr y gorffennol.
Offer rhybuddio LED ar gyfer modurwyr.
Mae Tarian yn dewis yr argaenau gorau o bren Cymreig i greu eu drymiau a wneir yn fanwl â llaw. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o wneuthurwyr modern, mae Tarian yn defnyddio’r dull o gywasgu oer y maent yn ei gredu sy’n gwarchod cyfanrwydd y deunyddiau a ddefnyddir ac yn ychwanegu at donyddiaeth eu
Mae Timberkits yn gwmni teuluol a gafodd ei sefydlu yn 1993, ym mherfeddion y Canolbarth. Maent yn dylunio, yn prototeipio ac yn cynhyrchu modelau newydd bob blwyddyn ac yn gwasanaethu cwsmeriaid ledled y byd.
Ategolion wedi'u gwneud â llaw ar gyfer dioramas gemau a rheilffyrdd
Mae Litelok® yn gwneud cynhyrchion premiwm ar gyfer atal lladron beiciau, e-feiciau, sgwteri a beiciau modur gan ddefnyddio deunyddiau arloesol ac ysgafn, peirianneg dylunio arbenigol a thechnoleg flaengar ym Mhrydain.
Iechyd a Harddwch
Olewau harddwch naturiol ar gyfer cyflyrau gwallt a croen y pen wedi'u difrodi.
Nwyddau i'r Cartref
Sheepskin footstools, furniture & home accessories
Sefydlwyd Catipilla yn 2016 i werthu ystod newydd o gynhyrchion yn y farchnad celfi cathod. Mae'r holl gynhyrchion yn hyrwyddo iechyd a lles cathod, gan ddefnyddio peirianneg arloesol, dulliau cynhyrchu o ansawdd uchel a gwaith dylunio hardd - i gyd am bris fforddiadwy.
Persawrau cwbl naturiol heb unrhyw gynhwysion synthetig. O ffynonellau a chyda deunydd pacio cynaliadwy.
Wedi'i ysbrydoli gan eu cariad at lyfrau plant a chan eu cefndir mewn hanes celf, mae darluniau Forivor yn mynd â phlant ar daith o ddydd i nos, lle mae'r annisgwyl a gweddnewidiad yn bethau i'w disgwyl. Mae Forivor wedi adeiladu model ar gyfer y dyfodol, gan wau'n gain eu straeon mewn dillad gwely
Mae Melin Tregwynt yn ymddiriedolaeth sy'n eiddo i'r gweithwyr, sy'n cyfuno traddodiadau'r grefft o wehyddu ar frethyn dwbl â lliwiau hardd a dylunio modern arloesol. Heddiw mae brethyn Tregwynt i'w weld mewn gwestai a siopau â safonau dylunio uchel ledled y byd ac ar ffilm a theledu. Dros y
Anrhegion personol dan arweiniad dylunio ac ategolion cartref yn bennaf mewn pren caled, wedi'u dylunio a'u saernïo yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynnig ystod rhoddion corfforaethol premiwm yn ogystal â gwasanaeth dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch pwrpasol.
Mae Milford Collection wedi bod yn cyflenwi anrhegion o safon ar gyfer y cartref a'r ardd ers 1985. Mae'r rhan fwyaf wedi'u gwneud o wydr.
Sefydlwyd cwmni House Nameplate ym 1986 gyda'r syniad o greu arwyddion, rhifau a blychau llythyrau hardd wedi'u crefftio â llaw ar gyfer cartrefi pobl.