Newyddion

Diwrnod Entrepreneuriaeth Menywod 2024

Female Entrepreneur

Cynhelir Diwrnod Entrepreneuriaeth Menywod ar 19 Tachwedd 2024. Mae Sefydliad Diwrnod Entrepreneuriaeth Menywod yn fudiad cymdeithasol sydd â’r nod o gefnogi ac ehangu entrepreneuriaeth ymhlith menywod y byd, yn ogystal â chreu tîm o arweinwyr ym mhob gwlad i ddatblygu sgiliau arwain allweddol. Y digwyddiad hwn yw dathliad mwyaf y byd ar gyfer menywod sy’n arloesi ac yn creu swyddi wrth lansio busnesau newydd, gan ddod â syniadau yn fyw, sbarduno twf economaidd, ac ehangu lles dynol.

Yn ogystal, mae Diwrnod Entrepreneuriaeth Menywod yn gyfle i anrhydeddu menywod busnes sydd wedi llwyddo ac ysbrydoli eraill, gan roi sylw ar yr un pryd  i fanteision buddsoddi mewn entrepreneuriaeth menywod.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Home - Women’s Entrepreneurship Day Organization (womenseday.org)

Cefnogi Menywod yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd entrepreneuriaid sy’n fenywod a’r cyfraniad a wnânt i economi Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.