Cymorth Llywodraeth Cymru

Mae'r DU wedi gadael yr UE. Ond mae dal angen i chi baratoi

Ers y refferendwm ar yr UE yn 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn glir mai ei bwriad yw diogelu dyfodol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan Lywodraeth y DU fandad i seilio perthynas y DU yn y dyfodol ar y Datganiad Gwleidyddol y cytunodd yr UE iddo ym mis Hydref 2019. Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd ein cysylltiadau â’r UE, rydym yn credu bod angen i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, mewn nifer o feysydd pwysig, fod yn agosach ac yn ddyfnach na’r hyn a nodir yn y Datganiad Gwleidyddol.

Dyma flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y berthynas â’r UE yn y dyfodol.

Ymadawodd y DU â’r UE ar 31 Ionawr 2020

Mae'r DU mewn cyfnod pontio sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Cytunwyd ar y cyfnod pontio i ganiatáu i'r DU a'r UE gytuno ar fargen ar eu perthynas yn y dyfodol.

Yn ystod y cyfnod pontio, mae'r rhan fwyaf o reolau a threfniadau masnachu presennol yr UE wedi aros yn eu lle. Fodd bynnag, o 1 Ionawr 2021, bydd y DU wedi gadael Marchnad Sengl yr UE ac ni fydd gan fusnesau'r DU fynediad hwylus mwyach i'r fasnach mewn nwyddau neu wasanaethau gydag aelod-wladwriaethau'r UE. Bydd hyn yn wir p'un a yw'r DU yn cyflawni cytundeb masnach gyda'r UE neu'n gadael heb gytundeb. Efallai yr effeithir hefyd ar yr hawl i deithio heb fisâu i wledydd eraill yr UE.

Mae'r dudalen hon yn rhoi cyngor i ddinasyddion, sefydliadau a sectorau ledled Cymru am y camau y mae angen eu cymryd mewn perthynas â phontio'r UE a chaiff ei ddiweddaru'n rheolaidd.

Caffael Cyhoeddus

Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid eraill i helpu i sicrhau nad yw'r ffordd y mae'r sector cyhoeddus yn caffael wedi newid i raddau helaeth yn ystod y cyfnod pontio. Mae rheolau caffael yr un fath ac nid yw trothwyon wedi newid o ganlyniad i ni adael yr UE. Newidiodd y trothwyon ar 1 Ionawr ar gyfer holl aelodau'r UE a byddwn yn parhau i gadw at y newid hwn.

Ar ôl y cyfnod pontio, y prif newid fydd y bydd hysbysiadau o gontractau newydd yn cael eu cyhoeddi ar wasanaeth E-hysbysu'r DU o'r enw 'Find a Tender' (FATS) yn hytrach na'r Cyfnodolyn Swyddogol yr UE (OJEU) ac i Tenders Electronic Daily (TED). Bydd hyn yn parhau i gael ei wneud drwy GwerthwchiGymru, felly ni ddylai wneud fawr ddim gwahaniaeth amlwg i ddefnyddwyr. GwerthwchiGymru yw'r gwasanaeth ar-lein am ddim sy'n helpu cyflenwyr i gael gwybod am gontractau busnes a chyfleoedd gyda gwasanaeth cyhoeddus Cymru.

Cysylltwch â Busnes Cymru

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu faterion gyda’r Porth Sign On Cymru (SOC), defnyddiwch y ddolen gysylltu isod neu fel arall gallwch ein ffonio ar linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Cysylltwch â ni

Dolenni perthnasol

Paratoi Cymru i ymadael â'r UE

Cymorth i ffermwyr Cymru ar ôl Brexit

Brexit ar LLYW.CYMRU